Rhif y Drwydded: WCA / GEN / 004 / 2024
Yn ddilys o: 1 Chwefror 2024
Dyddiad gorffen: 31 Awst 2024

Trwydded i ladd neu gymryd brain tyddyn neu gymryd neu ddinistrio eu nythod neu eu hwyau at ddibenion gwarchod adar gwyllt.

Rhan A. Sail gyfreithiol a diben y drwydded hon

1. Mae'r drwydded hon, a roddir o dan Adran 16(1)(c) a (5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) (y Ddeddf) gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru a elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n fodlon o ran y diben a nodir ym mharagraff 2 nad oes ateb boddhaol arall, yn caniatáu unigolion awdurdodedig (gweler Diffiniadau) i gyflawni’r camau gweithredu a nodir ym mharagraff 3.

2. Y diben rhoi’r drwydded hon yw gwarchod wyau neu gywion unrhyw un o’r rhywogaethau adar gwyllt a restrir yn Atodiad 1 o’r drwydded hon.

Rhan B. Yr hyn y mae'r drwydded hon yn ei awdurdodi

3. At y diben a amlinellir ym mharagraff 2 yn unig, mae’r drwydded hon yn caniatáu i unrhyw unigolyn awdurdodedig i ladd neu gymryd brain tyddyn (Corvus corone), neu i gymryd, difrodi neu ddinistrio eu nythod neu gymryd neu ddinistrio eu hwyau trwy ddefnyddio:

(i) unrhyw ddull nad yw wedi’i wahardd gan adran 5 o’r Ddeddf;

(ii) arf lled-awtomatig (gweler Diffiniadau);

(iii) magl cawell, nad yw ei ddimensiynau'n bodloni gofynion adran 8(1) o'r Ddeddf.

4. Dim ond yn y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2024 a 31 Awst 2024, ac yn amodol ar gydymffurfio â’r holl amodau a restrir yn Rhan C, y mae’r camau gweithredu a restrir ym mharagraff 3 wedi’u hawdurdodi.

5. Mae’r drwydded hon yn berthnasol yng Nghymru, ochr y tir o'r marc distyll cymedrig.

Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Llofnodwyd ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhan C. Amodau

C.1 Amodau cyffredinol

6. Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n bwriadu defnyddio’r drwydded hon sicrhau ei fod wedi darllen a deall ei thelerau ac amodau cyn cymryd camau trwyddedig.

7. Rhaid lladd unrhyw adar sy'n cael eu lladd yn unol â'r drwydded hon mewn modd cyflym a thrugarog, a hynny’n unol â’r diffiniad o “ladd” yn y drwydded hon (gweler Diffiniadau).

8. Rhaid gwneud pob ymdrech i ladd, yn drugarog, unrhyw aderyn o rywogaeth darged (gweler Diffiniadau) sy'n cael ei anafu, a hynny drwy gymryd unrhyw gamau trwyddedig.

9. Os bydd unrhyw anifail o rywogaeth a warchodir gan Ewrop (gweler Diffiniadau), neu unrhyw aderyn ysglyfaethus gwyllt (gan gynnwys tylluanod), yn cael ei ddal, ei ladd neu ei anafu wrth gymryd camau o dan y drwydded hon, rhaid hysbysu CNC am y ffaith honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Gellir cysylltu gyda CNC drwy e-bostio trwyddedrhywogaeth@naturalresourceswales.gov.uk.

10. Nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi cymryd unrhyw gamau o fewn unrhyw un o’r safleoedd gwarchodedig, neu o fewn y clustogfeydd diffiniedig o amgylch y safleoedd hyn, a restrir yn Atodiad 2 y drwydded hon.

11. Ni chaiff unrhyw un a geir yn euog o drosedd y mae’r amod hwn yn gymwys iddo ddefnyddio’r drwydded hon oni bai, mewn perthynas â’r drosedd honno, naill ai (1) y cafodd yr achos ei wrthod â rhybudd, neu (2) ei fod yn unigolyn a adsefydlwyd at ddibenion Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a chaiff ei euogfarn ei thrin fel un sydd wedi darfod. Caiff unigolyn ddefnyddio’r drwydded hon pan fo llys, mewn perthynas â throsedd o’r fath, wedi gwneud gorchymyn i’w ryddhau’n ddiamod. Mae'r amod hwn yn berthnasol i droseddau o dan y Ddeddf, Ddeddf Ceirw 1991, Wild Mammals (Protection) Act 1996, Hunting Act 2004,  Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017,  Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (i gyd fel y'u diwygiwyd).

C.2 Amodau sy'n berthnasol i unrhyw ddefnydd o faglau cawell o dan y drwydded hon

12. Rhaid i unrhyw fagl cawell a ddefnyddir at ddiben y drwydded hon fod o un o’r mathau canlynol:

(i) magl cawell cerdded i mewn a all ddal sawl aderyn ar unwaith;

(ii) magl Larsen nad oes ganddo unrhyw adran ddal wedi'i gosod yn union uwchben yr adran ddenu;

(iii) magl Larsen mate, a elwir hefyd yn fagl clam;

(iv) magl Larsen pod.

13. Rhaid i unrhyw fagl Larsen mate neu Larsen pod gael ei ddiogelu yn ei le wrth gael ei ddefnyddio i liniaru'r risg y caiff ei lusgo i ffwrdd gan rywogaethau nad ydynt yn rhywogaethau targed.

14. Pan ddefnyddir magl cawell sy'n cynnwys aderyn denu byw at ddiben y drwydded hon, rhaid i'r aderyn denu fod yn brain tyddyn (Corvus corone).

15. Rhaid i unrhyw aderyn denu byw a ddefnyddir at ddiben y drwydded hon beidio â chael ei glymu, ei ddallu, neu ei anafu mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys drwy docio adenydd.

16. Rhaid darparu unrhyw aderyn denu byw a ddefnyddir at ddiben y drwydded hon â digon o fwyd a dŵr, cysgodfa briodol a chlwydfan addas bob amser pan fydd yn cael ei gadw’n gaeth mewn magl.

17. Os defnyddir unrhyw gig neu gynnyrch cig fel bwyd ar gyfer aderyn denu, rhaid iddo fod wedi'i dorri'n fân neu wedi'i ddeisio.

18. Os defnyddir cig neu unrhyw gynnyrch cig fel abwyd, rhaid iddo fod wedi'i dorri'n fân neu wedi'i ddeisio.

19. Pan ddefnyddir magl cawell, ni ddylai'r cyfnod amser rhwng archwiliadau corfforol (gweler Diffiniadau) fod yn fwy na 25 awr.

20. Dim ond os yw'r sawl sy'n gyfrifol amdano yn hyderus y bydd yn cael ei archwilio'n ffisegol ar yr adegau gofynnol y gellir defnyddio magl cawell. Rhaid peidio â gosod magl cawell os yw archwiliad ffisegol o leiaf bob 25 awr yn annhebygol o fod yn bosibl, er enghraifft oherwydd tywydd garw a ragwelir neu resymau eraill y gellir yn rhesymol eu rhagweld.

21. Os bydd mwy na 25 awr yn mynd heibio cyn i fagl cawell gael ei archwilio'n ffisegol oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd, rhaid gwneud pob ymdrech resymol i gael archwiliad ffisegol o'r magl cyn gynted â phosibl.

22. Rhaid i unrhyw adar sy'n dal yn fyw o'r rhywogaeth darged gael eu difa mewn modd trugarog neu eu rhyddhau heb niwed cyn gynted ag y bo'n ymarferol, oni bai eu bod i'w cadw i'w defnyddio fel adar denu.

23. Rhaid lladd unrhyw aderyn sy'n cael ei gadw'n gaeth allan o olwg adar caeth eraill. Nid yw'r amod hwn yn berthnasol i adar sy'n cael eu dal mewn maglau a all ddal sawl aderyn ar unwaith.

24. Pan na ddefnyddir magl cawell, rhaid sicrhau nad yw'n bosib i ddal adar neu anifeiliaid ynddo.

Rhan D. Diffiniadau

25. Ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd.

26. Mae “unigolyn awdurdodedig” yn golygu:

(i) perchennog neu feddiannydd y tir y cymerir y camau a awdurdodwyd arno, neu unrhyw unigolyn a awdurdodwyd gan y perchennog neu’r meddiannydd i wneud hynny;

(ii) unrhyw unigolyn a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y cymerir y camau a awdurdodwyd ynddi;

(iii) unrhyw unigolyn a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan CNC.

Ni fydd awdurdodi unrhyw unigolyn at ddibenion y diffiniad hwn yn rhoi unrhyw hawl mynediad i unrhyw dir.

27. Ystyr “rhywogaeth o anifail a warchodir gan Ewrop” yw rhywogaeth a restrir yn Atodlen 2 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, fel y’u diwygiwyd.

28. Mae “lladd” yn cynnwys clwyfo'n ddamweiniol wrth geisio lladd yn unol â thelerau ac amodau'r drwydded hon.

29. Mae "archwiliad ffisegol" yn golygu archwiliad sy'n ddigonol er mwyn gwirio'r canlynol:

(i) a oes unrhyw anifail neu aderyn wedi'i ddal;

(ii) rhywogaeth a chyflwr corfforol unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi'i ddal;

(iii) cyflwr unrhyw aderyn denu a gedwir yn y magl;

(iv) a oes gan unrhyw aderyn denu a ddelir yn y magl fynediad at glwydfan addas ac at ddigon o fwyd a dŵr sy'n mewn cyflwr digonol; ac

(v) a yw'r magl yn gweithredu'n effeithiol.

Gydag archwiliad ffisegol, mae’n ofynnol i'r sawl sy'n ei wneud gael golwg glir o bob cydran o'r magl a'r cynnwys, ac, fel arfer, bydd hyn yn golygu bod yn ddigon agos i gyffwrdd â'r magl.

30. Mae “arf lled-awtomatig” yn golygu unrhyw arf nad yw wedi'i wahardd gan adran 5 o Firearms Act 1968 (fel y'i diwygiwyd) ac sydd â storgell sy'n gallu dal mwy na dwy rownd o fwledi, lle mae gwasgu'r glicied yn taflu un ergyd, gyda phob ergyd dilynol yn gofyn am wasgu pellach o'r glicied.

31. Mae “rhywogaeth darged” yn golygu rhywogaeth a grybwyllir ym mharagraff 3 o'r drwydded hon.

32. Mae “aderyn gwyllt” fel y'i diffinnir yn adran 27(1) o'r Ddeddf.

Rhan E. Cyngor i ddefnyddwyr y drwydded

E.1 Cyngor cyffredinol

33. Gall methu â gweithredu o fewn telerau’r drwydded hon fel y nodir yn Rhan B neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau a restrir yn Rhan C olygu na ellir dibynnu ar y drwydded ac y gellir cyflawni trosedd. Y gosb uchaf yn y Llys Ynadon am drosedd o dan y Ddeddf yw dirwy anghyfyngedig neu ddedfryd o chwe mis o garchar neu'r ddau.

34. Gallai lladd neu gymryd adar o’r rhywogaeth darged er mwyn gwarchod adar llawn dwf o’r rhywogaethau a restrir yn Atodiad 1 o’r drwydded hon, neu er mwyn diogelu unrhyw rywogaeth arall o aderyn gwyllt, gael ei ystyried yn drosedd.

35. Gall y drwydded hon gael ei haddasu neu ei dirymu gan CNC ar unrhyw adeg.

36. Ac eithrio fel y caniateir yn benodol o dan baragraff 3, nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi defnyddio unrhyw ddull o ladd neu gymryd adar gwyllt a waherddir gan adran 5 neu adran 8 o’r Ddeddf.

37. Cyn cymryd unrhyw gamau a awdurdodir gan y drwydded hon mewn perthynas â brain tyddyn, colomennod craig, jac-dos, pïod neu ysguthanod (rhywogaethau sy’n frodorol i’r Deyrnas Unedig), dylai unigolyn awdurdodedig wneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r diben dan sylw gan ddefnyddio dulliau amgen, cyfreithlon nad ydynt yn dod o dan y drwydded hon a dylai barhau i wneud hynny.

38. Dylai unrhyw un sy’n bwriadu rheoli adar gwyllt yn unrhyw un o’r safleoedd a restrir yn Atodiad 1 y drwydded hon, neu o fewn eu clustogfeydd, wneud cais i CNC am drwydded benodol.

39. Mae defnyddwyr y drwydded hon yn gyfrifol am gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau perthnasol, gan gynnwys mewn perthynas â lles anifeiliaid, y defnydd o ddrylliau a’r defnydd o beledi plwm.

40. Dim ond os ydynt o fewn cwmpas effeithiol y dylid saethu adar â dryll.

41. Wrth ymgymryd â gweithgareddau o dan y drwydded hon, cynghorir unigolion awdurdodedig i gario copi o'r drwydded.

42. Cynghorir defnyddwyr y drwydded hon i wneud cofnod ysgrifenedig o’r camau a gymerwyd o dan y drwydded hon, gan gynnwys er enghraifft:

  • unrhyw gamau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r broblem gan ddefnyddio dewisiadau eraill nad ydynt yn farwol yn lle camau trwyddedig;
  • y rhesymau pam y penderfynwyd nad oedd dewisiadau amgen nad oeddent yn farwol yn ddigon i fynd i'r afael â'r broblem;
  • dyddiad(au) a lleoliad(au) y camau trwyddedig a gymerwyd;
  • nifer yr adar/wyau/nythod a laddwyd/cymerwyd/difrodwyd/dinistriwyd a'r dull(iau) a ddefnyddiwyd.

Cynghorir defnyddwyr ymhellach i gadw'r cofnodion hyn am o leiaf tair blynedd o'r dyddiad y cymerwyd camau gweithredu, ac iddynt fod yn gallu eu dangos ar gais.

E.2 Cyngor ar ddefnyddio maglau cawell

43. Dylai unrhyw fagl a ddefnyddir o dan y drwydded hon gael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a chydrannau sy'n lleihau'r risg y bydd anifeiliaid neu adar a gedwir yn y magl yn cael eu hanafu neu’n anafu eu hunain.

44. Dylai dyluniad ac adeiladwaith maglau leihau'r risg o ddal neu niweidio rhywogaethau nad ydynt yn rhywogaethau targed heb effeithio’n afresymol ar effeithiolrwydd y magl ar gyfer dal rhywogaethau targed yn drugarog.

45. Dylai defnyddwyr maglau gymryd camau priodol i gyflawni a chynnal y lefel angenrheidiol o gymhwysedd i weithredu maglau cawell yn ddiogel ac yn drugarog, a all gynnwys hyfforddiant.

46. Dylid gosod maglau mewn lleoliadau sy'n lleihau'r risgiau o'r canlynol: dal neu anafu rhywogaethau nad ydynt yn rhywogaethau targed; difrod i'r magl gan adar neu anifeiliaid gwyllt neu rai dof; ymyrraeth gan unigolion anawdurdodedig; a niwed i adar neu anifeiliaid sydd wedi'u dal neu adar denu pan fyddant yn y magl.

47. Ni ddylid defnyddio maglau cyn belled ag y bo modd yn ystod cyfnodau o dywydd poeth neu oer eithafol, neu pan ragwelir amodau o'r fath. Os yw tywydd eithafol yn bosibl, dylid naill ai gosod maglau lle mae gorchudd naturiol i’w hamddiffyn rhag gwyntoedd cryfion, glaw, eira neu haul uniongyrchol (fel y bo’n berthnasol), neu dylid darparu gorchudd gan ddefnyddio dulliau artiffisial. Ni ddylid gosod maglau mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd.

48. Os defnyddir abwyd mewn magl, ni ddylai gynnwys cig lle bynnag y bo modd. Ni ddylid defnyddio cig neu gynhyrchion cig fel abwyd oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol.

49. Wrth gael eu defnyddio, lle bynnag y bo modd, dylai maglau gael eu harchwilio'n amlach nag unwaith bob 25 awr, ac yng ngolau dydd.

50. Dylid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau lles adar denu ac unrhyw adar neu anifeiliaid byw sy'n cael eu dal yn y magl. Mae’n drosedd o dan ddeddfwriaeth lles anifeiliaid achosi dioddefaint diangen i anifail neu aderyn caeth.

51. Dylai defnyddwyr maglau a all ddal sawl aderyn wneud pob ymdrech resymol i ladd adar allan o olwg adar caeth eraill oni bai y byddai gwneud hynny'n arwain at oedi a thrin ychwanegol, gan arwain at fwy o ofid i adar caeth.

52. Ym mhob archwiliad o fagl, cyn gynted ag y bo'n ymarferol:

(i) Dylid symud unrhyw anifeiliaid neu adar marw yn y magl.

(ii) Rhaid cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod gan unrhyw aderyn denu sydd i aros yn y magl fynediad at y cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer aderyn denu.

(iii) Rhaid i unrhyw adar byw o'r rhywogaeth darged sydd wedi'u dal gael eu difa mewn modd trugarog neu eu rhyddhau heb niwed, oni bai eu bod i'w cadw i'w defnyddio fel adar denu.

(iv) Rhaid i unrhyw adar neu anifeiliaid sydd wedi’u dal yn fyw o rywogaeth ac eithrio'r rhywogaeth darged gael eu rhyddhau, eu cymryd neu eu difa mewn modd trugarog cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Mae pa un o’r camau hyn y dylid ei gymryd yn dibynnu ar a yw’r anifail neu’r aderyn yn anifail dof neu’n wyllt, a yw wedi’i anafu, ac, os yw’n anifail neu’n aderyn gwyllt, i ba rywogaeth y mae’n perthyn, fel a ganlyn:

(a) dylai anifail neu aderyn dof sydd heb unrhyw arwydd o anaf naill ai gael ei ryddhau ar ôl cael ei ddal, neu ei ddychwelyd i'w berchennog;

(b) dylid mynd ag anifail neu aderyn dof sydd wedi'i anafu ar gyfer triniaeth filfeddygol a gwneud pob ymdrech resymol i hysbysu ei berchennog;

(c) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, dylai aderyn neu anifail gwyllt naill ai:

        • gael ei ryddhau ar ôl cael ei ddal, oni bai ei fod o rywogaeth na chaniateir ei ryddhau heb drwydded (gweler isod), neu
        • gael ei ddifa mewn modd trugarog, oni bai ei fod o rywogaeth na chaniateir ei ladd heb drwydded (gweler isod).

(v) Os bydd unrhyw anifail neu aderyn gwyllt sydd mewn magl yn cael ei anafu mor ddifrifol fel ei fod yn y fath gyflwr ei fod yn annhebygol o oroesi neu y byddai ei ryddhau yn anhrugarog, dylid ei ddifa mewn modd trugarog.

53. Mae gan anifail neu aderyn o unrhyw un o'r canlynol ofynion deddfwriaethol penodol y mae'n rhaid eu bodloni:

(i) rhywogaeth nad yw fel arfer yn preswylio ym Mhrydain nac yn ymweld yn rheolaidd

(ii) rhywogaeth a restrir yn Atodlen 9 i'r Ddeddf

(iii) rhywogaeth a restrir fel rhywogaeth estron goresgynnol sy'n peri pryder i'r Undeb

Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gofynion hyn.

54. Ni chaniateir lladd anifail neu aderyn o unrhyw un o’r rhywogaethau canlynol heb drwydded, oni bai ei fod wedi’i anablu mor ddifrifol fel nad oes unrhyw siawns resymol y bydd yn gwella, neu ei fod o rywogaeth sy’n destun tymor agored ac a gafodd ei ddal yn ystod y tymor agored hwnnw:

(i) adar gwyllt (unrhyw rywogaeth)

(ii) moch daear (Meles meles)

(iii) ceirw (unrhyw rywogaeth)

(iv) rhywogaeth a restrir yn Atodlen 5 i'r Ddeddf

(v) rhywogaeth a restrir yn Atodlen 2 i Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, fel y'u diwygiwyd

Atodiad 1. Rhywogaethau y mae paragraff 2 o’r drwydded hon yn berthnasol iddynt

Enw cyffredin

Enw gwyddonol

Morwennol y Gogledd

Sterna paradise

Titw Barfog

Panurus biarmicus

Aderyn y Bwn

Botaurus stellaris

Grugiar ddu

Lyurus tetrix

Gwylog Du

Cepphus grylle

Gwylan benddu

Chroicocephalus ridibundus

Coch y Berllan

Pyrrhula pyrrhula

Chaffinch

Fringilla coelebs

Brân goesgoch

Pyrrhocorax pyrrhocorax

Morwennol Gyffredin

Sterna hirundo

Cog

Cuculus canorus

Gylfinir

Numenius arquata

Telor Dartford

Sylvia undata

Dunnock

Prunella modularis

Hwyaden Fwythblu

Somateria mollissima

Aderyn drycin y graig

Fulmarus glacialis

Hugan

Morus bassanus

Garden warbler

Sylvia borin

Dryw Eurben

Regulus regulus

Troellwr Bach

Locustella naevia

Morgrugydd Cefnddu

Larus marinus

Llinos Werdd

Chloris chloris

Crëyr Glas

Ardea cinerea

Petrisen

Perdix perdix

Siglen lwyd

Motacilla cinerea

Gwylog

Uria aalge

Gylfinbraff

Coccothraustes coccothraustes

Gwylan y penwaig

Larus argentatus

Boda’r mêl

Pernis apivorus

Gwylan goesddu

Rissa tridactyla

Cornchwiglen

Vanellus vanellus

Gwylan gefnddu leiaf

Larus fuscus

Llinos bengoch fechan

Acanthis cabaret

Llinos

Carduelis cannabina

Tylluan Gorniog

Asio otus

Corhedydd y waun

Anthus pratensis

Mediterranean gull

Ichthyaetus melanocephalus

Brych y coed

Turdus viscivorus

Gwalch y pysgod

Pandion haliaetus

Redshank

Tringa tetanus

Mwyalchen y Mynydd

Turdus torquatus

Cwtiad Torchog

Charadrius hiaticula

Rook

Corvus frugilegus

Morwennol Wridog

Sterna dougallii

Morwennol Bigddu

Thalasseus sandvicensis

Mulfran

Phalacrocorax aristotelis

Ehedydd

Alauda arvensis

Gwybedog Mannog

Muscicapa striata

Corhedydd y Coed

Anthus trivialis

Turtur

Streptopelia turtur

Llwydfron

Sylvia communis

Cyffylog

Scolopax rusticola

Siglen Felen

Motacilla flava flavissima

Bras Melyn

Emberiza citronella

Atodiad 2. Safleoedd gwarchodedig lle nad yw'r drwydded hon yn berthnasol

Nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi cymryd unrhyw gamau o fewn ffiniau, neu o fewn 300 metr i ffiniau, unrhyw un o’r safleoedd gwarchodedig a restrir isod (neu o fewn 500 metr yn achos SoDdGA/AGA Aber Dyfi).

Gellir gweld lleoliadau’r ardaloedd hyn ar Map Data Cymru

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Aberarth - Carreg Wylan

Aberdunant

Afon Cleddau Dwyreiniol/Eastern Cleddau River

Afon Cleddau Gorllewinol/Western Cleddau River

Afon Dyfrdwy (River Dee)

Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd

Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn

Afon Irfon

Afon Llynfi

Afon Teifi

Afon Tywi

Afon Wysg (Isafonydd) / River Usk (Tributaries)

Allt y Gaer

Allt y Main Mine

Arfordir Abereiddi

Arfordir Gogleddol Penmon

Bach Howey Gorge

Beech Cottage, Waterwynch

Benarth Wood

Berwyn

Borth - Clarach

Bryn y Gwin Isaf

Bryngwyn Hall Stables and Coach House

Buckland Coach House & Ice House

Cadair Idris

Caeau Coed Mawr (Coedmawr Fields)

Carew Castle

Carreg y Llam

Castell y Waun a'i Barcdir/Chirk Castle and Parkland

Castlemartin Range

Cemlyn Bay

Ceunant a Thyrrau Trefgarn/Treffgarne Gorge and Tors

Chwarel Cambrian/Cambrian Quarry, Gwernymynydd

Cilcenni Dingle

Ciliau

Coed Aberdulas

Coed Aberedw

Coed y Crychydd

Coed y Gopa

Coedydd a Cheunant Rheidol (Rheidol Woods & Gorge)

Coedydd Beddgelert a Cheunant Aberglaslyn

Coedydd De Dyffryn Maentwrog

Coedydd Dyffryn Alwen

Coedydd Dyffryn Ffestiniog (Gogleddol)

Coedydd Nanmor

Colwyn Brook Marshes (North & South)

Cors Caron

Corsydd Llangloffan

Craig yr Aderyn (Bird's rock)

Creigiau Pen y graig

Creigiau Rhiwledyn/Little Ormes Head

Cwm Doethie - Mynydd Mallaen

Dale and South Marloes Coast

De Porth Sain Ffraidd / St Bride's Bay South

Dee Estuary / Aber Afon Dyfrdwy

Dolorgan Barn

Duhonw

Dyfi

Elenydd

Erwood Dingle

Eryri

Felin Llwyngwair

Ffynnon Beuno and Cae Gwyn Caves

Flat Holm

Foxwood

Ganllwyd

Garth-eryr

Glannau Aberdaron

Glannau Rhoscolyn

Glannau Ynys Gybi/ Holy Island Coast

Glascoed, Meifod

Glaslyn

Glyn Cywarch

Glynllifon

Gower Coast: Rhossili to Porteynon

Graig Fawr

Grassholm / Ynys Gwales

Gronant Dunes and Talacre Warren

Gwernydd Penbre

Gweunydd Esgairdraenllwyn (Esgairdraenllwyn Pastures)

Gweunydd Nant y Dernol

Gwlyptiroedd Casnewydd/Newport Wetlands

Hendre, Llangedwyn

Leighton Bat Roosts

Llanddulas Limestone and Gwrych Castle Wood

Llangovan Church

Migneint-Arenig-Dduallt

Milford Haven Waterway

Morfa Harlech

Mwyngloddfa Mynydd-Bach

Mwyngloddiau a Chreigiau Gwydyr

Mwyngloddiau Llanfrothen

Mwyngloddiau Wnion a Eglwys Sant Marc

Mynydd Llangatwg (Mynydd Llangattock)

Mynydd Penarfynnydd

Newborough Warren - Ynys Llanddwyn

Newton Court Stable Block

Orielton Stable Block and Cellars

Park House Outbuildings, Stackpole

Pen y Gogarth / Great Ormes Head

Pengelli Forest and Pant-teg Wood

Penmaenuchaf Hall

Penrice Stables and Underhill Cottage

Penygarnedd Mine

Plas Maenan

Porth Ceiriad, Porth Neigwl ac Ynysoedd Sant Tudwal

Puffin Island

Pwll-y-wrach

Ramsey / Ynys Dewi

Rhagnentydd Gwy Uchaf / Upper Wye Tributaries

Rhos Llawr Cwrt

River Ithon

River Lugg

River Teme

River Usk (Lower Usk)/Afon Wysg (Wysg Isaf)

River Usk (Upper Usk) / Afon Wysg (Wysg Uchaf)

River Wye (Lower Wye) / Afon Gwy (Gwy Isaf)

River Wye (Tributaries)/Afon Gwy (Isafonydd)

River Wye (Upper Wye) / Afon Gwy (Gwy Uchaf)

Rose Cottage, Llethrid

Ruperra Castle and Woodlands

Scoveston Fort

Shotton Lagoons and Reedbeds

Siambre Ddu

Skokholm

Skomer Island and Middleholm

Slebech Stable Yard Loft, Cellars & Tunnels

St. David's Peninsula Coast

St. Margaret's Island

Stackpole

Stackpole Courtyard Flats and Walled Garden

The Offshore Islets of Pembrokeshire / Ynysoedd Glannau Penfro

The Skerries

Twyni Lacharn - Pentywyn / Laugharne - Pendine Burrows

Ty Bach Ystlumod

West Llangynog Slate Mine

Wye Valley

Ynys Enlli

Ynys Feurig

Ynysoedd y Gwylanod, Gwylan Islands

Ysbyty Bron y Garth

Yr Eifl

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig

Anglesey Terns / Morwenoliaid Ynys Môn

Berwyn

Burry Inlet

Castlemartin Coast

Craig yr Aderyn (Bird's Rock)

Dyfi Estuary / Aber Dyfi

Elenydd-Mallaen

Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island

Glannau Ynys Gybi / Holy Island Coast

Grassholm

Liverpool Bay / Bae Lerpwl

Migneint-Arenig-Dduallt

Mynydd Cilan, Trwyn y Wylfa ac Ynysoedd Sant Tudwal

Ramsey and St David's Peninsula Coast

Severn Estuary

Skomer, Skokholm and the seas off Pembrokeshire / Sgomer, Sgogwm a Moroedd Penfro

The Dee Estuary

Traeth Lafan / Lavan Sands, Conway Bay

Ynys Seiriol / Puffin Island

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

Afon Eden-Cors Goch Trawsfynydd

Afon Gwyrfai a Llyn Gwellyn

Afon Teifi / River Teifi

Afon Tywi / River Tywi

Afonydd Cleddau / Cleddau Rivers

Cardigan Bay / Bae Ceredigion

Carmarthen Bay and Estuaries / Bae Caerfyrddin ac Aberoedd

Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion / Meirionnydd Oakwoods and Bat Sites

Cors Caron

Dee Estuary / Aber Dyfrydwy

Glynllifon

Limestone Coast of South West Wales / Afordir Calchfaen De Orllewin Cymr

Mwyngloddiau Fforest Gwydir / Gwydyr Forest Mines

North Pembrokeshire Woodlands / Coedydd Gogledd Sir Benfro

Pembrokeshire Bat Sites and Bosherston Lakes/ Safleoedd Ystlum Sir Benfro a Llynnoedd Bosherston

Pembrokeshire Marine / Sir Benfro Forol

Pen Llŷn ar Sarnau / Lleyn Peninsula and the Sarnau

River Dee and Bala Lake / Afon Dyfrydwy a Llyn Tegid

River Usk / Afon Wysg

River Wye / Afon Gwy

Tanat and Vyrnwy Bat Sites / Safleoedd Ystlumod Tanat Ac Efyrnwy

Usk Bat Sites / Safloedd Ystlumod Wysg

Wye Valley and Forest of Dean Bat Sites / Safleoedd Ystlumod Dyffryn Gwy

Wye Valley Woodlands / Coetiroedd Dyffryn Gwy

Diweddarwyd ddiwethaf