Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Ar gyfer troseddau perthnasol a ddigwyddodd cyn 1 Ionawr 2017, gall y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 fod yn gymwys.

Nid yw ymatebion gorfodi mewn perthynas â gweithgareddau perygl llifogydd ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 6 Ebrill 2016.

Rheoliad 38(1)-(3)

Rheoliad 38(1)(a)

Achosi gweithgaredd rhyddhau dŵr neu weithgaredd dŵr daear neu ei ganiatáu yn fwriadol,
NEU
Defnyddio cyfleuster rheoledig, gan gynnwys defnyddio gweithfa neu offer symudol, parhau â gwaith gwastraff, gwaith gwastraff  mwyngloddio, gweithgarwch sy'n ymwneud â
sylweddau ymbelydrol, gweithgarwch rhyddhau dŵr, gweithgarwch perygl llifogydd neu weithgarwch dŵr daear,
heblaw o dan drwydded amgylcheddol ac i'r graddau a awdurdodir ganddi.
Mae'r drosedd hon yn cynnwys unrhyw waith gwastraff y parheir ag ef heb gydymffurfio â meini prawf esemptiad perthnasol (gan gynnwys peidio â bodloni Erthygl 4(1) o amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff neu beidio â chofrestru ac ati (gweler Rheoliad 5 ac Atodlenni 2 a 3 y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol)).

Rheoliad 38(1)(b)

Achosi'n fwriadol, neu ganiatáu yn fwriadol, y defnydd o gyfleuster rheoledig neu barhau â gwaith gwastraff, gwaith gwastraff mwyngloddio, gweithgarwch sy'n ymwneud â sylweddau ymbelydrol, gweithgarwch rhyddhau dŵr, gweithgarwch perygl llifogydd neu weithgarwch dŵr daear, heblaw o dan drwydded amgylcheddol ac i'r graddau a awdurdodir ganddi.

Rheoliad 38(2)

Methiant i gydymffurfio ag amod trwydded amgylcheddol neu fynd yn groes iddo.

Rheoliad 38(3)

Methiant i gydymffurfio â gofynion hysbysiad gorfodi neu hysbysiad gwahardd, hysbysiad atal, hysbysiad cau safle tirlenwi, hysbysiad cau cyfleuster gwastraff mwyngloddio, hysbysiad gwaith brys ar gyfer gweithgarwch perygl llifogydd neu hysbysiad adfer ar gyfer gweithgarwch perygl llifogydd.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Rheoliad 38(4)

Rheoliad 38(4)(a)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad o dan reoliad 61(1) sy'n gofyn am ddarparu gwybodaeth heb esgus rhesymol.

Rheoliad 38(4)(b)

Gwneud datganiad y mae'r unigolyn yn gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol o safbwynt manylyn perthnasol, neu wneud datganiad yn ddi-hid sy'n anwir neu'n gamarweiniol o safbwynt manylyn perthnasol, lle gwneir y datganiad (i) gan gymryd arno ei fod yn cydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth a osodir trwy neu o dan ddarpariaeth o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, (ii) at y diben o gael caniatâd ar gyfer trwydded amgylcheddol ar gyfer unrhyw unigolyn, neu amrywio trwydded amgylcheddol, ei throsglwyddo yn ei chyfanrwydd neu'n rhannol, neu ei hildio yn ei chyfanrwydd neu'n rhannol, neu (iii) at y diben o gael, adnewyddu neu ddiwygio cofrestriad ar gyfer cyfleuster sydd wedi'i esemptio.

Rheoliad 38(4)(c)

Cofnodi gwybodaeth anwir yn fwriadol mewn cofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan amod trwydded amgylcheddol.

Rheoliad 38(4)(d)

Gyda'r bwriad o dwyllo – (i) ffugio, neu ddefnyddio dogfen a ddosbarthwyd neu yr awdurdodwyd ei dosbarthiad neu sy'n ofynnol at unrhyw ddiben o dan amod trwydded amgylcheddol, neu (ii) gwneud, neu feddu ar ddogfen yn bersonol sydd mor debyg i ddogfen o'r fath nes ei bod yn debygol o dwyllo.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Rheoliad 38(5)

Mae'n drosedd i sefydliad neu ymgymeriad wneud y canlynol:
(a) methu â chydymffurfio â pharagraff 17(3) neu (4) o Atodlen 2 (cadw cofnodion ar gyfer gwaith gwastraff esempt); neu
(b) cofnodi gwybodaeth anwir yn fwriadol mewn cofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan y paragraff hwnnw.

Trosedd ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Rheoliad 41

Rheoliad 41(1)

Atebolrwydd troseddol cyfarwyddwyr, rheolwyr ac ysgrifenyddion mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u cyflawni gyda chaniatâd ac ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.

Rheoliad 41(2)

Atebolrwydd aelodau o gorff corfforedig lle maent yn rheoli materion y busnes.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.

Diweddarwyd ddiwethaf