Asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru

Ynglŷn â’r prosiect

Mae prosiect asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru wedi’i sefydlu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a rheoli adnoddau dyframaethu’n gynaliadwy.

Bydd y prosiect yn asesu ac yn mapio sensitifrwydd cynefinoedd a rhywogaethau morol i effeithiau amrywiaeth o weithgareddau dyframaethu, gan nodi'r cyfleoedd mwyaf amgylcheddol gynaliadwy ar gyfer datblygu dyframaeth ac i'r gwrthwyneb yn nodi meysydd lle ceir cyfyngiadau posibl.

Bydd y prosiect yn cefnogi cynlluniau morol yng Nghymru drwy ddarparu cyfres o adnoddau cyffredin, tryloyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer datblygwyr, rheoleiddwyr a chynghorwyr.

Adnoddau’r prosiect

  • Cronfa ddata o dystiolaeth ar effeithiau gweithgareddau dyframaethu;
  • Taenlen rhyngweithiadau sy'n dangos sensitifrwydd cynefinoedd a rhywogaethau i wahanol weithgareddau dyframaethu;
  • Asesiadau o weithgareddau dyframaethu sy’n seiliedig ar dystiolaeth; a
  • Mapiau’n nodi sensitifrwydd biotopau cynefinoedd a rhywogaethau i weithgareddau dyframaethu.

Cyllid y prosiect

Cefnogir y prosiect gan yr UE drwy Weinidogion Cymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Cwmpas daearyddol y prosiect

Cwmpas daearyddol y prosiect yw 'Parth Cymru', a ddiffinnir fel y rhan honno o'r môr sydd o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain sy’n gyfagos i Gymru.

Ffigur 1: cwmpas daearyddol y prosiect

Cynefinoedd a rhywogaethau a ystyrir yn y prosiect

Bydd y prosiect yn cynnwys cynefinoedd rhynglanwol ac islanwol y gwyddys eu bod yn bresennol yn nyfroedd Cymru. Ni fydd cynefinoedd arfordirol a'u rhywogaethau cydrannol yn cael eu hystyried yn y prosiect.

Efallai y bydd rhai cynefinoedd a rhywogaethau yn cael eu hepgor o gwmpas y prosiect os ystyrir bod gweithgareddau dyframaethu yng Nghymru yn annhebygol o ryngweithio â'r nodweddion hyn nawr ac yn y dyfodol.

Bydd y cynefinoedd a'r rhywogaethau morol a ystyrir gan y prosiect yn cynnwys y rhai y cyfeirir atynt o dan ddeddfwriaeth amrywiol megis

  • Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
  • Y Gyfarwyddeb Adar
  • Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Cyflawni’r prosiect

Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan ABPmer Ltd. ar ran CNC. Dechreuodd y prosiect ym mis Rhagfyr 2021 a bydd yn cwblhau'r holl dasgau erbyn mis Mehefin 2023. Amlinellir y dull o gyflawni'r tasgau cydgysylltiol hyn, ynghyd â'r rhaglen waith gysylltiedig, yn yr adroddiad cychwynnol hwn.

Tasgau’r prosiect

Tasgau

Dyddiad (diwedd y mis)

Adroddiad cychwynnol

Ionawr 2022

Cwblhau’r gronfa ddata o dystiolaeth a sgorio o ran sensitifrwydd

Gorffennaf 2022

Cwblhau’r profforma asesu a’r daenlen rhyngweithiadau y cytunwyd arnynt

Medi 2022

Cwblhau’r asesiadau o weithgareddau dyframaethu

Chwefror 2023

Cwblhau’r mapiau sensitifrwydd

Ebrill 2023

Cyhoeddi’r adroddiad terfynol

Mehefin 2023

Adroddiad cychwynnol y prosiect

Mae adroddiad cychwynnol y prosiect yn cyflwyno gwybodaeth am gwmpas ac amcanion prosiect asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru ac yn rhoi disgrifiad lefel uchel o'r dull ar gyfer pob un o'r tasgau a sut y caiff yr amcanion eu cyflawni. Darperir tybiaethau allweddol lle y bo'n briodol.

Asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru adroddiad cychwynnol

Diweddariadau rheolaidd ar y prosiect

Bydd diweddariadau ysgrifenedig ar y prosiect yn cael eu cynhyrchu bob dau fis, gan ddechrau ym mis Chwefror 2022 a pharhau drwy gydol y prosiect hyd nes y bydd wedi’i gwblhau. Bydd y diweddariadau hyn yn cael eu rhannu ar e-bost i grŵp o randdeiliaid. Os hoffech dderbyn y diweddariadau ysgrifenedig, cysylltwch â colin.charman@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Adroddiad terfynol y prosiect a chanllawiau i ddefnyddwyr

Bydd yna adroddiad terfynol yn crynhoi allbynnau'r prosiect ac yn rhoi arweiniad ar gyfer cymhwyso'r adnoddau a gynhyrchir, gan dynnu sylw'n glir at y ffaith bod yr allbynnau generig yn fan cychwyn i ffermwyr, rheoleiddwyr a chynghorwyr dyframaethu ystyried eu cynigion penodol. Tynnir sylw at unrhyw fylchau yn y dystiolaeth, cyfyngiadau, rhagdybiaethau, cyffredinoliadau a'r gwersi a ddysgwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf