Rhif trwydded: GEN / WCA / 006 / 2024
Yn ddilys o: 1 Ionawr 2024
Dod i ben: 31 Rhagfyr 2024

Trwydded i gymryd wyau adar o flychau nythu wedi eu gadael

Mae drwydded hon, a roddwyd o dan Adran 16 (1) (c) ac Adran 16 (5) (a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), gan y Corff Adnoddau Naturiol Cymru elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn fodlon bod o ran y diben a nodir ym mharagraff 1 nad oes ateb boddhaol arall, trwyddedir personau awdurdodedig i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau yn erbyn adar o'r rhywogaeth rhestredig a drwy hyn yn awdurdodi y drwydded a ganlyn sy'n gymwys yn unig yng Nghymru.

1. Diben y drwydded hon yw caniatáu tynnu wyau sydd wedi’u gadael o flychau nythu a’u dinistrio’n brydlon cyn y tymor bridio nesaf, ar gyfer gwarchod adar gwyllt.

2. Yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau isod, mae’r drwydded hon yn caniatáu cymryd a dinistrio ŵy aderyn gwyllt neu unrhyw ran o ŵy o’r fath, at y diben sydd wedi’i nodi ym mharagraff 1 uchod.

Mae'r gwaith a nodwyd uchod wedi eu drwyddedu ar gyfer y cyfnod a nodir uchod, ac yn cael eu ganiatáu yn amodol ar gydymffurfio â'r amodau fel a nodwyd. Gall unrhyw beth a wnaed heb fod yn unol â thelerau'r drwydded fod yn drosedd.

Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Llofnodwyd ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru

Amodau

1. Nid yw’r drwydded hon yn gymwys ond i gymryd â llaw a dinistrio ŵy aderyn gwyllt, neu ran o ŵy o’r fath, o flychau nythu yng Nghymru nad yw adar wrthi’n eu defnyddio, yn ystod y cyfnod 1 Medi i 31 Ionawr. Caiff ei gyhoeddi er mwyn caniatáu tynnu wyau sydd wedi’u gadael neu wyau aflwyddiannus o flychau nythu cyn y tymor bridio nesaf ddechrau. Rhaid i bob ŵy a dynnir o flwch nythu o dan y drwydded hon gael ei ddinistrio cyn gynted â phosib.

2. Nid oes dim yn y drwydded hon yn caniatáu gwerthu, trwco neu gyfnewid ŵy aderyn gwyllt neu unrhyw ran o ŵy o’r fath.

3. Nid oes dim yn y drwydded hon yn caniatáu cadw neu berchen ar ŵy aderyn gwyllt neu ran o ŵy o’r fath.

4. Ni chaniateir i unrhyw berson a gollfarnwyd o dramgwydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ddefnyddio’r drwydded hon oni bai, mewn perthynas â’r tramgwydd hwnnw, naill ai iddo (1) gael ei ryddhau gyda rhybudd, neu (2) ei fod yn berson wedi’i adsefydlu at ddibenion Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 ac yr ystyrir bod y gollfarn wedi’i disbyddu. Caniateir i berson ddefnyddio’r drwydded hon hefyd os, mewn perthynas â thramgwydd o’r fath, y bydd Llys wedi gwneud gorchymyn yn ei ryddhau’n gyfan gwbl. Mae'r paragraff hwn yn berthnasol i droseddau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Ceirw 1991, Deddf (Gwarchod) Mamolion Gwylltion 1996, Deddf Hela 2004, Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth 2017, Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (i gyd fel y'u diwygiwyd).

5. Bydd methu â gweithredu yn unol â diben y drwydded fel y’i nodir ym mharagraff 1, neu methu â chydymffurfio â thelerau ac amodau’r drwydded, yn golygu na ellir dibynnu ar y drwydded ac o’r herwydd gallai tramgwydd gael ei gyflawni. Y gosb uchaf sydd ar gael ar gyfer tramgwydd o dan y Ddeddf yw dirwy lefel 5 (£5,000) a/neu ddedfryd o chwe mis yn y carchar.

Nodiadau

1. Cyhoeddwyd trwydded mewn termau tebyg gan Natural England mewn perthynas â Lloegr a chan Weithredfa’r Alban mewn perthynas â’r Alban.

2. Gall y drwydded hon gael ei newid neu ei dirymu ar unrhyw amser.

Rhan D. Diffiniadau

1. Mae “unigolyn a awdurdodwyd” yn golygu:

a) perchennog neu ddeiliad y tir, neu unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi gan berchennog neu ddeiliad y tir lle cynhelir y weithred a awdurdodir;

b) unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod lleol yr ardal lle cynhelir y weithred a awdurdodir;

c) o ran unrhyw beth a wneir mewn perthynas ag adar gwyllt, unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan:

i. Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phethau a wneir at ddibenion sy'n gysylltiedig â physgota neu bysgodfeydd yn rhanbarth glannau Cymru (o fewn ystyr Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009);

ii. unrhyw un o'r cyrff canlynol: unrhyw un o gyrff cadwraeth Prydain, bwrdd ar gyfer ardal bysgota o fewn ystyr Deddf Pysgodfeydd Eogiaid (yr Alban) 1862 neu un o awdurdodau pysgodfeydd a chadwraeth y glannau.

d) unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth.

Nid yw’r awdurdod a roddir i unigolyn at ddibenion y diffiniad hwn yn rhoi’r hawl iddo fynd ar dir.

Diweddarwyd ddiwethaf