Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015

Adran 33(1)(c) Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974

Gweithredwr yn mynd yn groes i unrhyw un o ofynion perthnasol Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (COMAH 2015)

Ymatebion troseddol safonol ac sy'n benodol i’r drosedd:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Ystyriaethau eraill a hysbysiadau sy'n benodol i'r drosedd hon:

(a) Ymdrinnir â COMAH 2015 fel rheoliadau iechyd a diogelwch o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
(b) Gorfodir COMAH 2015 gan yr Awdurdod Cymwys. Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod hwn ac mae'n gweithredu ar y cyd â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Swyddfa dros Reoli Niwclear.
(c) Nodir y trefniadau gweithio ynghylch safleoedd COMAH o fewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yr Awdurdod Cymwys. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch/Swyddfa dros Reoli Niwclear fel arfer yn arwain wrth ddelio â materion ynghylch iechyd a diogelwch pobl, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn arwain ar faterion ynghylch diogelu amgylcheddol.
(d) Mae nifer o sefydliadau COMAH hefyd yn destun rheoleiddio o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Ar gyfer safleoedd o'r fath, ceir dewis yn gyffredinol i gymryd camau gweithredu o dan COMAH neu o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (ar gyfer yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch). Mae angen archwiliad fesul achos.

Diweddarwyd ddiwethaf