Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Rheoliad 13(3)

rh.13(1)(a) ac 13(3)

Methiant i gydymffurfio â Rheoliad 13(1)(a) o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009, hynny yw, fel gweithredwr gweithgaredd sy'n achosi bygythiad uniongyrchol o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad uniongyrchol o ddifrod lle ceir sail resymol i gredu y bydd yn arwain at ddifrod amgylcheddol, gan fethu â chymryd pob cam ymarferol i atal y difrod ar unwaith.

rh.13(1)(b) ac 13(3)

Methiant i gydymffurfio â Rheoliad 13(1)(a) o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009, hynny yw, fel gweithredwr gweithgaredd sy'n achosi bygythiad uniongyrchol o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad uniongyrchol o ddifrod lle ceir sail resymol i gredu y bydd yn arwain at ddifrod amgylcheddol, a lle nad yw'r bygythiad wedi'i ddileu, methiant i hysbysu'r awdurdod gorfodi sy'n ymddangos fel yr un priodol o’r holl fanylion perthnasol ar unwaith.

rh.13(3)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan Reoliad 13(2) o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009, hynny yw, fel gweithredwr gweithgaredd sy'n achosi bygythiad uniongyrchol o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad uniongyrchol o ddifrod lle ceir sail resymol i gredu y bydd yn arwain at ddifrod amgylcheddol, gan fethu â chydymffurfio â'r mesurau adferol a nodwyd, neu fesurau cyfwerth, a nodwyd yn yr hysbysiad, o fewn yr amser a bennir ynddo.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliad 14(3)

rh.14(1) a (3)

Methiant i gydymffurfio â Rheoliad 14(1) o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009, hynny yw, fel gweithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi bygythiad uniongyrchol o ddifrod amgylcheddol, gan fethu â chymryd pob cam ymarferol ar unwaith i atal difrod pellach ac i hysbysu’r awdurdod gorfodi sy'n ymddangos fel yr un priodol o’r holl fanylion perthnasol ar unwaith.

rh.14(2)(b) ac 14(3)

Methiant i gydymffurfio â Rheoliad 14(2)(b) o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009, hynny yw, fel gweithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi bygythiad uniongyrchol o ddifrod amgylcheddol, gan fethu â darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani yn yr hysbysiad mewn perthynas ag unrhyw ddifrod sydd wedi digwydd o fewn yr amser a bennir.

rh.14(2)(c) a (d) ac 14(3)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan Reoliad 14(2)(c) a (d) o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009, hynny yw, fel gweithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi bygythiad uniongyrchol o ddifrod amgylcheddol, gan fethu â chymryd y mesurau a nodwyd yn yr hysbysiad, neu fesurau cyfwerth, o fewn yr amser a bennir.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliad 20(4)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer a gyflwynwyd o dan Reoliad 20 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliad 31(8)

rh.31(8): Methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddwyd o dan Reoliad 31 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

rh.31(8): Darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn fwriadol.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliad 31(8)

Fel gweithredwr, methiant i ddarparu gwybodaeth o'r fath y gallai awdurdod gorfodi ofyn amdani'n rhesymol er mwyn galluogi'r awdurdod gorfodi i gyflawni ei swyddogaethau o dan Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Rheoliad 32

Methiant i ddarparu gwybodaeth berthnasol.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Diweddarwyd ddiwethaf