Parc Coedwig Afan - Gyfylchi (Parc Beicio Afan), ger Port Talbot

Beth sydd yma

Cau a dargyfeirio llwybrau dros dro

 

Mae’r llwybrau isod ar gau neu wedi eu dargyfeirio ar hyn o bryd. Defnyddiwch lwybr arall sydd ag arwyddbyst neu dilynwch yr arwyddion dargyfeirio:

 

  • Bydd llwybrau beicio mynydd Lefel White, Awyrlin a Llafn ar gau ddydd Sadwrn 20 Ebrill a dydd Sul 21 Ebrill er mwyn cynnal ras y Western Bike Enduro.
  • Llwybr Awyrlin – mae adrannau Granada, Eiliad Felys, Fyny Fry ac Ar y Dibyn a Rhondda ar gau oherwydd gwaith cwympo coed a choed sydd wedi chwythu drosodd.
  • Mae dolenn llwybr uchaf W2 ar gau oherwydd gwaith cynaeafu coed.
  • Efallai y bydd gwaith gwella yn tarfu ar yr holl lwybrau cerdded o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Cau a dargyfeirio llwybrau eraill

 

Mae llawer o'r llwybrau cerdded a beicio mynydd ym Mharc Coedwig Afan ar gau neu wedi eu dargyfeirio oherwydd ymgyrch fawr i dorri coed. Gweler y wybodaeth yn y meysydd parcio a dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar hyd y llwybrau. Byddwch yn ymwybodol o lorïau cludo pren a dilynwch holl gyfarwyddiadau'r staff. Dysgwch pa lwybrau sy'n cael eu heffeithio a mwy o fanylion am y gwaith torri coed.

Croeso

Mae Gyfylchi ym Mharc Coedwig Afan ac yn gartref i Barc Beicio Afan.

Mae Parc Beicio Afan wedi'i raddio’n eithafol ac mae'n addas ar gyfer beicwyr mwy profiadol.

Gallwch hefyd reidio i Barc Beicio Afan ar hyd llwybr beicio mynydd gradd goch Y Wal o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Saif adfeilion capel Methodistaidd wrth ymyl y maes parcio.

Bryn Bettws Lodge sy'n berchen ar y maes parcio ac yn gweithredu'r safle gwersylla a glampio yma.

Parc Beiciau Afan

Mae Parc Beicio Afan wedi'i raddio’n eithafol ac mae'n addas ar gyfer beicwyr mwy profiadol.

Mae gan y parc beiciau sawl adran fer lle gallwch chi ymarfer a gwella eich sgiliau.

Mae yna hefyd ddwy linell Neidio a llinell Pro galetach gyda neidiau a disgyniadau mwy.

Gallwch hefyd reidio i Barc Beicio Afan ar hyd llwybr beicio mynydd Y Wal o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan – mae Gyfylchi wedi’i leoli ger Zig Zag, sef rhan olaf y llwybr gradd goch hwn.

Mae ardal sgiliau arall ar lwybr Rookie ger Canolfan Ymwelwyr Afan ar gyfer beicwyr llai profiadol.

Cyfleusterau eraill i ymwelwyr

Mae Bryn Bettws Lodge wrth ymyl Parc Beicio Afan.

Mae'n cynnig safle gwersylla, glampio, llety cysgu i grwpiau mawr a chabanau pren.

Mae'r cyfleusterau hyn a'r maes parcio wrth y fynedfa i Barc Beicio Afan yn cael eu rheoli'n breifat.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bryn Bettws Lodge

Capel Gyfylchi

Sefydlodd y Methodistiaid Calfinaidd Hen Gapel y Gyfylchi yma ym 1776.

Gadawyd y capel ym 1826 ac aeth yn adfail.

Gallwch weld adfeilion y capel wrth ymyl y maes parcio – cadwch lygad am y bwrdd gwybodaeth.

Parc Coedwig Afan

Mae Parc Beicio Afan ym Mharc Coedwig Afan.

Mae Parc Coedwig Afan yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain ac yn lle poblogaidd ar gyfer cerdded.

Mae'r parc coedwig wedi'i leoli yng Nghwm Afan ychydig filltiroedd o'r M4, lle arferai glo gael ei gloddio.

Gallwch ddarganfod rhai o nodweddion treftadaeth y dyffryn ar hyd ein llwybrau yn y parc coedwig.

Llwybrau eraill ym Mharc Coedwig Afan

Archwiliwch Barc Coedwig Afan o'r meysydd parcio yn y tri lle arall hyn:

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Afan yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Oriau agor

Mae'r maes parcio wrth y fynedfa i Barc Beicio Afan yn cael ei reoli gan Bryn Bettws Lodge sy'n gweithredu'r safle gwersylla a glampio yma.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bryn Bettws Lodge

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae Gyfylchi (Parc Beiciau Afan) 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bort Talbot.

Cod post

Y cod post yw SA12 9SP.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr M4 yng nghyffordd 40 (Port Talbot) a dilynwch yr arwyddion i’r A4107 i gyfeiriad y Cymer.

Ar ôl 3¾ milltir trowch i'r chwith i’r B4287 i gyfeiriad Pont-rhyd-y-fen.

Ewch yn eich blaen drwy Bont-rhyd-y-fen ac ar ôl milltir trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwydd brown a gwyn am Bryn Bettws Lodge.

Ar ôl ½ milltir trowch i'r dde a dilyn arwydd Parc Sgiliau Beicio Gyfylchi.

Mae'r maes parcio 1 filltir ar hyd yr isffordd gul hon.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SS 807 954 (Explorer Map 165 neu 166).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Maesteg.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae'r maes parcio wrth y fynedfa i Barc Beicio Afan yn cael ei reoli gan Bryn Bettws Lodge sy'n gweithredu'r safle gwersylla a glampio yma.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bryn Bettws Lodge

Manylion cyswllt

Mae'r maes parcio a'r cyfleusterau wrth y fynedfa i Barc Beicio Afan yn cael ei reoli gan Bryn Bettws Lodge. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bryn Bettws Lodge

Nid oes staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad hwn. Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf