Deddf Draenio Tir 1991

Adran 24(3)

Trosedd ddiannod yn unig. 

Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 24 y Ddeddf Draenio Tir.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Adran 25(6)(b)

Trosedd ddiannod yn unig. 

Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 25 y Ddeddf Draenio Tir

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Adran 53(2)

Methiant, heb esgus rhesymol, i gydymffurfio â hysbysiad sy’n gofyn am wybodaeth, neu, wrth ganlyn yr hysbysiad – (i) yn gwneud unrhyw ddatganiad mewn perthynas â'r wybodaeth sy'n ofynnol y mae'n gwybod ei fod yn anwir o safbwynt manylyn perthnasol;   neu (ii) yn gwneud unrhyw ddatganiad yn ddiofal mewn perthynas â'r wybodaeth honno sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae'r sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.

Adran 64(6)

Rhwystro neu amharu’n fwriadol ar unrhyw unigolyn a awdurdodwyd gan CNC i weithredu grym mynediad o dan adran 64(1) Deddf Draenio Tir 1991.

Trosedd Ddiannod yn unig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad Ffurfiol
  • Erlyniad 

Adran 66(6)

Mynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio ag is-ddeddf a wneir o dan Adran 66.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Deddf y Diwydiant Dŵr 1991

Adran 71(1)(a)

Achosi, neu adael i unrhyw ddŵr tanddaearol redeg i wastraff o unrhyw ffynnon, twll turio neu waith arall. Tynnu dŵr o unrhyw ffynnon, twll turio neu waith arall, sy’n ormodol o ran gofynion rhesymol.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Adran 120(9)

Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu â chyfeirio unrhyw ymholiad at yr asiantaeth briodol, o fewn dau fis, ynghylch a ddylid gwahardd gollyngiadau o elifion o gategori arbennig, neu eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.

Adran 130(7)

Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu â chyfeirio unrhyw ymholiad at yr asiantaeth briodol ynghylch a ddylid gwahardd unrhyw weithrediadau at ddibenion, neu mewn cysylltiad â derbyn neu gael gwared ar elifiad o gategori arbennig, neu eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.

Adran 133(5)

Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu ag arfer ei bwerau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau hysbysiad a gyflwynwyd gan yr asiantaeth briodol o dan Adran 132 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru. 

Adran 135A(2)(a)

Methu â darparu gwybodaeth

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru. 

Adran 165(3)

Methu â chymryd y camau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod dŵr a ollyngir mor rhydd ag sy'n rhesymol ymarferol o sylweddau amrywiol (e.e. mwd, gwaddodion)

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Adran 166(8)

Mynd yn groes i ofynion Adran 166 neu amod caniatâd, gan ymgymerwr dŵr.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Deddf Adnoddau Dŵr 1991

Adran 24

a.24(1) a 24(4)(a)

Tynnu dŵr heb drwydded, neu fel arall heb fod yn unol â thrwydded neu ganiatâd ymchwiliad dŵr daear (GIC), neu dynnu dŵr heb esemptiad dilys neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.

a.24(2) a 24(4)(a)

Adeiladu, ymestyn, gosod neu addasu unrhyw waith, cyfarpar neu beirianwaith at ddibenion tynnu dŵr daear heb drwydded, neu fel arall heb fod yn unol â thrwydded, caniatâd ymchwiliad dŵr daear neu esemptiad dilys, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.

a.24(4)(b)

Methiant deiliad trwydded i gydymffurfio ag amodau eraill trwydded. Enghraifft: Amodau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â thynnu dŵr, fel rhwymedigaeth i ollwng dŵr rywle arall, i fonitro ac ati.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad stop

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010. 

Adran 25

a.25(1)(a) a 25(2)(a)

Dechrau adeiladu neu addasu gwaith cronni dŵr heb drwydded, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.

a.25(1)(b) a 25(2)(a)

Cronni dŵr heb drwydded, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.

25(2)(b):

Methiant deiliad trwydded i gydymffurfio ag amodau trwydded cronni dŵr.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad stop

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010. 

Adran 25C

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd o dan Adran 25A Deddf Adnoddau Dŵr 1991.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010. 

Adran 80

a.80(1)

Tynnu a/neu gronni dŵr yn groes i orchymyn neu drwydded sychder.

a.80(2)

Methiant i adeiladu, cynnal a chadw neu sicrhau mynediad i archwilio unrhyw gyfarpar neu gofnodion ar gyfer mesur llif y dŵr sy'n ofynnol o dan orchymyn neu drwydded sychder.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad cydymffurfio
  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad stop

Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010. 

Adran 91B(3)

Methiant i roi hysbysiad ynghylch gadael cloddfa yn segur.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon. 

Adran 107(3)

Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 107(3) y Ddeddf Adnoddau Dŵr (hysbysiad sy'n gofyn am adfer prif afon er mwyn sicrhau llif priodol).

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Adran 161D(1)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwaith gwrthlygredd.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru. 

Adran 173 ac Atodlen 20, Paragraff 7

Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru rhag arfer ei bwerau mynediad

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010. 

Adran 173 ac Atodlen 20, Paragraff 7

Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru rhag arfer ei bwerau mynediad

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010. 

Adran 174

Dynwared unigolyn sydd ag awdurdod i gael mynediad i safle

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Adran 176

Ymyrryd â chyfarpar Cyfoeth Naturiol Cymru.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Adran 199

a.199(1) a 199(4)

Methiant i hysbysu'r asiantaeth briodol am gynnig i adeiladu neu ymestyn ffynhonnell dŵr daear at ddibenion chwilio am fwynau neu weithrediadau dad-ddyfrio.

a.199(2) a 199(4)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad cadwraeth a roddwyd er mwyn rheoli gweithgareddau'n ymwneud â chwilio am fwynau.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru. 

Adran 201(3)

Methiant i ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol gan hysbysiad o dan Adran 201 y Ddeddf Adnoddau Dŵr

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru. 

Adran 202(4)

Methiant i ddarparu gwybodaeth sy’n ofynnol gan hysbysiad o dan adran 202.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru. 

Adran 206

a.206(1)

Gwneud datganiadau sy'n anwir yn eu hanfod, yn fwriadol neu'n ddi-hid. Enghraifft: Wrth wneud cais am drwydded.

a.206(3)

Newid, neu ymyrryd â mesurydd, medrydd neu offeryn arall sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau trwydded yn fwriadol.

a.206(3A)

Cofnodi gwybodaeth anwir yn fwriadol mewn unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan drwydded tynnu dŵr.

a.206(4)

Gwneud unrhyw ddatganiad sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol, yn fwriadol neu'n ddi-hid, y mae’n ofynnol ei gadw neu ei ddarparu o dan Adran 198 neu 205 y Ddeddf Adnoddau Dŵr.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru. 

Adran 211(3)

Torri unrhyw is-ddeddf sy'n ymwneud â physgodfeydd

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Adran 211(4)

Torri unrhyw is-ddeddf at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd a draenio

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Adran 217(1)

Atebolrwydd troseddol cyfarwyddwyr, rheolwyr ac ysgrifenyddion mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u chyflawni gyda chaniatâd ac ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.

Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni. 

Adran 217(2)

Atebolrwydd aelodau o gorff corfforedig lle maent yn rheoli materion y busnes.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.

Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni. 

Adran 217(3)

Atebolrwydd trydydd partïon am droseddau o dan ddarpariaethau llygredd dŵr.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.

Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni. 

Deddf Dŵr 2003

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwaith cronni dŵr a gyflwynwyd o dan Adran 4(1) WA 2003.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Cosb ariannol newidiol

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010. 

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Adran 15(3)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd o dan Adran 14(1), sy'n gofyn am wybodaeth gan unigolyn mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r cosbau sifil sydd ar gael yn cynnwys:

  • Os yw'r unigolyn yn methu â darparu'r wybodaeth hon, yna gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi hysbysiad gorfodi o dan Adran 15(1);
  • Os yw'r unigolyn yn methu â chydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi, yna, o dan Adran 15(3), gall Cyfoeth Naturiol Cymru osod hysbysiad cosb nad yw’n fwy na £1,000.

Dyddiadau cychwyn perthnasol: 6 Ebrill 2011 

Adran 30 ac Atodlen 1 paragraff 11(4)

Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ased dynodedig.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Dyddiadau cychwyn perthnasol: 1 Awst 2012

Nid oes sancsiynau sifil ar gael. 

Adran 30 ac Atodlen 1 paragraff 13(5)

Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arfer pwerau mynediad at ddibenion penderfynu a ellir dynodi strwythur neu nodwedd yn ased llifogydd.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i'r drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Dyddiadau cychwyn perthnasol: 1 Awst 2012

Nid oes sancsiynau sifil ar gael. 

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2003

Rheoliad 9(4)

Cychwyn 'prosiect perthnasol' o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol heb ganiatâd dilys gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu fel arall heb fod yn unol â thelerau'r caniatâd hwnnw.

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010

Rheoliad 10(1) a 3(1)

Methiant i sicrhau bod silwair yn cael ei wneud a'i storio yn unol â Rheoliad 3(1).

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Rheoliad 10(1), 3(1) a 3(4)

Storio, agor neu dynnu deunydd lapio bwrn o silwair o fewn 10 metr i ddŵr croyw mewndirol neu ddŵr arfordirol y gallai elifion silwair redeg iddo.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Rheoliad 10(1) a 4(1)

Methiant i sicrhau bod slyri yn cael ei storio yn unol â Rheoliad 4(1).

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Rheoliad 10(1) a 7(5)

Methu â chydymffurfio â gofynion “Hysbysiad yn gofyn am waith” o dan Reoliad 7(1).

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Rheoliad 10(1) a 9

Methiant i hysbysu ynghylch adeiladu seilo, man storio slyri, neu fan storio olew tanwydd, neu gynyddu ei faint yn sylweddol neu wneud gwaith ailadeiladu sylweddol arno, yn unol â Rheoliad 9.

Trosedd ddiannod yn unig. 

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.  

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

Rheoliad 49

Torri amodau unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliadau

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016

Rheoliad 9

Mynd yn groes i reoliad 4 (gofynion cynwysyddion storio olew ), 5(1) (gofynion systemau cyfyngu eilaidd), 6(1) (gofynion tanciau sefydlog), 7(1) (gofynion pibau tanddaearol sy'n gysylltiedig â thanciau sefydlog) neu 8(1) (gofynion bowserau symudol).

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad ffurfiol
  • Erlyniad

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Hysbysiad adfer
  • Cosb ariannol benodedig
  • Cosb ariannol newidiol
  • Hysbysiad stop 

Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:

  • Ymgymeriad gorfodi

Gweler Rheoliad 1 ar gyfer gweithrediad graddol y rheoliadau hyn. Yn gyffredinol, daw'r rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2016. Fodd bynnag, noder:

  • Mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd a fu'n storio olew ar 15 Mawrth 2016, bydd y rheoliadau'n gymwys o 15 Mawrth 2020.
  • Mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd a fu'n storio olew ar 15 Mawrth 2016 ac sydd wedi'i leoli llai na 10 metr i ffwrdd o unrhyw ddŵr croyw mewndirol neu ddŵr arfordirol neu lai na 50 metr i ffwrdd o ffynnon neu dwll turio, bydd y rheoliadau'n dod i rym ar 15 Mawrth 2018.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Rheoliad 46

Torri unrhyw ddarpariaethau o'r Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i'r drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad Ffurfiol
  • Erlyniad

Mae'r troseddau sydd mewn grym ar hyn o bryd fel a ganlyn:-

(a) Rheoli'r lledaeniad o wrtaith nitrogen

  1. Rheoliad 12
    • Mae'n rhaid i feddiannydd sydd yn bwriadu i ledaenu gwrtaith nitrogen gynnal archwiliad cae i ddechrau er mwyn ystyried y risg o nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb.
    • Ni chaiff unigolyn ledaenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol o nitrogen yn cael i mewn i ddŵr wyneb gan ystyried y ffactorau a restrir o dan Reoliad 12(2).
    • Ni chaiff unigolyn ledaenu gwrtaith nitrogen os yw'r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr oherwydd llifogydd, wedi'i orchuddio gan eira, wedi rhewi neu wedi rhewi am fwy na 12 awr yn y 24 awr flaenorol.
  2. Rheoliad 13
    • Ni chaiff unigolyn ledaenu gwrtaith nitrogen wedi'i weithgynhyrchu o fewn dau fetr i ddŵr wyneb.
  3. Rheoliad 14
    • Ni chaiff unigolyn ledaenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb (oni bai eu bod yn defnyddio offer lledaenu manwl gywir, yn yr achos hwnnw ni chaiff unigolyn ledaenu tail organig o fewn chwe metr i ddŵr wyneb)
    • Ni chaiff unigolyn ledaenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, tarddell neu ffynnon.

(b) Ymgorffori tail

  1. Rheoliad 16
    • Mae'n rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rhoi tail organig ar wyneb pridd gwag neu sofl sicrhau ei fod wedi’i ymgorffori o fewn 24 awr.

(c) Cyfnodau caeedig ar gyfer lledaenu gwrtaith nitrogen wedi'i weithgynhyrchu

  1. Rheoliad 22
    • Ar laswelltir; o 15 Medi hyd at 15 Ionawr
    • Ar dir âr; o 1 Medi hyd at 15 Ionawr

(d) Storio tail a silwair

  1. Rheoliad 23
    • Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri) neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig ei storio fel y rhagnodir yn Rheoliad 23
  1. Rheoliad 24

Gofynion ar gyfer storio tail a silwair

  1. Rheoliad 27
    • Ni chaiff safle dros dro bod mewn cae sy’n agored i lifogydd neu’n mynd yn ddyfrlawn, o fewn 50 metr i dwll turio, pistyll neu ffynnon, neu o fewn 10 metr i ddŵr wyneb neu ddraen tir, mewn unrhyw leoliad unigol am fwy na 12 mis yn olynol, neu yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.
    • Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac sy'n cael ei storio ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd
    • Ni chaniateir symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae, ni chaiff safle dros dro mewn cae bod o fewn 30 metr i gwrs dŵr ar dir a nodir ar y map risg, a rhaid cadw'r arwynebedd mor fach ag y bo'n rhesymol ymarferol er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw

(e) Rheoliad 32

(f) Taenu tail organig

  1. Rheoliad 5
    • Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250kg.

(g)  Cynllunio'r modd y taenir gwrtaith nitrogen

  1. Rheoliad 6
    • Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu, cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, a llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen yn y tymor tyfu hwnnw.

(h) Cofnodi gwybodaeth ychwanegol

  1. Rheoliad 7
    • Y gofynion penodol ar gyfer y cofnodion i'w cadw gan feddiannydd

(i) Cyfanswm taeniad nitrogen ar ddaliad

  1. Rheoliad 8
    • Nid yw cyfanswm y nitrogen yn fwy na’r terfynau a bennir yn Rheoliad 10 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis

(j) Cyfrifo maint y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail organig

  1. Rheoliad 9
    • Rhaid i'r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw at ddibenion Rheoliad 8

(k) Terfynau nitrogen uchaf fesul cnwd

  1. Rheoliad 10
    • Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir

Rheoliad 32

(k) Cyfrifiadau a Chofnodion

  1. Rheoliad 35
    • Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio a chofnodi y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.
  1. Rheoliad 36
    • Cyn y dyddiad perthnasol bob blwyddyn, rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori’r anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod blaenorol o 12 mis a nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.
    • Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno a gwneud cofnod o’r cyfrifiadau a'r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.
  1. Rheoliad 37
    • Rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i ddaliad gofnodi, o fewn un wythnos, y math a swm o dail da byw, y dyddiad y daethpwyd ag ef i’r daliad, maint y nitrogen sydd ynddo, ac, os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr
    • Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi, o fewn un wythnos, y math a swm o dail da byw, y dyddiad y'i hanfonwyd o'r daliad, maint y nitrogen sydd ynddo, ac enw a chyfeiriad y derbynnydd a manylion y cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.
    • Os nad yw maint y nitrogen yn hysbys pan ddygir tail da byw i ddaliad, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i'r tail gyrraedd a'i gofnodi o fewn un wythnos o'i ganfod.
  1. Rheoliad 38
    • Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw'r adroddiad gwreiddiol gan y labordy
  1. Rheoliad 39
    • Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd, y cnwd a heuwyd, a dyddiad ei hau
  1. Rheoliad 40
    • O fewn un wythnos i daenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r rhan y taenwyd y tail organig arni, faint a daenwyd, y dyddiad(au), y dulliau o'i daenu, cyfanswm y nitrogen sydd ynddo, a maint o nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.
    • O fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, rhaid i'r meddiannydd gofnodi dyddiad ei daenu a maint y nitrogen a daenwyd
  1. Rheoliad 41
    • Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i’w ganfod.
    • Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
  1. Rheoliad 42
    • Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau am bum mlynedd
  1. Rheoliad 43
    • Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau gadw'r cofnod hwnnw am bum mlynedd

Trosedd Ddiannod yn unig

Mae'n rhaid i unigolyn sy'n gyfrifol am, neu sy’n rheoli silwair neu slyri sydd i'w gadw mewn stôr newydd neu well roi hysbysiad o leiaf 14 diwrnod cyn i'r gwaith adeiladu gychwyn – (mae'r newid hwn yn berthnasol o 28 Ebrill 2021). 

Gorchymyn Dynodi Parth Diogelu Dŵr (Dalgylch Afon Dyfrdwy) 1999

Erthygl 5

Achosi neu ganiatáu’n fwriadol i reolau parth diogelu gael eu torri

Ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:

  • Rhybudd
  • Rhybuddiad Ffurfiol
  • Erlyniad

Dyddiadau dechrau perthnasol yw: 21 Rhagfyr 1999

Nid yw sancsiynau sifil ar gael

Diweddarwyd ddiwethaf