Rhif y drwydded: WCA / GEN / 005 / 2024
Yn ddilys o: 1 Ionawr 2024
Dyddiad gorffen: 31 Rhagfyr 2024

Trwydded i ladd neu gymryd hwyaid coch neu gymryd neu ddinistrio eu nythod neu eu hwyau at ddibenion gwarchod adar gwyllt.

Rhan A. Sail gyfreithiol a diben y drwydded hon

1. Mae'r drwydded hon, a roddir o dan Adran 16(1)(c) a (5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) (y Ddeddf) gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru a elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n fodlon o ran y diben a nodir ym mharagraff 2 nad oes ateb boddhaol arall, yn caniatáu unigolion awdurdodedig (gweler Diffiniadau) i gyflawni’r camau gweithredu a nodir ym mharagraff 3.

2. Y diben rhoi’r drwydded hon yw gwarchod adar gwyllt.

Rhan B. Yr hyn y mae'r drwydded hon yn ei awdurdodi

3. At y diben a amlinellir ym mharagraff 2, mae’r drwydded hon yn caniatáu i unrhyw unigolyn awdurdodedig i ladd neu gymryd hwyaid coch (Oxyura jamaicensis), neu i gymryd, difrodi neu ddinistrio eu nythod neu gymryd neu ddinistrio eu hwyau trwy ddefnyddio:

(i) Unrhyw ddull nad yw wedi’i wahardd gan adran 5 o’r Ddeddf;

(ii) arf lled-awtomatig (gweler Diffiniadau).

4. Dim ond yn y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024, ac yn amodol ar gydymffurfio â’r holl amodau a restrir yn Rhan C, y mae’r camau gweithredu a restrir ym mharagraff 3 wedi’u hawdurdodi.

5. Mae'r drwydded hon yn berthnasol yng Nghymru, ochr y tir o'r marc distyll cymedrig.

Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Llofnodwyd ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhan C. Amodau

6. Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n bwriadu defnyddio’r drwydded hon sicrhau ei fod wedi darllen a deall ei thelerau ac amodau cyn cymryd camau trwyddedig.

7. Rhaid lladd unrhyw adar sy'n cael eu lladd yn unol â'r drwydded hon mewn modd cyflym a thrugarog, a hynny’n unol â’r diffiniad o “ladd” yn y drwydded hon (gweler Diffiniadau).

8. Rhaid gwneud pob ymdrech i ladd, yn drugarog, unrhyw aderyn o rywogaeth darged (gweler Diffiniadau) sy'n cael ei anafu, a hynny drwy gymryd unrhyw gamau trwyddedig.

9. Os bydd unrhyw anifail o rywogaeth a warchodir gan Ewrop (gweler Diffiniadau), neu unrhyw aderyn ysglyfaethus gwyllt (gan gynnwys tylluanod), yn cael ei ddal, ei ladd neu ei anafu wrth gymryd camau o dan y drwydded hon, rhaid hysbysu CNC am y ffaith honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Gellir cysylltu gyda CNC drwy e-bostio trwyddedrhywogaeth@naturalresourceswales.gov.uk.

10. Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n cyflawni unrhyw weithred a ganiateir gan y drwydded hon ddarparu adroddiad yn rhoi manylion nifer yr adar a laddwyd neu a gymerwyd a nifer y nythod a’r wyau a gymerwyd neu a ddinistriwyd, fel bo’n briodol, i CNC heb fod yn hwy na 14 diwrnod ar ôl dyddiad gorffen y drwydded, gan nodi hefyd lle bo’n ymarferol yn rhesymol ble y cymerwyd y camau trwyddedig. Mae’n rhaid anfon adroddiadau drwy’r post at y cyfeiriad canlynol: Tîm Trwyddedu Rhywogaethau CNC, Maes y Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2DW, neu dros e-bost at: specieslicence@naturalresourceswales.gov.uk.

11. Ni chaiff unrhyw un a geir yn euog o drosedd y mae’r amod hwn yn gymwys iddo ddefnyddio’r drwydded hon oni bai, mewn perthynas â’r drosedd honno, naill ai (1) y cafodd yr achos ei wrthod â rhybudd, neu (2) ei fod yn unigolyn a adsefydlwyd at ddibenion Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a chaiff ei euogfarn ei thrin fel un sydd wedi darfod. Caiff unigolyn ddefnyddio’r drwydded hon pan fo llys, mewn perthynas â throsedd o’r fath, wedi gwneud gorchymyn i’w ryddhau’n ddiamod. Mae'r amod hwn yn berthnasol i droseddau o dan y Ddeddf, Deddf Ceirw 1991, Wild Mammals (Protection) Act 1996, Hunting Act 2004,  Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017,  Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (i gyd fel y'u diwygiwyd).

Rhan D. Diffiniadau

12. Ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd.

13. Mae “unigolyn awdurdodedig” yn golygu:

(i) perchennog neu feddiannydd y tir y cymerir y camau a awdurdodwyd arno, neu unrhyw unigolyn a awdurdodwyd gan y perchennog neu’r meddiannydd i wneud hynny;

(ii) unrhyw unigolyn a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y cymerir y camau a awdurdodwyd ynddi;

(iii) unrhyw unigolyn a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan CNC.

Ni fydd awdurdodi unrhyw unigolyn at ddibenion y diffiniad hwn yn rhoi unrhyw hawl mynediad i unrhyw dir.

14. Ystyr “rhywogaeth o anifail a warchodir gan Ewrop” yw rhywogaeth a restrir yn Atodlen 2 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, fel y’u diwygiwyd.

15. Mae “lladd” yn cynnwys clwyfo'n ddamweiniol wrth geisio lladd yn unol â thelerau ac amodau'r drwydded hon.

16. Mae “arf lled-awtomatig” yn golygu unrhyw arf nad yw wedi'i wahardd gan adran 5 o’r ddeddf Firearms Act 1968 (fel y'i diwygiwyd) ac sydd â storgell sy'n gallu dal mwy na dwy rownd o fwledi, lle mae gwasgu'r glicied yn taflu un ergyd, gyda phob ergyd dilynol yn gofyn am wasgu pellach o'r glicied.

17. Mae “rhywogaeth darged” yn golygu rhywogaeth a grybwyllir ym mharagraff 3 o'r drwydded hon.

18. Mae “aderyn gwyllt” fel y'i diffinnir yn adran 27(1) o'r Ddeddf.

Rhan E. Cyngor i ddefnyddwyr y drwydded

19. Gall methu â gweithredu o fewn telerau’r drwydded hon fel y nodir yn Rhan B neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau a restrir yn Rhan C olygu na ellir dibynnu ar y drwydded ac y gellir cyflawni trosedd. Y gosb uchaf yn y Llys Ynadon am drosedd o dan y Ddeddf yw dirwy anghyfyngedig neu ddedfryd o chwe mis o garchar neu'r ddau.

20. Gall y drwydded hon gael ei haddasu neu ei dirymu gan CNC ar unrhyw adeg.

21. Ac eithrio fel y caniateir yn benodol o dan baragraff 3, nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi defnyddio unrhyw ddull o ladd neu gymryd adar gwyllt a waherddir gan adran 5 neu adran 8 o’r Ddeddf.

22. Mae defnyddwyr y drwydded hon yn gyfrifol am gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau perthnasol, gan gynnwys mewn perthynas â lles anifeiliaid, y defnydd o ddrylliau a’r defnydd o beledi plwm.

23. Dim ond os ydynt o fewn cwmpas effeithiol y dylid saethu adar â dryll.

24.Wrth ymgymryd â gweithgareddau o dan y drwydded hon, cynghorir unigolion awdurdodedig i gario copi o'r drwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf