Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Adran 28P

a.28P(1)

Heb esgus rhesymol, mynd yn groes i adran 28E(1) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (dyletswyddau perchenogion a deiliaid tir mewn perthynas â SoDdGA).

a.28P(2)(a)

Bod yn awdurdod sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a gweithredu mewn ffordd sy'n difrodi unrhyw fflora, ffawna neu nodwedd ddaearegol neu ffisiograffigol sy'n sail i statws diddordeb arbennig SoDdGA, heb gydymffurfio yn gyntaf ag adran 28H(1), oni bai bod esgus rhesymol am weithredu heb gydymffurfio

a.28P(2)(b)

Bod yn awdurdod sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a gweithredu mewn ffordd sy'n difrodi unrhyw fflora, ffawna neu nodwedd ddaearegol neu ffisiograffigol sy'n sail i statws diddordeb arbennig SoDdGA (os yw wedi cydymffurfio ag adran 28H(1), heb gydymffurfio yn gyntaf ag adran 28H(4)(a), oni bai bod esgus rhesymol am weithredu heb gydymffurfio.

a.28P(3)

Bod yn awdurdod sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac, ar ôl cydymffurfio ag adran 28H(1), methu â chydymffurfio ag adran 28H(4)(b), heb esgus rhesymol.

a.28P(4)

Bod yn awdurdod sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a chaniatáu gweithred sy'n difrodi unrhyw fflora, ffawna neu nodwedd ddaearegol neu ffisiograffigol sy'n sail i statws diddordeb arbennig SoDdGA, heb gydymffurfio yn gyntaf ag adran 28I(2), oni bai bod esgus rhesymol am ganiatáu'r weithred heb gydymffurfio.

a.28P(5A)(b)

Bod yn awdurdod sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a chaniatáu gweithred sy'n difrodi unrhyw fflora, ffawna neu nodwedd ddaearegol neu ffisiograffigol sy'n sail i statws diddordeb arbennig SoDdGA, heb gydymffurfio yn gyntaf ag adran 28I(4), oni bai bod esgus rhesymol dros ganiatáu'r weithred heb gydymffurfio.

a.28P(5A)(b)

Bod yn awdurdod sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a chaniatáu gweithred sy'n difrodi unrhyw fflora, ffawna neu nodwedd ddaearegol neu ffisiograffigol sy'n sail i statws diddordeb arbennig SoDdGA, heb gydymffurfio yn gyntaf ag adran 28I(6), oni bai bod esgus rhesymol dros ganiatáu'r weithred heb gydymffurfio.

a.28P(6)

Bod yn unigolyn, nad yw'n awdurdod, sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac sydd, heb esgus rhesymol, yn dinistrio neu'n difrodi unrhyw fflora, ffawna neu nodwedd ddaearegol neu ffisiograffigol sy'n sail i statws diddordeb arbennig y tir, yn fwriadol neu'n ddi-hid, gan wybod bod yr hyn a ddinistriwyd neu a ddifrodwyd o fewn SoDdGA.

a.28P(6)

Bod yn unigolyn, nad yw'n awdurdod, sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac sydd, heb esgus rhesymol, yn aflonyddu ar unrhyw ffawna sy'n sail i statws diddordeb arbennig y tir, yn fwriadol neu'n ddi-hid, gan wybod bod yr hyn y tarfwyd arno o fewn SoDdGA.

a.28P(6A)(a)

Trosedd ddiannod yn unig. 

Bod yn unigolyn, nad yw'n awdurdod, sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac sydd, heb esgus rhesymol, yn dinistrio neu'n difrodi unrhyw fflora, ffawna neu nodwedd ddaearegol neu ffisiograffigol sy'n sail i statws diddordeb arbennig SoDdGA yn fwriadol neu'n ddi-hid.

a.28P(6A)(b)

Trosedd ddiannod yn unig. 

Bod yn unigolyn, nad yw'n awdurdod, sy'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 28G Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac sydd, heb esgus rhesymol, yn aflonyddu ar unrhyw ffawna sy'n sail i statws diddordeb arbennig SoDdGA yn fwriadol neu'n ddi-hid.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Hysbysiad(au) a awgrymir: Gorchymyn Adfer SoDdGA

  • Am drosedd ddiannod, dirwy o ddim mwy na £20,000.
  • Am euogfarn ar dditiad, dirwy.

Adran 28Q

Trosedd ddiannod yn unig. 

  1. Fel perchennog ar dir sydd wedi'i gynnwys mewn SoDdGA, cael gwared ar fudd yn y tir a methu, heb esgus rhesymol, ag anfon hysbysiad i Gyngor Cefn Gwlad Cymru cyn diwedd cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd wared ar y budd.
  2. Fel perchennog ar dir sydd wedi'i gynnwys mewn SoDdGA, dod yn ymwybodol fod deiliad ychwanegol neu wahanol arno a methu, heb esgus rhesymol, ag anfon hysbysiad i Gyngor Cefn Gwlad Cymru cyn diwedd cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth yn ymwybodol o'r newid mewn deiliadaeth.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Am drosedd ddiannod, dirwy nad yw'n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol. 

Adran 28S

Heb esgus rhesymol, tynnu i lawr, difrodi, dinistrio neu guddio hysbysiad neu arwydd a godwyd o dan adran 28S(1) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (hysbysiadau ac arwyddion sy'n ymwneud â SoDdGA), yn fwriadol neu'n ddi-hid.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Am drosedd ddiannod, dirwy nad yw'n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol. 

Adran 31(5)

Bod yr unigolyn y rhoddwyd Gorchymyn Adfer yn ei erbyn o dan adran 3 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, a methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r gorchymyn o fewn y cyfnod penodedig

Troseddau diannod yn unig.   

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad
  • Ariannol Newidiol Am drosedd ddiannod, dirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, ac, yn achos trosedd barhaus, dirwy bellach nad yw'n fwy na £100 ar gyfer pob diwrnod y mae'r drosedd yn parhau yn dilyn euogfarn. 

Adran 51(4)

Rhwystro unigolyn sy'n arfer ei bwerau o dan adran 51(1) (pwerau mynediad) yn fwriadol.

Troseddau diannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Am drosedd ddiannod, dirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol: 51(4).

Gellir dwyn achos ar gyfer trosedd ddiannod o dan y rhan hon o fewn cyfnod o chwe mis yn dechrau ar y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth, a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau dwyn achos, ac, ymhob achos, o fewn dwy flynedd i gyflawni'r drosedd. 

Atodlen 9A, Rhan 3, Erthygl 19(1)

Methu â chydymffurfio â gofyniad Gorchymyn Rheoli Rhywogaeth

Troseddau diannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Am drosedd ddiannod, gellir cael carchar am gyfnod nad yw'n fwy na 51 wythnos, neu ddirwy, neu'r ddau. Lle cyflawnir trosedd cyn y daw adran 281(5) Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i rym, ni ddylai’r carchariad barhau mwy na chwe mis. Lle cyflawnir trosedd cyn bod adran 85 Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 mewn grym, dylid dehongli'r cyfeiriad at ddirwy fel dirwy nad yw'n fwy na £40,000.

Mewn grym ar 12 Ebrill 2015. 

Atodlen 9A, Rhan 3, Erthygl 19(2)

Rhwystro unigolyn rhag cynnal gweithred y gofynnir amdani neu a gynigir o dan Orchymyn Rheoli Rhywogaeth, yn fwriadol.

Troseddau diannod yn unig.

Ymatebion troseddol safonol ac sy'n benodol i’r drosedd:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Am drosedd ddiannod, gellir cael carchar am gyfnod nad yw'n fwy na 51 wythnos, neu ddirwy, neu'r ddau. Lle cyflawnir trosedd cyn y daw adran 281(5) Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i rym, ni fydd y carchariad yn parhau mwy na chwe mis. Lle cyflawnir trosedd cyn bod adran 85 Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 mewn grym, dylid dehongli'r cyfeiriad at ddirwy fel dirwy nad yw'n fwy na £40,000.

Mewn grym ar 12 Ebrill 2015. 

Deddf Ceirw 1991

Adran 8(5)

Mynd yn groes i, neu'n methu â chydymffurfio ag amod a osodir ar ganiatáu trwydded o dan adran 8 Deddf Ceirw 1991.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Deddf Gwarchod Moch Daear 1992

Adran 3

Oni chaniateir yn wahanol o dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992, ymyrryd â daear moch daear trwy (a) ei difrodi neu unrhyw ran ohoni, (b) ei dinistrio, (c) atal mynediad iddi neu i unrhyw un o'i mynediadau, (ch) achosi ci i gael mynediad iddi, neu (d) aflonyddu ar fochyn daear pan fydd yn y ddaear, gan fwriadu i wneud unrhyw un o'r pethau hynny neu fod yn ddi-hid o ran a fyddai ei weithrediadau yn arwain at unrhyw un o'r canlyniadau hynny.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Adran 10

Mynd yn groes i, neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw amod a osodir ar ganiatáu trwydded o dan adran 10 Deddf Gwarchod Moch Daear 1992.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017

Rheoliad 28(8)

Mynd yn groes i hysbysiad atal a gyflwynwyd o dan Reoliad 28(1) trwy dorri telerau Rheoliad 28(4).

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Rheoliad 31(5)

Methu â chydymffurfio â gorchymyn adfer.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Rheoliad 59

r.59(1)(a)

Bydd unigolyn ("U") yn gwneud datganiad neu ymhoniad, neu'n darparu dogfen neu wybodaeth y bydd U yn gwybod eu bod yn anwir o safbwynt manylyn perthnasol at ddiben cael, ar gyfer U neu rywun arall, caniatâd am drwydded o dan Reoliad 55 neu 56.

r.59(1)(b)

Bydd U, yn ddi-hid, yn gwneud datganiad neu ymhoniad, neu'n darparu dogfen neu wybodaeth sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol at ddiben cael, ar gyfer U neu rywun arall, caniatâd am drwydded o dan Reoliad 55 neu 56.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

30 Tachwedd 2017. 

Rheoliad 60

Mynd yn groes i, neu'n methu â chydymffurfio ag amod i drwydded a gafodd ei chaniatáu o dan Reoliad 55

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Yn gymwys mewn perthynas â thrwydded o dan Reoliad 55 a gafodd ei chaniatáu ar, neu ar ôl 21 Awst 2007. Y dyddiad dechrau ar gyfer y ddarpariaeth hon yw 30 Tachwedd 2017. 

Rheoliad 122(1)

Ceisio cyflawni neu feddu ar rywbeth y gellir ei ddefnyddio i gyflawni trosedd  rhywogaeth neu drosedd o dan Reoliad 59.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys

  • rhybudd
  • rhybuddiad ffurfiol
  • erlyniad

Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019

Erthygl 3(1)

Mynd yn groes i ddarpariaeth y Prif Reoliad a benodir yn Nhabl 1 o Atodlen 1 i’r Gorchymyn

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru 

Erthygl 3(2)

Rhyddhau unrhyw sbesimen i'r gwyllt, neu adael iddo ddianc i'r gwyllt, nad yw fel arfer yn frodorol ac nad yw'n ymweld yn rheolaidd â Phrydain Fawr yn ei ffurf wyllt, neu sydd wedi'i gynnwys yn Rhan 1 Atodlen 2

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru. 

Erthygl 3(3)

Unigolyn sy'n plannu unrhyw sbesimen yn y gwyllt, neu sydd fel arall yn achosi iddo dyfu yn y gwyllt, sy'n rhywogaeth o blanhigyn sydd wedi'i chynnwys yn Rhan 2 Atodlen 2

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru.

Erthygl 3(4)(a)

Unigolyn sy'n gwerthu unrhyw sbesimen sydd wedi'i gynnwys yn Rhan 3 Atodlen 2, neu'n ei gynnig neu'n ei ddatgelu ar gyfer ei werthu, neu sy'n meddu arno neu'n ei gludo at ddibenion ei werthu.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru

Erthygl 3(4)(b)

Cyhoeddi unrhyw hysbyseb, neu achosi iddi gael ei chyhoeddi, y gellid deall ohoni ei bod yn cyfleu bod yr unigolyn yn prynu neu'n gwerthu, neu'n bwriadu prynu neu werthu, unrhyw sbesimen sydd wedi'i gynnwys yn Rhan 3 Atodlen 2

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru. 

Erthygl 4(1)

Unigolyn sydd, at ddibenion cael caniatâd ar gyfer trwydded (ar gyfer yr unigolyn hwnnw neu rywun arall), yn gwneud datganiad neu ymhoniad, yn fwriadol neu'n ddi-hid, sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol, neu'n darparu dogfen neu wybodaeth sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru. 

Erthygl 4(2)

Unigolyn, sydd at ddibenion hysbysiad y cyfeirir ato yn Erthygl 19(2) [hysbysiad a gyflwynir i erlynydd sy'n nodi unrhyw unigolyn arall sy’n cyflawni gweithred neu hepgoriad sy’n gyfystyr â throsedd], yn gwneud datganiad neu ymhoniadau sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad adfer

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru. 

Erthygl 5

Anwirio neu addasu trwydded yn fwriadol

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru. 

Erthygl 6

Mynd yn groes i amod trwydded yn fwriadol

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru. 

Erthygl 7

Rhwystro swyddog gorfodi yn fwriadol. Methu â rhoi unrhyw gymorth neuwybodaeth sy'n ofynnol yn rhesymol gan swyddog gorfodi. Ffugio bod yn swyddog gorfodi, gyda'r bwriad o dwyllo. Darparu gwybodaeth i swyddog gorfodi gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru.

Erthygl 8

Ceisio cyflawni trosedd o dan Erthyglau 3-6

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad atal

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Rheoliadau mewn grym ar 1 Rhagfyr 2019 yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf