Y buddion i iechyd a dysgu

Mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn dangos bod bod mewn natur yn dda i'n hiechyd a'n hapusrwydd.
Gall annog gweithgarwch corfforol trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau sy'n cyffroi plant a phobl ifanc o bob oedran, lefel ffitrwydd a rhywedd.
Mae dysgu yn yr awyr agored yn hyrwyddo cyrhaeddiad academaidd trwy ddysgu ymarferol, dysgu drwy brofiad a thrwy wella prosesau gwybyddol ac emosiynol sy'n bwysig ar gyfer dysgu.
Mae chwarae ym myd natur yn cyfrannu at ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol, gan greu cysylltiad cryf â natur a helpu i sefydlu ymddygiadau gydol oes sydd o fudd i iechyd ac o blaid yr amgylchedd.
Rydym wedi cynhyrchu set o bosteri i ddangos manteision lluosog dysgu yn yr awyr agored:
- Poster - Cewch fuddion lles trwy fod yn yr amgylchedd naturiol
- Poster - Gall bod yn yr amgylchedd naturiol gynyddu gweithgarwch corfforol
- Poster - Gall dysgu yn yr awyr agored wella cyrhaeddiad academiadd
- Poster - Manteision chwarae ym myd natur
- Poster - 5 ffordd o roi hwb i’ch iechyd a’ch lles drwy gysylltu â natur
Mannau eraill yng Addysg a sgiliau
Diweddarwyd ddiwethaf