Newid neu trosglwyddo trwydded gweithgarwch perygl llifogydd

Newid (amrywio) eich trwydded

Newid manylion cyfeiriad neu gyswllt

Newid neu ychwanegu pethau i'ch trwydded

Trosglwyddo eich trwydded

Mae trwydded gweithgarwch perygl llifogydd yn benodol i leoliad. Os ydych yn gwerthu eich tir, ni allwch fynd â'ch trwydded gyda chi a pharhau â'r gweithgaredd trwyddedig yn eich lleoliad newydd.

Bydd angen i chi drosglwyddo eich trwydded i'r perchenogion newydd.

Os nad chi yw'r tirfeddiannwr, ond nid oes buddiant gennych mwyach yn y tir y mae gennych drwydded gweithgarwch perygl llifogydd ar ei gyfer, bydd angen i chi naill ai drosglwyddo perchenogaeth i ddeiliad trwydded newydd a fydd yn parhau â'r gweithgaredd, neu ildio eich trwydded.

Cwblhewch ffurflen gais D8 er mwyn trosglwyddo eich trwydded.

Apelio yn erbyn ein penderfyniad

Gallwch apelio os caiff cais am ildio ei wrthod a'ch bod o'r farn fod y caniatâd wedi'i ddal yn ôl yn afresymol, neu os yw'r ildiad wedi'i ganiatáu ond gydag amodau sy'n amhriodol yn eich barn chi.

Gweinidogion Cymru sydd fel arfer yn ymdrin ag apeliadau. Cysylltwch â ni os ydych am gael mwy o wybodaeth am y broses apelio.

Diweddarwyd ddiwethaf