Cyfarfodydd Bwrdd 2026: dyddiadau, agendâu a chofnodion

Dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd – 2026

Cynhelir rhai o gyfarfodydd y Bwrdd yn gyhoeddus ar-lein. Rydym yn cyhoeddi’r agenda a’r papurau ar ein gwefan un wythnos cyn pob cyfarfod cyhoeddus. Rydym yn cyhoeddi’r cofnodion ar ôl iddynt gael eu cadarnhau yn y cyfarfod dilynol.

Sgyrsiau gyda CNC

Fel rhan o'n cyfarfod bwrdd ym mis Medi, rydym yn cynnal ein digwyddiad galw heibio nesaf, a fydd yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelodau'r Bwrdd a staff am ystod o faterion.

Dyddiad: Medi 22, 2026
Amser: 4.30yp tan 6.30yp.
Lleoliad: Pafiliwn Rhyngwladol (i fyny'r grisiau), Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, LD2 3SY.

Mae croeso i bawb fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae parcio ar gael.

Arsylwi cyfarfodydd y Bwrdd ar-lein

Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg ar gael ym mhob cyfarfod cyhoeddus agored. Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Rydym wrthi’n adolygu’r modd rydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd drwy ein cyfarfodydd Bwrdd a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth maes o law.

Dyddiadau, agendâu a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd

Diweddarwyd ddiwethaf