Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2024–2025

Crynodeb gweithredol

Croeso i grynodeb ein hadroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer 2024-2025. Mae’r adroddiad yn nodi’r gwaith yr ydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn:-

  • Rydym wedi gweld canran y cydweithwyr sydd wedi hunanddatgan un nodwedd warchodedig yn cynyddu 5% yn ystod y flwyddyn adrodd i 74%.
  • Llwyddwyd i gael ailachrediad Lefel 2 ar gyfer cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ym mis Ebrill 2024 a bydd angen adolygu hyn ym mis Mawrth 2027.
  • Mae ein bwlch cyflog rhywedd wedi lleihau eto eleni, o 0.4%, ac mae’r bwlch ar hyn o bryd yn 1.6%.
  • Yn dilyn lansio Offeryn Sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb y llynedd, mae ei effeithiolrwydd wedi’i wireddu o ran galluogi cydweithwyr i asesu a gwneud eu penderfyniad gwybodus eu hunain ynghylch a oes angen cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar waith y maent yn bwriadu ei wneud. Rydym hefyd yn bwriadu ystyried effeithiolrwydd ein hasesiad o’r effaith ar gydraddoldeb drwy ein gwaith gwella sicrwydd.
  • Mae ein Tîm Hamdden wedi parhau â'u rhaglen waith i wella'r cyfleusterau hamdden rydym yn eu rheoli a hygyrchedd i'r rhai ag anableddau symudedd.
  • Mae gennym bellach gyflenwr y cytunwyd arno sy’n darparu hyfforddiant Gwylwyr Gweithredol, ar ffurf rithwir ac e-ddysgu, a fydd yn helpu pobl i ddeall sut y maent yn mynd ati i herio ymddygiad amhriodol ac annerbyniol yn y gweithle.
  • Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod y flwyddyn adrodd hon.
  • Nododd y Strategaeth Pawb Gyda’n Gilydd – Amrywiaeth a Chynhwysiant (2022-2025), a gafodd ei theilwra’n benodol i’n sefydliad, 35 o gamau gweithredu i helpu i gyflawni’r chwe amcan strategaeth sy’n ymwneud ag arferion, ymddygiadau a gwerthoedd yn y gweithle. Mae 24 o gamau gweithredu wedi'u cwblhau a'u hymgorffori yn ein gwaith busnes fel arfer gan y Tîm Cydraddoldeb. Bydd y camau gweithredu sy’n weddill yn cael eu hadolygu a byddant yn parhau o bosib y tu hwnt i fis Mawrth 2025.

Er ein bod yn ymdrechu i wneud cynnydd tuag at ddod yn sefydliad mwy cynhwysol, mae gennym lawer o waith i’w wneud os ydym am ddod yn fwy amrywiol yn ei ystyr ehangaf, sy’n hanfodol os ydym am sicrhau dyfodol lle gall pobl a natur ffynnu gyda’i gilydd. Mae'r adroddiad hefyd yn rhannu'r cyfleoedd gwelliant parhaus hynny yr ydym wedi'u nodi drwy'r prosiect cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y Rhaglen Trawsnewid Pobl yn ystod y flwyddyn hon.

Y llynedd, fe wnaethom hefyd ailddatgan ein hymrwymiad o 2020-2024 i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb strategol fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru, a gymeradwywyd gan Fwrdd CNC.

Cefndir

Yn ystod 2024/2025, fe wnaethom barhau i weithio tuag at gyflawni’r amcanion cydraddoldeb strategol a adnewyddwyd y llynedd a bwrw ymlaen â’r cynllun gweithredu sy’n cefnogi Strategaeth Gyda’n Gilydd ar Amrywiaeth a Chynhwysiant (2022-2025). Mae'r adroddiad hwn yn rhannu'r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn yn erbyn y rhain.

Hefyd, i gefnogi cyflawni ein huchelgeisiau ac i wella ein profiad a pherfformiad o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn barhaus, rydym wedi cyflwyno cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i brosiect cymeradwy o fewn y Rhaglen Trawsnewid Pobl. Yn ysbryd gwelliant parhaus a byw ein gwerth o fod yn ddyfeisgar, rydym wedi nodi rhai meysydd i’w gwella a chyfleoedd ar gyfer aeddfedrwydd pellach sy’n cynnwys: 1) Adolygu trefniadau llywodraethu 2) Arweinyddiaeth gynhwysol 3) Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth 4) Gwella data a sicrwydd 5) Datblygu atebion atyniadol ac adnoddau i amrywio ein gweithlu. Mae’r prosiect cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei lunio o amgylch cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb strategol o fis Ebrill 2025, wrth ein galluogi ar yr un pryd hefyd i wella’r gwasanaeth a’r profiad i’n cydweithwyr a’n cwsmeriaid yn barhaus. Mae hyn hefyd yn ein helpu i sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen arnom i wneud gwahaniaeth.

Y cyd-destun rheoleiddiol a chyfreithiol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr effaith y gall ein gwaith, ein polisïau, a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ei chael ar eraill, gan gynnwys effeithiau yn ein gweithle ein hunain. I grynhoi, rhaid i gyrff cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf.
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt.
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl â “nodwedd warchodedig”. Y nodweddion gwarchodedig yw:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb datganoledig sector cyhoeddus Cymru fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Daeth y dyletswyddau penodol yng Nghymru i rym ar 6 Ebrill 2011. Bydd cyrff cyhoeddus rhestredig fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â’r canlynol:

  • adroddiadau monitro a chyhoeddi blynyddol
  • hygyrchedd
  • asesu effaith
  • ymgynghori ac ymgysylltu
  • caffael
  • hyfforddiant staff
  • cynlluniau cydraddoldeb strategol
  • gwybodaeth cydraddoldeb am ddefnyddwyr gwasanaeth
  • gwybodaeth am gydraddoldeb yn y gweithlu a gwahaniaethau tâl yn y gweithlu

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn ofyniad cyfreithiol. Nod eang y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yw integreiddio ystyriaeth o hyrwyddo cydraddoldeb, peidio â gwahaniaethu a meithrin cysylltiadau da ym mhopeth a wnawn.

Mae ein dyletswyddau i hybu a defnyddio’r Gymraeg wedi’u pennu ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae ein safonau’r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol bod yr iaith yn cael ei hystyried yn ein holl brosesau gwneud penderfyniadau ac yn cael ei chynnwys fel ystyriaeth yn ein proses asesu effaith cydraddoldeb, gan sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal.

Amcanion cydraddoldeb strategol Sector Cyhoeddus Cymru 2020 – 2024

Cafodd ein hamcanion cydraddoldeb strategol yn 2020-2024 eu datblygu fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru a’u cymeradwyo gan Fwrdd CNC ym mis Medi 2020. Mae’r amcanion cydraddoldeb strategol (2020-2024) yn canolbwyntio ar bum amcan trosfwaol allweddol:

  • cynyddu a gwella amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu.
  • dileu bylchau cyflog.
  • cynnwys cymunedau a rhanddeiliaid yn weithredol.
  • ymgorffori cydraddoldeb yn y broses gaffael a chomisiynu.
  • darparu gwasanaethau cynhwysol.

Amcanion cydraddoldeb strategol 2024 – 2028

Y llynedd, fe wnaethom ailddatgan ein hymrwymiad i gyflawni’r amcanion cydraddoldeb strategol o 2020 i 2024, sydd yn mynd i barhau am y pedair blynedd nesaf.

Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud wrth weithredu ein hamcanion cydraddoldeb strategol ar gyfer 2024 – 2028 i’w weld yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.

‘Gyda’n Gilydd – All Together’

Strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant 2021-25 CNC

Yn ogystal ag amcanion cydraddoldeb strategol Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru (2020-2024), cytunodd y bwrdd hefyd y dylem ddatblygu strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant fwy penodol wedi’i theilwra i’r arferion, polisïau, ymddygiadau a gwerthoedd penodol yn ein sefydliad. Arweiniodd hyn at Strategaeth Gyda’n Gilydd ar Amrywiaeth a Chynhwysiant (2022-2025) ac roedd yn canolbwyntio ar chwe amcan allweddol fel a ganlyn:

  • Dod â newid yn ein diwylliant drwy nodi a gweithredu mentrau sy’n cefnogi pawb i wrando’n weithredol a modelu ymddygiadau cynhwysol yn y gweithle.
  • Gwella ansawdd y data rydym yn ei gasglu er mwyn ein galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a gwell.
  • Codi’r bar ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant trwy ‘fyw ein gwerthoedd’ a thrwy gefnogi a dathlu ein hamrywiaeth ein hunain yn ogystal ag amrywiaeth Cymru.
  • Adolygu’r ffordd rydym yn defnyddio iaith yn ein polisïau a’n harferion er mwyn creu diwylliant mwy cynhwysol ac amrywiol.
  • Sicrhau bod unrhyw un yng Nghymru, gan gynnwys ein cwsmeriaid presennol a newydd, rhanddeiliaid, a defnyddwyr gwasanaethau, yn gallu llunio ein gwasanaethau a chael mynediad hawdd i’n gofodau.
  • Sicrhau bod ein polisïau yn cyd-fynd â’n hamcanion amrywiaeth a chynhwysiant a datblygu ein pobl mewn ffordd ystyrlon.

Cymeradwywyd Strategaeth Gyda’n Gilydd – Amrywiaeth a Chynhwysiant gan y bwrdd ym mis Ionawr 2022 a daeth yn weithredol ym mis Medi 2022 gyda phenodiad cynghorydd arbenigol arweiniol newydd ar amrywiaeth a chynhwysiant. Nodwyd camau gweithredu i'n helpu i gyflawni nodau'r chwe amcan hyn.

O’r 35 o gamau gweithredu a nodwyd i helpu i gyflawni’r chwe amcan allweddol yn Strategaeth Gyda’n Gilydd – Amrywiaeth a Chynhwysiant (2022-2025), cwblhawyd 24 gan y Tîm Cydraddoldeb o fewn yr amserlen, gyda llawer o’r gwaith hwn yn cael ei ymgorffori yn ein gwaith busnes fel arfer. Oherwydd diffyg adnoddau a chyllid, bydd rhai o’r 11 cam gweithredu parhaus yn cael eu hadolygu ac mae’n bosibl y byddant yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth 2025.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau o’r camau gweithredu y mae’r Tîm Cydraddoldeb wedi gweithio arnynt i helpu i gyflawni’r chwe amcan allweddol ynghylch arferion, ymddygiadau a gwerthoedd yn y gweithle yn Strategaeth Gyda’n Gilydd – Amrywiaeth a Chynhwysiant (2022-2025) wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn ac yn adroddiad y llynedd, gan gynnwys:

  • Cyflwynwyd rhaglen o sesiynau ymwybyddiaeth parhaus a diwrnodau/misoedd/diwrnodau cofio drwy: Gweminar Dydd Mercher, sesiynau ymwybyddiaeth iechyd a lles, cyfathrebu ar y fewnrwyd, postiadau blog Viva Engage rhwng 2022 a 2025.
  • Cynhwyswyd ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’r Gymraeg mewn hyfforddiant sefydlu ar gyfer cydweithwyr newydd ac mae’n rhan o’r Pecyn Cymorth Sefydlu a Rheolwyr i Reolwyr yn 2022 – 2024. Cynigir sesiynau gloywi hefyd i staff hirdymor.
  • Mwy o grwpiau adnoddau gweithwyr - rhwydweithiau staff, yn ogystal â phwrpas a buddion yn y gweithle.
  • Mwy o hunanddatgelu gwirfoddol trwy sesiynau ymwybyddiaeth. Mae’r ffigurau presennol yn dangos bod 74% o’n cydweithwyr wedi hunanddatgelu peth neu’r cyfan o’r wybodaeth yn wirfoddol, sef cynnydd o 5% ers y llynedd.
  • Wedi cyfrannu at ddiweddaru polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â phobl, gan gynnwys y Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a’r Polisi Bwlio ac Aflonyddu.
  • Wedi adolygu a diweddaru cynnwys ar dudalen fewnrwyd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ddarparu mwy o help hunanarweiniol i'n cydweithwyr, gan gynnwys dyfeisio calendr o ddiwrnodau ymwybyddiaeth yn 2023/2024.
  • Wedi cyfrannu at y dangosfwrdd ar gyfer data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda chymorth staff dadansoddi data.
  • Wedi lansio pasbortau gwaith a llesiant yn 2022 a’u hadolygu yn 2024.
  • Datblygwyd traciwr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn 2022.
  • Cyflwynwyd hyfforddiant asesu effaith cydraddoldeb ym mis Mawrth 2023 i garfan o staff ar draws cyfarwyddiaethau.
  • Offeryn Sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i ddatblygu a'i lansio yn 2023.

Fforwm cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Sefydlwyd y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i gefnogi’r gwaith o gyflwyno a monitro’r amcanion cydraddoldeb strategol ar draws y sefydliad, ac adrodd arnynt, ynghyd â chyflawni ein strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Roedd y telerau cyfrifoldebau yn nodi cynrychiolaeth o bob rhan o CNC, gan gynnwys y Bwrdd, y Tîm Gweithredol, a phob un o’n wyth cyfarwyddiaeth, yn ogystal â chydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad, undebau llafur, a chynrychiolaeth o grwpiau adnoddau gweithwyr.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae aelodau’r Fforwm cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi darparu mewnwelediad a thrafodaethau gwerthfawr sy'n helpu i sefydlu arferion gweithle cynhwysol ar draws y sefydliad.

Rhai o’r gwaith y mae aelodau’r Fforwm cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi bod yn ymwneud ag ef:

  • Wedi cyfrannu at raglen achos dros newid y sefydliad.
  • Wedi cyfrannu at bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys y polisi gofalwyr, gweithio hyblyg, a bwlio ac aflonyddu.
  • Wedi cyfrannu at brosesau ac arferion recriwtio.
  • Wedi cyfrannu at asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb sy'n effeithio ar y priod nodweddion gwarchodedig.
  • Trafodaethau parhaus ar wella gofynion hyfforddi ar gyfer arweinwyr a rheolwyr ynghylch gwerthoedd, arferion gweithle, ymddygiadau ac addasiadau rhesymol.

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal adolygiad o effeithiolrwydd y Fforwm cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a oedd yn cynnwys adolygiad o'r telerau cyfrifoldebau. Amlygodd y canfyddiadau fod y Fforwm cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi bod yn effeithiol o ran codi ymwybyddiaeth, mynd i'r afael â heriau ymarferol yn y gweithle, a hyrwyddo arferion cynhwysol. Fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â heriau ynghylch gwelededd arweinwyr ac ymrwymiad canfyddedig yn ogystal ag eglurder pwrpas er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl. Y canfyddiad cyffredinol yw nad yw rhai o aelodau'r fforwm yn teimlo eu bod wedi'u galluogi'n llawn i wneud newid ystyrlon oherwydd bylchau yn yr arweinyddiaeth, a fydd yn cael eu hystyried mewn adolygiad o'r telerau cyfrifoldebau. Yn ogystal â’r Fforwm cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, cynigiwyd hefyd cael grŵp ar gyfer grwpiau adnoddau gweithwyr – arweinwyr rhwydweithiau staff i gyfarfod, cydweithio, a thrafod materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a allai, er enghraifft, ymwneud â gwasanaethau phobl a recriwtio.

Grwpiau adnoddau gweithwyr – rhwydweithiau staff

Mae grwpiau adnoddau gweithwyr, a elwir hefyd yn rhwydweithiau gweithwyr neu staff, yn ofod cefnogol a chroesawgar i’n cydweithwyr ddod ynghyd i greu newid yn y gweithle. Mae grwpiau adnoddau gweithwyr yn aml yn canolbwyntio ar nodwedd warchodedig a dangynrychiolir yn y gweithle. Mae'r rhwydweithiau'n rhoi cyfle i'n cydweithwyr gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydwaith.

Mae gan bob un o’n grwpiau adnoddau gweithwyr dudalen fewnrwyd bwrpasol gyda gwybodaeth sy’n berthnasol i bob grŵp y mae gan bob aelod o staff fynediad iddi. Ar hyn o bryd, mae gennym naw grŵp adnoddau gweithwyr sy’n cynrychioli themâu nodweddion gwarchodedig, sef anabledd, rhyw a rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, a chrefydd a chred. Y rhain yw:

  • Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir
  • Calon – Rhwydwaith Staff LHDTC+
  • Rhwydwaith Staff y Gymdeithas Gristnogol
  • Cwtsh – Rhwydwaith Gofalwyr
  • Rhwydwaith Cyfeillion Dementia
  • Golwg Isel – Rhwydwaith Staff Anabledd
  • Rhwydwaith Staff Mwslimaidd
  • Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth
  • Rhwydwaith y Merched

Mae gan bob grwp adnoddau gweithwyr arweinydd, neu cyflawnir y rôl ar y cyd ag aelodau eraill o staff. Cyflawnir y rolau hyn yn wirfoddol gyda chaniatâd rheolwr llinell. Dyfeisiwyd canllaw arfer da gan y Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda chefnogaeth y grwpiau adnoddau gweithwyr a oedd yn amlinellu nodau ac amcanion y rhwydweithiau. Mae’r canllawiau hefyd yn darparu fframwaith i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles ac i gydbwyso eu swydd bob dydd a’u rôl fel arweinwyr rhwydwaith, yn ogystal â chynllunio ar gyfer olyniaeth.

Mae arweinwyr grwpiau adnoddau gweithwyr hefyd yn cael eu cefnogi gan y Tîm Cydraddoldeb i wneud mwy o ddefnydd o fecanweithiau mewnol i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth, Mis Hanes LHDTC+ a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Mae cymorth hefyd ar gael i rai o'r rhwydweithiau i wella a theilwra’r dysgu a gynigir gan eu rhwydwaith, trwy ein system rheoli dysgu newydd.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith ein grwpiau adnoddau gweithwyr yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.

Asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb

Mae cwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau, ein harferion a’n polisïau yn deg ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp â nodweddion gwarchodedig. Mae ein hasesiadau hefyd yn cynnwys ystyriaethau o ran y Gymraeg, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a hawliau dynol ac yn ein helpu i gyflawni dyletswydd y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Wrth ymgysylltu â’r rhai sy’n cwblhau asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, rydym wedi gallu olrhain/mapio taith y cwsmer ac archwilio’n ddwfn, gan nodi a gwneud gwelliannau ac argymhellion pellach i’n prosesau a fydd yn cryfhau ein gweithgareddau sicrwydd. Roedd hyn yn cynnwys cwrs hyfforddi ar asesu’r effaith ar gydraddoldeb yn 2023, a gyflwynwyd i garfan o staff a oedd yn cynnal asesiadau ar gyfer eu cyfarwyddiaethau priodol. Rydym yn bwriadu adeiladu ar yr hyfforddiant hwn gyda chynhyrchion dysgu newydd a chynyddu'r hyn a gynigir yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf.

Mae lansio Offeryn Sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ym mis Tachwedd 2023 wedi galluogi staff i asesu a gwneud eu penderfyniad gwybodus eu hunain ynghylch a oes angen cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar waith y maent yn bwriadu ei wneud. Mae hefyd adnoddau ychwanegol ar y dudalen fewnrwyd ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a thraciwr asesu’r effaith ar gydraddoldeb, ac rydym hefyd wedi sefydlu sianel i’r rhai sy’n cwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ymgysylltu â grwpiau adnoddau gweithwyr – rhwydweithiau staff. Mae cyflwyno'r offeryn sgrinio wedi helpu i symleiddio'r broses hon a lleihau'r angen am gyngor neu drafodaeth i asesu'r angen i gwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar bob achlysur.

Prosesau asesu’r effaith ar gydraddoldeb a adolygwyd yn 2024

Yn 2024, sgriniwyd cyfanswm o 83 o friffiau prosiect neu ddarnau o waith ar gyfer yr angen i gwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb gan ddefnyddio'r offeryn sgrinio. O'r rhai a sgriniwyd, aseswyd bod angen cwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar 28 ohonynt. Mae'r offeryn sgrinio hwn wedi helpu i olrhain gwaith wedi'i gynllunio a phrosiectau sy'n gofyn am asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb.

Adolygwyd cyfanswm o 26 o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn ystod y cyfnod adrodd hwn gan y Tîm Cydraddoldeb, sy’n rhoi cyngor ac arweiniad ar ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’r Gymraeg i’r rhai sy’n cwblhau’r asesiadau.

Yn ogystal â hyn, ac y cyfeirir ato uchod, rydym hefyd yn y broses o ddatblygu modiwl e-ddysgu ar gyfer staff y mae gofyn iddynt gwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a fydd yn cynnwys enghreifftiau o arfer da. Bydd hyn yn atgyfnerthu ac yn ategu'r wybodaeth sydd eisoes ar gael ar dudalen fewnrwyd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â'r cymorth a gynigir gan y Prif Gynghorydd Arbenigol a Chynghorydd y Gymraeg a Chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar ymgysylltu â gwahanol bobl sydd wedi cael profiad bywyd a cheisio eu barn. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal ag i fyfyrio ar y cynnig am gyfleoedd mwy cadarnhaol.

Rydym hefyd wedi ymgysylltu â sefydliadau cyrff cyhoeddus allanol sydd i gyd â thimau asesu’r effaith ar gydraddoldeb penodol, gan edrych ar arfer gorau er mwyn llywio ein dealltwriaeth yn well er mwyn gwella ein prosesau o amgylch y maes gwaith hwn wrth symud ymlaen.

Hyfforddiant

Hyfforddiant gwylwyr gweithredol

Mae dod yn wyliwr gweithredol yn golygu dod yn ymwybodol o achosion pan fo ymddygiad rhywun yn amhriodol neu’n fygythiol a dewis herio, gan roi gwybod i’r cyflawnwr bod ei ymddygiad yn annerbyniol. Rhoddwyd y dasg hefyd i’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant weithio gyda’r cynghorwyr arwain a rheoli ar sut y gellir cyflawni egwyddorion gwylwyr gweithredol, fel bod ein holl arweinwyr a rheolwyr yn meddu ar yr hyder i herio ymddygiad amhriodol ac annerbyniol yn y gweithle. Ym mis Medi 2024, cychwynnodd y broses gaffael ar gyfer darparu hyfforddiant gwylwyr gweithredol trwy sianeli rhithwir ac e-ddysgu. Mae cyflenwr bellach wedi'i benodi i gyflwyno'r dysgu ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddylunio'r hyn a gynigir.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig hyfforddiant sut i ymyrryd am ddim, Hyfforddiant am ddim ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol | LLYW.CYMRU, rhan o’i rhaglen ar gyfer trais yn erbyn menywod a thrais domestig, i sefydliadau, grwpiau cymunedol, lleoliadau addysg a’r gweithle. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i helpu unigolion i ddelio â sefyllfaoedd niweidiol posibl fel aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus. Bydd y cwrs hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr y diwydiant Kindling Transformative Interventions a Plan International UK.

Modiwlau e-ddysgu a hyb gwybodaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Ym mis Gorffennaf 2024, lansiwyd llwyfan e-ddysgu a datblygu newydd i staff yn benodol ar gyfer hyfforddiant iechyd a diogelwch a chadw cofnodion. Mae'r system rheoli e-ddysgu hefyd yn cynnwys dau e-fodiwl gorfodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gellir cwblhau'r modiwlau hyn yn Gymraeg hefyd.

Rydym hefyd wedi datblygu hyb gwybodaeth sy’n cynnig adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’n gwerthoedd a’n cryfderau, gan gefnogi ymddygiad ac arweinyddiaeth gynhwysol.

Hygyrchedd y wefan

Rydym yn parhau i hyrwyddo a gwella hygyrchedd i’n holl wasanaethau drwy wneud y canlynol:

  • adolygu cynnwys fel ei fod yn glir er mwyn i fwy o bobl ei ddeall
  • cyhoeddi'r rhan fwyaf o gynnwys fel tudalennau gwe, gan eu bod yn fwy hygyrch na dogfennau PDF
  • profi gwasanaethau, ffurflenni cais a dogfennau newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd
  • cyhoeddi dogfennau PDF fel eithriad wrth i ni eu derbyn (papurau bwrdd, adroddiadau tystiolaeth) – rydym wedi rhoi proses archwilio hygyrchedd newydd ar waith – gan adrodd ar faterion a’u huwchgyfeirio o fewn y sefydliad, i gael mwy o bobl i gymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb am hygyrchedd
  • parhau i ddatblygu a gwella canllawiau i gydweithwyr fel bod pawb yn y sefydliad yn ystyried hygyrchedd wrth greu cynnwys i bobl
  • parhau i adolygu a diweddaru ein datganiad hygyrchedd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
  • mae risg y caiff dogfennau mwy anhygyrch eu cyhoeddi yn y tymor byr, a byddwn yn gweithio i uwchgyfeirio’r rhain ac adrodd arnynt.

Mae gennym hefyd y Grŵp Defnyddwyr Technoleg â Chymorth, sy'n cefnogi ein cydweithwyr TGCh i brofi meddalwedd a systemau i sicrhau y byddant yn gweithio gyda thechnoleg â chymorth y mae rhai o'n cydweithwyr yn ei defnyddio yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae defnyddio’r dechnoleg hon yn sicrhau y gallant weithio hyd eithaf eu gallu, sydd yn ein helpu i fod yn sefydliad mwy cynhwysol yn ogystal â chydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r grŵp wedi bod yn cefnogi staff TGCh gyda phrofi technoleg â chymorth ar y gliniaduron Surface newydd sydd wedi'u cyflwyno fesul cam ar draws y sefydliad ac wedi amlygu problemau wrth ddefnyddio rhywfaint o'r dechnoleg y maent yn dal i weithio drwyddynt. Mae hyn hefyd wedi amlygu pwysigrwydd sicrhau ein bod yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd fel rhan o brofi cyn caffael meddalwedd a systemau.

Mynediad hamdden cynhwysol

Mae gan lawer o'n safleoedd wybodaeth am barcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas, toiledau hygyrch, llwybrau a ddyluniwyd mewn partneriaeth â chymdeithasau anabl lleol, a byrddau picnic sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Yn ogystal â chynnal y llwybrau presennol, rydym bob amser yn blaengynllunio i greu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer llwybrau hygyrch ar draws ein hystad.

Mae strategaeth hamdden CNC, Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd, yn canolbwyntio ar hamdden awyr agored ar y tir yn ein gofal, lle gallwn wneud gwahaniaeth, ac rydym yn y sefyllfa orau i wneud hynny, trwy alluogi eraill i gyflawni cysylltiad â byd natur a sbarduno canlyniadau cadarnhaol. Bydd yn gweld symudiad o ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer hamdden egnïol i alluogi mwy o fynediad at fyd natur i’r rhai sydd ei angen i ffynnu, a hynny wrth gefnogi’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chyflawni ein hamcanion llesiant. Ein nod yw parhau i gefnogi mynediad i bawb, gan ddileu rhwystrau posibl lle y gallwn, gan gynnwys cyflwyno elfennau synhwyraidd i'n llwybrau a darparu lleoliadau sy'n ystyriol o ddementia dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi bod yn gweithio gyda'r Tîm Rheoli Tir ar y strategaeth a nifer o brosiectau a amlygwyd.

Dyma rai o’r enghreifftiau o waith sydd wedi’i wneud a gwaith sydd wedi’i gynllunio i wella mynediad i’r rhai ag anableddau:-

Llyn Parc Mawr

Dymchwelwyd y sgrin adar yng nghuddfan adar Llyn Parc Mawr a gosodwyd un newydd yn ei lle er mwyn gwella cyfleoedd gwylio i blant a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys darparu man gorffwys / sedd yn edrych dros yr olygfan. Roedd hwn yn argymhelliad mewn adroddiad cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar ein prif safleoedd ymwelwyr. Yn ogystal i’r argymhellion hyn, gosodwyd sgrin wylio ar y safle sy’n edrych dros y llyn ar ddiwedd y llwybr hygyrch a adeiladwyd yn 2019/20. Mae gan hon slotiau gwylio ar uchderau amrywiol a mynediad estynedig i'r pen-glin ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae'r ddwy olygfan hyn yn galluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn a phlant i weld y pwll natur a'i fywyd gwyllt yn gyfleus. Mae'r paneli dehongli sy'n enwi'r adar sy'n defnyddio'r llyn yn dymhorol â thestun mewn Braille.

Llwybrau sgwteri symudedd oddi ar y ffordd Coed y Brenin

Mae’r ddau lwybr Tramper cychwynnol, a threfniadau i logi’r sgwteri, wedi bod yn eu lle ers 2021, gan helpu i wneud mynediad yn haws ar hyd y llwybrau presennol a ffyrdd y goedwig i amrywiaeth o ymwelwyr â phroblemau symudedd. Gall ymwelwyr â Choed y Brenin ddilyn llwybrau ag arwyddbyst ac mae sgwter symudedd oddi ar y ffordd ar gael i’w logi. Bu ymateb da gan ddefnyddwyr a'r nifer o weithiau y mae’r sgwteri Tramper wedi eu llogi.

Gan ystyried adborth gan Symudedd Cefn Gwlad a Cherddwyr Anabl, crëwyd opsiynau byrrach ar y llwybrau hirach ac ychwanegwyd arwyddion rhybuddio o ddringfeydd a disgynfeydd serth a rhai yn hysbysu defnyddwyr nad oes cyfleusterau toiled ar gael ar y llwybrau hirach.

Mae ein llwybrau Tramper yn agored i bawb, yn seiliedig ar gyflwyniad cymhwysedd, waeth beth fo'u hoedran. Fodd bynnag, mae rheolau Symudedd Cefn Gwlad yr ydym yn eu dilyn yn argymell nad yw sgwteri Tramper yn cael eu llogi i unrhyw un o dan 14 oed a hynny oherwydd maint y peiriant. Gall unrhyw un sydd â sgwter symudedd oddi ar y ffordd personol ddefnyddio'r llwybrau beth bynnag fo'u hoedran. Mae’r paneli a thaflenni newydd felly wedi’u hysgrifennu mewn ffordd y gall unrhyw un sydd â’i beiriant ei hun wneud asesiad o’r llwybr gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd a phenderfynu a yw’n addas iddynt ei ddefnyddio.

Mae'r llwybrau Tramper wedi gwella mynediad i'r goedwig ar gyfer y rhai â phroblemau symudedd corfforol trwy ddarparu opsiwn symudedd sy'n caniatáu iddynt gael mynediad i ardaloedd lle mae pellter yn rhwystr.

Rydym hefyd wedi defnyddio Cadwyn Fynediad yr Ymddiriedolaeth Synhwyraidd wrth greu’r wybodaeth am y llwybrau ar wefan CNC, cynhyrchu’r panel gwybodaeth a thaflenni ar y safle, ac archwilio’r cyfleusterau hygyrch yn y ganolfan ymwelwyr a thoiledau Tyn y Groes a nodi lle y gellid gwneud gwelliannau.

Gwaith wedi'i gynllunio yng Nghoedwig Hafren

Mae’r daith gerdded ‘Rhaeadrau’, sydd wedi bod ar y safle ers degawdau, yn adnodd gwerthfawr iawn y dylai CNC fod yn falch ohono. Mae’n galluogi rhai pobl anabl iawn i fynd i mewn i’r goedwig ac ochr yn ochr â rhai o rannau cyntaf afon Hafren. Yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, rydym yn gobeithio ehangu hygyrchedd ymhellach gyda rhai mân waith uwchraddio o amgylch y safle. Rydym hefyd yn edrych i wella'r cyfleusterau toiledau ar y safle, sydd ar hyn o bryd heb brif gyflenwad pŵer na dŵr poeth, a gwella cyfleusterau’r toiledau anabledd ar y safle. Bydd hyn yn helpu i annog mwy o bobl ag anableddau i ymweld â'r safle a mwynhau ein cyfleusterau.

Llwybrau CNC

Mae tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored y tîm Hamdden Ystadau wedi bod yn parhau i weithio gyda Experience Community CIC ar lwybrau CNC dethol i nodi mwy o gyfleoedd ar gyfer mynediad cynhwysol. Mae CNC wedi comisiynu fideos yn dangos defnyddwyr anabl yn trafod arwyneb y llwybr, cambr, graddiant, gatiau a chliciedi yn ogystal â mannau o ddiddordeb. Mae'r fideos yn cynnwys troslais ac isdeitlau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yr ychwanegiad diweddaraf i'r fideos hyn, sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ddefnyddwyr wneud dewis gwybodus am ba lwybrau i ymweld â nhw, yw Coedwig Nercwys yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Bydd ffilm hefyd o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ar lwybr cylchol Crafnant yn dilyn disodli gatiau anhygyrch yn 2023.

Gwelliannau hygyrchedd ar Lwybr Arfordir Cymru

Mae’r tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored wedi bod yn cydweithio â Croeso Cymru a defnyddwyr offer addasol sy’n cerdded ac yn darparu gwybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru.

Mae’r tîm hefyd wedi bod yn gweithio gyda dylanwadwyr a llysgenhadon y llwybr o ystod amrywiol o grwpiau demograffig i’n helpu i hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru i gynulleidfaoedd ehangach, fel Phototrails. Mae Phototrails yn darparu delweddau wedi'u mapio o amodau llwybrau i alluogi defnyddwyr i wneud penderfyniad gwybodus am lwybrau cyn cychwyn. Mae Phototrails wedi cael eu treialu ar rannau hygyrch o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Bangor a Chaernarfon yng Ngwynedd.

Canllawiau

Canllawiau mynediad cynhwysol

Mae canllawiau mynediad cynhwysol CNC o’r enw Trwy Bob Dull Rhesymol (2018, 2022) wedi’u hadolygu fel arfer da gan yr Ymddiriedolaeth Synhwyraidd a Llwybrau i Bawb. Defnyddiwyd y canllawiau hyn i gyd-fynd â Chanllawiau Hygyrchedd Awyr Agored y DU gyfan:Cefnogi Mynediad Cynhwysol yn yr Awyr Agored yn y DU, a lansiwyd ym mis Ebrill 2023 i ddisodli’r canllaw Cefn Gwlad i Bawb.

Canllawiau brand a graffigau Digwyddiadau Cymdeithasol

Yn ogystal â'r llawlyfr brand newydd sbon a lansiwyd y llynedd, mae'r Prif Gynghorydd Arbenigol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gweithio gyda'r Rheolwr Brand a Chyfathrebu Integredig i wneud gwelliannau o ran cynrychiolaeth ein graffigau Digwyddiadau Cymdeithasol. Bydd hyn yn cryfhau ein hunaniaeth brand a bydd ganddo apêl ehangach.

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru

Fel corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn cefnogi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022.

Mae’r cynllun hwn yn rhoi pwyslais cryf ar arweinyddiaeth mewn cyrff cyhoeddus sy’n wrth-hiliol, yn ogystal â sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel ac yn gynhwysol i bobl o leiafrifoedd ethnig. Ers ei lansio, mae wedi bod yn ofynnol i arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ein cadeirydd ac aelodau’r bwrdd, fod wedi cytuno ar amcan perfformiad amrywiaeth a chynhwysiant sy’n ymwneud â gwrth-hiliaeth erbyn 2023.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn y broses o ddatblygu cynllun mwy cynhwysfawr i gynnwys gwaith ar newid hinsawdd, materion gwledig a'r amgylchedd. Mae Cynghorydd Arbenigol Arweiniol CNC ar Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y darn hwn o waith.

Aelodaethau

Fel sefydliad, rydym wedi bod yn aelod cyswllt o gynllun Cyflogwyr dros Ofalwyr y DU, sy’n anelu at gefnogi cyflogwyr i gefnogi gweithwyr â chyfrifoldebau gofalu a chreu gweithleoedd sy’n gyfeillgar i ofalwyr ers 2020. Rydym hefyd wedi bod yn aelodau o Niwroamrywiaeth yn y Busnes ers 2023 a Stonewall Cymru. Cyflwynodd Stonewall Cymru sesiwn ar-lein i'r sefydliad ar waith Stonewall yng Nghymru, pwysigrwydd gweithleoedd cynhwysol (gan gynnwys deddfwriaeth) a phrofiadau LHDTC+, a rhoddodd drosolwg o hyrwyddwyr amrywiaeth.

Ystadegau ceisiadau recriwtio

Rhwng mis Ionawr 2024 a mis Rhagfyr 2024, cawsom 218 o geisiadau gan ymgeiswyr allanol, a 103 o geisiadau gan ymgeiswyr mewnol. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym hefyd wedi rhewi recriwtio, sydd wedi effeithio ar ein gallu i gymharu ystadegau'n realistig o'r cyfnod adrodd diwethaf, pan gawsom gyfanswm o 4,118 o geisiadau.

Fel rhan o'n hymrwymiad i amcanion strategol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, ein nod fydd denu ceisiadau ar draws ein cymunedau i adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru orau. Ceir dadansoddiad o'n hystadegau recriwtio allanol ar gyfer y cyfnod uchod yn Atodiad 3 yr adroddiad hwn. Mae’r ystadegau’n seiliedig ar gwestiynau a ofynnir ar ein ffurflen gais allanol o’r enw ‘Ffurflen Monitro Cydraddoldeb: Recriwtio’.

Dengys yr ystadegau, o blith y rhai a hunanddatganodd, mai’r ganran uchaf o geisiadau yw fel a ganlyn:

  • 33% rhwng 25 a 34 oed
  • roedd 37% yn fenywod
  • dywedodd 61% eu bod o ethnigrwydd gwyn neu gymysg gwyn
  • dywedodd 30% fod ganddynt anabledd i gymhwyso ar gyfer ein cynllun gwarantu cyfweliad Hyderus o ran Anabledd

Derbyniwyd y ganran leiaf o geisiadau gan y canlynol:

  • 7% o bobl LHDTC+
  • 5% o grwpiau ethnig leiafrifol

O'r ystadegau a gasglwyd, mae'n ymddangos bod gostyngiad o 2% yn y ceisiadau gan grwpiau ethnig leiafrifol.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Llwyddwyd i gael ailachrediad Lefel 2 ar gyfer cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ym mis Ebrill 2024 tan fis Mawrth 2027.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi derbyn 14 o geisiadau am gyfweliadau o dan broses gwarantu cyfweliad y cynllun hwn. O'r 14 cais, roedd saith cais gan gydweithwyr mewnol a saith gan ymgeiswyr allanol, a gwahoddwyd tri ymgeisydd i gyfweliad. Nid oedd chwech yn bodloni'r gofynion meini prawf sylfaenol ar gyfer y rolau dan sylw a gwrthodwyd cyfweliad iddynt y tro hwn. Tynnwyd pedair rôl yn ôl o’r broses recriwtio oherwydd ein bod wedi rhewi recriwtio ac roedd angen nawdd fisa ar un na allem ei gynnig gan nad oedd yr ymgeisydd yn bodloni gofynion fisa’r DU a mewnfudo.

Cyfraddau cwblhau hunanddatgelu fesul cyfarwyddiaeth (Rhagfyr 2024)

Gofynnwn ac anogwn gydweithwyr i hunanddatgelu cymaint neu gyn lleied o fanylion personol ag y maent yn teimlo’n gyfforddus i’w datgan yn ôl eu disgresiwn eu hunain, megis ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ffydd, cred neu ddim cred, a chyfrifoldebau gofalu, yn gyfrinachol yn ein system adnoddau dynol a chyllid ganolog. Mae hyn yn ein helpu i ddeall cyfansoddiad ein gweithlu, ac i sicrhau bod gennym y polisïau a gweithdrefnau cywir ar waith i gefnogi ein cydweithwyr, ac mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am i ba raddau yr ydym, fel sefydliad, yn adlewyrchu’r boblogaeth a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru.

Cyfarwyddiaeth Nifer y datgeliadau a gwblhawyd Nifer y datgeliadau nas cwblhawyd Cyfanswm Canran y datgeliadau a gwblhawyd Canran y datgeliadau nas cwblhawyd
Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol 129 60 189 68% 32%
Strategaeth a Datblygu Corfforaethol 54 13 67 81% 19%
Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu 493 133 626 79% 21%
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol 125 63 188 66% 34%
Gweithrediadau 900 321 1,221 74% 26%
Cyfanswm 1,701 590 2,291 74% 26%

Mae’r ffigurau presennol yn dangos bod 74% o’n cydweithwyr wedi hunanddatgelu rhywfaint neu’r holl wybodaeth yn wirfoddol, sef cynnydd o 5% ers y llynedd, gyda 26% o gydweithwyr nad ydynt wedi hunanddatgelu neu sydd wedi penderfynu defnyddio’r opsiwn “mae’n well ganddynt beidio â dweud”. Er bod nifer y staff wedi gostwng 201 ers y llynedd, mae ein data yn dangos cynnydd yng nghanran gyffredinol y staff sydd wedi hunanddatgelu gwybodaeth dros y flwyddyn adrodd hon.

Yn ôl ffigurau, dechreuodd 18 o gydweithwyr newydd gyda ni a gadawodd 201 y sefydliad rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2024.

Mae dadansoddiad o’r cyfraddau hunanddatgelu yn dangos:

  • 30.2% (693) – mae’r ganran a nifer uchaf o’n staff rhwng 45 a 55 oed
  • 1% (22) – mae’r ganran a nifer isaf o'n staff o dan 25 oed
  • Mae 22.3% (510) o’n staff rhwng 55 a 65 oed
  • Mae 3.9% (89) wedi datgan bod ganddynt anabledd
  • Mae 3.0% (70) wedi hunanddatgelu eu bod yn LHDTC+
  • Mae 65% (1,490) wedi datgan eu bod yn wyn
  • Mae 1.48% (37) wedi datgan eu bod o gefndir ethnig leiafrifol du
  • Mae 19.6% (489) wedi datgan eu crefydd, ffydd neu gred gyda 30.9% (707) yn datgan nad oes ganddynt unrhyw ffydd neu gred
  • Mae 70% (1,602) wedi datgan eu hil
  • Mae 48.4% (1,109) wedi datgan eu bod yn briod a 0.5% (12) eu bod mewn partneriaeth sifil
  • Dywedodd 26.3% (602) fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu

Nid yw’r data a gawn ar gydweithwyr amser llawn a rhan amser yn cynrychioli’r ystod lawn o opsiynau gweithio hyblyg sydd gennym yn CNC.

Sgiliau siarad Cymraeg

Er bod ein cyfrif pennau wedi gostwng 201, gan arwain at golli 47 o gydweithwyr â sgiliau siarad Cymraeg rhugl, mae canran y siaradwyr Cymraeg rhugl wedi cynyddu 0.1% i 23.6% (541) y flwyddyn adrodd hon.

Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad 4 ar ystadegau hunanddatgelu ein cydweithwyr. Mae datgelu yn cynnwys opsiwn ‘gwell gennyf beidio â dweud’.

Y bwlch cyflog rhywedd ar 31/3/24

Mesur 2020 2021 2022 2023 2024
Cymedr 2.5% 2.0% 2.3% 2.0% 1.6%
Canolrif 3.1% 3.1% 6.4% 3.1% 3.1%

Mae’r diagramau isod yn dangos y rhaniad gwrywaidd/benywaidd ym mhob chwartel fel a ganlyn:

2021

Chwarteli Gwrywod Menywod
Chwartel isaf 53% 47%
Chwartel canol isaf 54% 46%
Chwartel canol uchaf 51% 49%
Chwartel uchaf 62% 38%
Cyfanswm y gweithlu 55% 45%

2022

Chwarteli Gwrywod Menywod
Chwartel isaf 53% 47%
Chwartel canol isaf 52% 48%
Chwartel canol uchaf 53% 47%
Chwartel uchaf 62% 38%
Cyfanswm y gweithlu 55% 45%

2023

Chwarteli Gwrywod Menywod
Chwartel isaf 52% 48%
Chwartel canol isaf 50% 50%
Chwartel canol uchaf 50% 50%
Chwartel uchaf 60% 40%
Cyfanswm y gweithlu 53% 47%

2024

Chwarteli Gwrywod Menywod
Chwartel isaf 52% 48%
Chwartel canol isaf 52% 48%
Chwartel canol uchaf 50% 50%
Chwartel uchaf 60% 40%
Cyfanswm y gweithlu 54% 46%

Dadansoddiad o'r bwlch cyflog rhywedd

Mae’r bwlch cyflog rhywedd yn mesur y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (canolrifol) fesul awr dynion a menywod, ac mae fel arfer yn cael ei ddangos gan y ganran mae dynion yn ennill mwy na menywod.

Mae ein gwybodaeth am y bwlch cyflog rhywedd yn cael ei chasglu ar 31 Mawrth bob blwyddyn a’i hadrodd ar y gwasanaeth bwlch cyflog rhywedd ar .Gov i gydymffurfio â methodoleg Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhywedd) 2017.

O’r ffigurau a gasglwyd ym mis Mawrth 2024, mae dadansoddiad o 2,437 o gydweithwyr yn dangos bod y bwlch cyflog rhywedd cymedrig wedi gostwng 0.4% eleni i 1.6%. Mae hyn yn golygu bod merched yn ennill 98c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.

Mae ein bwlch cyflog rhywedd canolrifol wedi aros yr un fath â'r flwyddyn flaenorol, sef 3.1%. Mae hyn yn dangos bod merched yn ennill 96.9c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.

Nid yw’r bwlch hwn yn golygu bod dynion yn cael mwy o dâl na merched am gyflawni’r un math o rôl, ond mae’r dadansoddiad yn dangos bod gweithwyr benywaidd sy’n gweithio’n rhan-amser yn cael y cyflog fesul awr isaf ar gyfartaledd.

Er bod y bwlch cyflog canolrifol yn dangos gwahaniaeth o (96.9c i bob £1), mae’r cyfartaledd yn dangos, “ar y cyfan”, nad yw’r cyflogau fesul awr yn rhy bell oddi wrth ei gilydd (98c i bob £1). Mae sawl ffactor sy’n effeithio ar y bwlch cyflog – er enghraifft:

  • Mae 54% o'n gweithlu yn ddynion
  • Mae 46% o'n gweithlu yn fenywod
  • Mae 93% o'n gweithlu gwrywaidd yn gweithio amser llawn gyda 7% yn gweithio'n rhan amser
  • Mae 77% o'n gweithlu benywaidd yn gweithio amser llawn gyda 23% yn gweithio'n rhan amser
  • Mae 60% o'n cyflogau fesul awr chwartel uchaf yn ddynion
  • Mae'r chwartel uchaf wedi'i sgiwio 60%/40% i weithwyr gwrywaidd(er bod tîm arwain CNC yn cynnwys gweithwyr benywaidd yn bennaf)
  • Mae mwy o wrywod na benywod yn ein holl chwartelau heblaw am y chwartel canol uchaf

Mae canran y gwrywod a benywod sy'n gweithio yn y sefydliad wedi newid yn ystod y flwyddyn adrodd hon gyda chynnydd o 2% o wrywod a gostyngiad o 2% o fenywod. Mae'r newid hwn o fewn ein chwartel canol isaf. Arhosodd holl ganrannau chwarteli eraill yr un fath â'r flwyddyn adrodd flaenorol.

Gyda’n polisïau dulliau gweithio, a’r opsiwn i rai o’n cydweithwyr ymddeol yn rhannol, gallai hyn ymhen amser helpu i leihau’r bwlch ymhellach drwy ddarparu mwy o gyfleoedd i’n cydweithwyr weithio o gwmpas cyfrifoldebau os dymunant.

Y bwlch cyflog yn y DU ar gyfer Ebrill 2024, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 29 Hydref 2024 ar gyfer gweithwyr amser llawn, yw 7%, sef gostyngiad o 0.5% o 2023. Mae’r bwlch cyflog rhywedd ar gyfer yr holl weithwyr wedi gostwng i 13.1% ym mis Ebrill 2024, i lawr 1.1%.

Cwynion a chanmoliaeth

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod 2024.

Ni dderbyniwyd unrhyw ganmoliaeth mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod 2024.

Atodiad 1: Cynnydd o ran gweithredu amcanion cydraddoldeb strategol 2024-2028 yn ystod y flwyddyn adrodd

Amcan cydraddoldeb strategol 1: Cynyddu a gwella amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu a dileu bylchau cyflog

Camau a gymerwyd i roi’r amcan ar waith yn 2024:

  • Cynnydd mewn hunanddatgelu gwirfoddol – ffurflen monitro data cydraddoldeb.
  • Ymwybyddiaeth barhaus trwy sesiynau sefydlu a gloywi i staff. Lansiwyd llwyfan dysgu a datblygu e-fodiwl newydd, sy'n cynnwys datblygu modiwl e-ddysgu a rhithwir ar gyfer hyfforddiant gwylwyr gweithredol.
  • Adroddiad blynyddol ar y bwlch cyflog rhywedd.

Amcan cydraddoldeb strategol 2: Ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid

Camau a gymerwyd i roi’r amcan ar waith yn 2024:

  • Mae timau Pobl a Lleoedd yn gweithio ledled Cymru gyda chymunedau lleol.

Amcan cydraddoldeb strategol 3: Ymgorffori cydraddoldeb yn y broses gaffael a chomisiynu

Camau a gymerwyd i roi’r amcan ar waith yn 2024:

  • Mae caffael yn dilyn gofynion tryloywder Llywodraeth Cymru drwy hysbysebu pob cyfle contract yn agored. Mae’r templed Gwahoddiad Agored i Dendro wedi’i ddiweddaru i gynnwys cwestiynau ynghylchcyfle cyfartal ac arferion cyflogaeth.

Amcan cydraddoldeb strategol 4: Darparu gwasanaethau cynhwysol

Camau a gymerwyd i roi’r amcan ar waith yn 2024:

  • Tudalennau gwefan yn hyrwyddo ein llwybrau hamdden a chyfleusterau hygyrch ledled Cymru.
  • Mae'r Tîm Lles, Iechyd a Diogelwch yn cefnogi pob gweithiwr i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid.

Atodiad 2: Grwpiau adnoddau gweithwyr – gwybodaeth am rwydweithiau staff

Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir

Mae'r Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir wedi cyfarfod bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi darparu'r cymorth canlynol:-

  • Mae'r Grŵp Defnyddwyr â Chymorth wedi bod yn ceisio cael technoleg gynorthwyol i weithio ar y gliniaduron Surface newydd.
  • Mae defnyddwyr a gynorthwyir bellach yn treialu gliniadur Surface â chof mwy.
  • Wedi cefnogi sefydlu contract newydd ar gyfer hyfforddiant a chymorth technoleg gynorthwyol i fynd yn fyw ar 2 Rhagfyr.
  • Mae'r Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir hefyd yn parhau i gael ei gynrychioli yn ein cyfarfodydd parhaus yn y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rhagolwg i 2025 – parhau â’r gwaith i sicrhau bod y dechnoleg gynorthwyol yn gweithio ar y gliniaduron Surface newydd a pharhau i gefnogi'r defnyddwyr a gynorthwyir yn y sefydliad.

Calon – Rhwydwaith LHDTC+

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyd-arweinwyr newydd Calon – Rhwydwaith Staff LHDTC+ wedi bod yn ymwneud â chefnogi ymgysylltu a gweithgareddau fel a ganlyn:

  • Mae cyd-arweinwyr y rhwydwaith hefyd wedi cyfarfod nifer o weithiau dros y chwe mis diwethaf i drafod a threfnu digwyddiadau. Roedd hyn yn cynnwys estyn allan i rwydweithiau staff LHDTC+ eraill ar draws y Gwasanaeth Sifil ac roeddent yn gallu ymuno â sesiwn cinio a dysgu a drefnwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
  • Mae cyd-arweinwyr newydd Calon wedi cyfarfod â’i aelodau bum gwaith ers haf 2024. Roedd hyn hefyd yn cynnwys cynnal cyfarfod personol ar gyfer aelodau a chynghreiriaid, yn ogystal â deall yr hyn y mae aelodau am ei weld gan y rhwydwaith.
  • Ysgrifennodd y rhwydwaith bostiad blog ar gyfer y fewnrwyd ym mis Mehefin ar gyfer Mis Pride.
  • Mae gan y rhwydwaith weithrediaeth / arweinydd tîm i weithredu fel noddwr.
  • Cynhaliodd y rhwydwaith gwis Hwyl yr Ŵyl ym mis Rhagfyr 2024. Roedd hwn yn ddigwyddiad hybrid gyda chydweithwyr yn ymuno’n rhithwir o leoliad swyddfa.
  • Cynhaliodd y rhwydwaith ei ‘Glwb Llyfrau’ ar-lein cyntaf ym mis Ionawr 2025.

Y Gymdeithas Gristnogol

Mae'r Rhwydwaith Cristnogol wedi parhau i rhoi cymorth ar ffurf gweddi i aelodau'r Gymdeithas Gristnogol
ac astudiaethau Beiblaidd wedi'u hanelu at fyw gan ddilyn egwyddorion disgyblaeth a chymrodoriaeth
Gristnogol.

  • Mae'r Rhwydwaith Cristnogol yn cyfarfod bob dydd Llun am 30 munud o weddi ac addoliad ar-lein, yna cyfarfodydd misol amser cinio dydd Mercher ar-lein. Mae’r rhwydwaith hefyd yn cynnal cyfarfodydd ar-lein amser cinio dydd Iau bob mis ar y cyd â Chymdeithas Gristnogol Llywodraeth Cymru.
  • Mae gan y rhwydwaith weithrediaeth / arweinydd tîm i weithredu fel noddwr.
  • Mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo ac yn croesawu aelodau newydd i'r rhwydwaith trwy’r grŵp Viva Engage.
  • Mae'r rhwydwaith hefyd yn hyrwyddo ac yn nodi digwyddiadau mawr yn y calendr Cristnogol megis y Pasg a'r Nadolig.

Yn 2025, mae'r Rhwydwaith Cristnogol yn bwriadu trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb mewn gwahanol ranbarthau.

Rhwydwaith Gofalwyr Cwtsh

Mae gan grŵp Cwtsh Calon – Rhwydwaith Gofalwyr (Cwtsh) dros 100 o aelodau ar ein tudalen Viva Engage
a grŵp cyfarfod ar-lein. Mae'r Rhwydwaith Gofalwyr yn cael ei hyrwyddo gan gyfarwyddwr gweithredol.

  • Mae grŵp Cwtsh wedi hyrwyddo gweithgareddau fel Diwrnod Hawliau Gofalwyr ac Wythnos Gofalwyr 2024.
  • Wedi cefnogi Adnoddau Dynol gyda pholisïau absenoldeb gofalwyr a’r newidiadau newydd sy’n dod yn gyfraith yn 2024 a pholisi newydd CNC, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2024. Gweithiodd y rhwydwaith ar y cyd â’r Tîm Adnoddau Dynol i gyd-gynnal sesiynau galw heibio i egluro’r polisi absenoldeb gofalwyr newydd yn CNC.
  • Mae gan y rhwydwaith weithrediaeth / arweinydd tîm i weithredu fel noddwr.
  • Mae sesiynau ‘Paned Gofalwyr’ yn cael eu cynnal yn fisol.
  • Mae cyd-arweinwyr Cwtsh yn parhau i gefnogi cydweithwyr ar sail un-i-un sy’n ceisio cymorth yn eu rôl fel gofalwr a gweithiwr.

Rhwydwaith Staff Cyfeillion Dementia

Mae cyd-arweinwyr Cyfeillion Dementia a rhwydwaith Cwtsh yn parhau i gyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth rhithwir Cyfeillion Dementia ac maent wedi cefnogi fel a ganlyn:

  • Mae ein gwaith i ddeall dementia yn parhau i gael ei gynrychioli yn ein cyfarfodydd parhaus yn y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'n Rhwydwaith Gofalwyr.
  • Mae’r Rhwydwaith Cyfeillion Dementia yn parhau i fod â phresenoldeb ar Viva Engage ac yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau ac yn cael trafodaethau anffurfiol gyda chydweithwyr yn ôl yr angen. Maent hefyd yn darparu lefel bersonol o gymorth i unrhyw gydweithwyr a allai fod ei angen ac yn cysylltu â Gofalwyr Cymru ac yn rhannu eu cyngor a’u cymorth.
  • Mae'r rhwydwaith hefyd yn hyrwyddo unrhyw gyfleoedd codi arian ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth megis Wythnos Gweithredu ar Ddementia a Diwrnod Coblynnod.

Yn 2024, fe wnaethom gynnal digwyddiadau ar-lein fel Sesiwn Gwybodaeth Ar-lein Versus Arthritis, a oedd yn canolbwyntio ar weithgarwch, rheoli poen a hyrwyddo annibyniaeth wrth fyw gyda diagnosis o ddementia ac arthritis.

Yn ogystal, mae’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant yn mynychu Grŵp Dementia Golau Glas Cymru Gyfan, sydd bellach wedi esblygu i fod yn rhwydwaith rhannu gwybodaeth ar-lein.

Rhwydwaith Mwslimiaid

Lansiwyd y Rhwydwaith Staff Mwslimaidd ar gyfer unrhyw un yn y sefydliad sy'n Fwslimaidd neu a hoffai ddarganfod mwy am y ffydd Islamaidd, cwrdd â phobl newydd, a dangos cefnogaeth fel cynghreiriad.

Mae'r Rhwydwaith Staff Mwslimaidd yn bwysig yn y gweithle, gan fod ei bresenoldeb yn codi ymwybyddiaeth a chyfleoedd i gydweithwyr ddysgu a chael gwell dealltwriaeth o Islam, yn hytrach na chael eu dylanwadu gan amlygiad Islamoffobaidd negyddol yn y cyfryngau.

Nid yw'r Rhwydwaith Mwslimiaid wedi cynnal unrhyw gyfarfodydd oherwydd diffyg cynrychiolaeth o fewn y sefydliad. Mae arweinydd y Rhwydwaith Mwslimiaid wedi cyflawni’r canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o fis Ramadhan a Hajj a Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia a Mis Hanes Pobl Dduon ar Viva Engage.
  • Rhannu gwybodaeth am “gred ac adnoddau naturiol yn Islam” i staff unigol ar gais.
  • Hyrwyddo digwyddiad cenedlaethol “Visit My Mosque” ar gyfer staff CNC.
  • Codi ymwybyddiaeth o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru Llywodraeth Cymru a diffyg cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y gweithlu ar bob lefel o'r sefydliad. Er enghraifft, mae poblogaeth ethnig Caerdydd yn 22% ac nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gweithlu, nac yn swyddfa Caerdydd. Mae cynrychiolaeth ethnig leiafrifol, ar sail y rhai sydd wedi datgan ar hyn o bryd, tua 1.48% (2025).

Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth

Mae gan y Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth dros 160 o aelodau ar ein tudalen Viva Engage. Mae cyd-
arweinwyr y Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth wedi bod yn brysur gyda’r canlynol:

  • Yn cynnal sesiynau galw heibio amser cinio wythnosol i aelodau'r rhwydwaith gofrestru a chodi unrhyw faterion sydd ganddynt
  • Yn codi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth
  • Yn codi ymwybyddiaeth yn ystod wythnosau ymwybyddiaeth dyslecsia, awtistiaeth ac ADHD
  • Mae gan y rhwydwaith weithrediaeth / arweinydd tîm i weithredu fel noddwr, yn ogystal â bwrdd
  • Rhoesom adborth ar hyfforddiant, recriwtio a phasbortau lles

Rhwydwaith y Merched

Sefydlwyd Rhwydwaith y Merched yn 2024. Mae'r rhwydwaith yn postio'n rheolaidd ar dudalen Viva
Engage er mwyn dathlu menywod yn ogystal â negeseuon sy'n hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd a
phostiadau am bethau sy'n ymwneud â menywod ac sy'n effeithio arnynt.

  • Rhannu gwybodaeth am raglenni Springboard a gynigir gan Academi Wales. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer menywod sy'n dymuno symud i faes rheoli.
  • Bu’r rhwydwaith yn cysylltu â’n Cynghorydd Lles, Iechyd a Diogelwch a helpu i gydlynu siaradwr ar gyfer Diwrnod Menopos y Byd ym mis Hydref, a fynychwyd gan tua 60 o bobl. Mae gan y rhwydwaith weithrediaeth / arweinydd tîm i weithredu fel noddwr.
  • Mae gan y rhwydwaith weithrediaeth / arweinydd tîm i weithredu fel noddwr.
  • Rydym yn gweithio ar Weminar Dydd Mercher ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2025 o gwmpas 8 Mawrth. Y thema ar gyfer 2025 yw Cyflymu Gweithredu ar gyfer cydraddoldeb rhywiol.
  • Mae un o arweinwyr y rhwydwaith mewn cysylltiad â chynrychiolydd o’r elusen Ethiopiaid ac yn gobeithio y bydd yn siarad am y gwaith y maent yn ei wneud gyda menywod a merched yn Ethiopia.

Yn ogystal, cynhaliodd y sefydliad Weminar Dydd Mercher gan Cymorth i Fenywod,
yn coffáu 20 mlynedd o linell gymorth Cymorth i Fenywod, yn ogystal â sesiwn ymwybyddiaeth i nodi’r 16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd – a ddechreuodd ar 25 Tachwedd gyda
diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod.

Atodiad 3: Ystadegau recriwtio allanol ar gyfer Ionawr – Rhagfyr 2024

Beth yw eich grŵp oedran

Grŵp oedran Cyfanswm
16 – 24 13
25-34 72
35-44 32
45-54 14
55-64 13
65+ 0
Gwell gennyf beidio â dweud 0
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

Beth yw eich rhywedd

Rhywedd Cyfanswm
Benyw 80
Gwryw 63
Gwell gennyf beidio â dweud 1
Anneuaidd 0
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

A yw eich hunaniaeth rhywedd yn cyfateb i'r rhyw y cawsoch eich neilltuo iddo adeg eich geni

Hunaniaeth rhywedd Cyfanswm
Ydy 141
Gwell gennyf beidio â dweud 3
Nac ydy 0
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

Ydych chi'n briod ar hyn o bryd neu mewn partneriaeth sifil

Priod neu bartneriaeth sifil Cyfanswm
Nac ydy 91
Ydy 43
Gwell gennyf beidio â dweud 8
Gweddw 1
Partneriaeth sifil gofrestredig 1
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol

Cyfeiriadedd rhywiol Cyfanswm
Heterorywiol / syth 124
Deurywiol 9
Gwell gennyf beidio â dweud 5
Hoyw neu lesbiaidd 5
Arall 1
Gwell gennych ddefnyddio eich term eich hun 0
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

Pa gyfrifoldebau gofalu sydd gennych chi

Cyfrifoldeb gofalu Cyfanswm
Nac ydy 121
Ydy 23
Gwell gennyf beidio â dweud 0
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

Ydych chi'n ystyried bod gennych anabledd

Anabledd Cyfanswm
Nac ydy 67
Ydy 7
Gwell gennyf beidio â dweud 0
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

Beth yw eich crefydd neu gred

Crefydd neu gred Cyfanswm
Heb ffydd na chred 87
Bod â ffydd neu gred 45
Gwell gennyf beidio â dweud 11
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 75

 

Beth yw eich ethnigrwydd

Ethnigrwydd Cyfanswm
Gwyn (Seisnig, Cymreig, Albanaidd, Gwyddel neu Wyddeles o Ogledd Iwerddon, Prydeinig, Gwyddelig, Sipsiwn neu Deithiwr, unrhyw gefndir Gwyn arall) 133
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig
(Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall)
6
Grwpiau ethnig cymysg/lluosog
(Gwyn a Du Caribïaidd, Gwyn a Du Affricanaidd, Gwyn ac Asiaidd, unrhyw gefndir ethnig cymysg/lluosog arall)
0
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig
(Affricanaidd, Caribïaidd, Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall)
3
Grŵp ethnig arall
(Arabaidd neu unrhyw grŵp ethnig arall)
1
Gwell gennyf beidio â dweud 1
Dewis peidio ag ateb y cwestiwn 74

 

Atodiad 4: Ystadegau hunanddatgelu cydweithwyr CNC (Rhagfyr 2024)

Dadansoddiad oedran

Ionawr 2023

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 41 1.7%
25 i 35 461 19.6%
35 i 45 688 29.0%
45 i 55 688 29.0%
55 i 65 453 19.1%
65 a throsodd 38 1.6%
Cyfanswm 2369 100%

 

Ionawr 2024

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 44 1.9%
25 i 35 492 20.8%
35 i 45 700 29.5%
45 i 55 712 30.1%
55 i 65 496 20.9%
65 a throsodd 48 2.0%
Cyfanswm 2492 100%

 

Rhagfyr 2024

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 22 1%
25 i 35 381 16.6%
35 i 45 637 27.8%
45 i 55 693 30.2%
55 i 65 510 22.3%
65 a throsodd 48 2.1%
Cyfanswm 2,291 100%

 

Proffil oedran – amser llawn a rhan-amser

Ionawr 2023

Rhan-amser

Oedran rhan-amser Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 # 0.1%
25 i 35 39 1.6%
35 i 45 115 4.9%
45 i 55 98 4.1%
55 i 65 85 3.6%
65 a throsodd 14 0.6%
Cyfanswm 353 14.9%

 

Amser llawn

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 39 1.6%
25 i 35 422 17.8%
35 i 45 573 24.2%
45 i 55 590 24.9%
55 i 65 368 15.5%
65 a throsodd 24 1.0%
Cyfanswm 2016 85.1%

Cyfanswm cyffredinol: 2369

 

Ionawr 2024

Rhan-amser

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 # 0.1%
25 i 35 35 1.5%
35 i 45 115 4.9%
45 i 55 97 4.1%
55 i 65 92 3.9%
65 a throsodd 21 0.9%
Cyfanswm 363 14.6%

 

amser llawn

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 41 1.7%
25 i 35 457 19.3%
35 i 45 585 24.7%
45 i 55 615 26.0%
55 i 65 404 17.1%
65 a throsodd 27 1.1%
Cyfanswm 2129 85.4%

Cyfanswm cyffredinol: 2492

 

Rhagfyr 2024

Rhan-amser

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 2 0.1%
25 i 35 32 1.4%
35 i 45 107 4.7%
45 i 55 106 4.6%
55 i 65 94 4.1%
65 a throsodd 25 1.1%
Cyfanswm 366 16%

 

amser llawn

Oedran Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Dan 25 20 0.9%
25 i 35 349 15.2%
35 i 45 530 23.1%
45 i 55 587 25.6%
55 i 65 416 18.2%
65 a throsodd 23 1%
Cyfanswm 1,925 84%

Cyfanswm cyffredinol: 2,291

 

Trefniadau gwaith

Ionawr 2023

Trefniadau gweithio Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Amser llawn 2016 85.1%
Rhan-amser 353 14.9%
Cyfanswm 2369 100%

 

O'r rhai a ddatgelodd drefniant gwaith

Trefniadau gweithio Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Amser llawn – gwryw 1178 49.7%
Amser llawn – benyw 838 35.4%
Rhan-amser – gwryw 82 3.5%
Rhan-amser – benyw 271 11.4%
Cyfanswm 2369 100%

 

Ionawr 2024

Trefniadau gweithio Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Amser llawn 2129 85.4%
Rhan-amser 363 14.6%
Cyfanswm 2492 100%

 

O'r rhai a ddatgelodd drefniant gwaith

Trefniadau gweithio Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Amser llawn – gwryw 1230 49.4%
Amser llawn – benyw 899 36.1%
Rhan-amser – gwryw 95 3.8%
Rhan-amser – benyw 268 10.7%
Cyfanswm 2492 100%

 

Dadansoddiad anabledd

Ionawr 2023

Statws anabledd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Nac oes 1,431 60.4%
Oes 85 3.6%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 853 36.0%
Cyfanswm 2,369 100%

 

Ionawr 2024

Statws anabledd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Nac oes 1,505 60.4%
Oes 83 3.3%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 904 36.3%
Cyfanswm 2,492 100%

 

Rhagfyr 2024

Statws anabledd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Nac oes 1,437 62.7%
Oes 89 3.9%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 765 33.4%
Cyfanswm 2,291 100%

 

Dadansoddiad rhywedd

Ionawr 2023

Rhywedd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Gwryw 1260 53.2%
Benyw 1109 46.8%
Mae'n well gen i beidio a dweud/heb ateb 0 0
Cyfanswm 2369 100%

 

Ionawr 2024

Rhywedd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Gwryw 1325 53.2%
Benyw 1167 46.8%
Mae'n well gen i beidio a dweud/heb ateb 0 0
Cyfanswm 2492 100%

 

Rhagfyr 2024

Rhywedd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Gwryw 1,230 53.7%
Benyw 1,061 46.3%
Mae'n well gen i beidio a dweud/heb ateb 0 0
Cyfanswm 2,291 100%

 

Dadansoddiad cyfeiriadedd rhywiol

Ionawr 2023

Cyfeiriadedd rhywiol Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Heterorywiol / syth 1312 55.4%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 989 41.7%
Menyw hoyw/lesbiad 15 0.6%
Dyn hoyw 18 0.8%
Deurywiol 22 0.9%
Arall 15 0.6%
Cyfanswm 2369 100%
% y gweithlu sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+ 70 3%

 

Ionawr 2024

Cyfeiriadedd rhywiol Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Heterorywiol / syth 1369 54.9%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 1046 42%
Menyw hoyw/lesbiad 15 0.6%
Dyn hoyw 17 0.68%
Deurywiol 28 1.1%
Arall 17 0.7%
Cyfanswm 2492 100%
% y gweithlu sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+ 77 3.1%

 

Rhagfyr 2024

Cyfeiriadedd rhywiol Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Heterorywiol / syth 1,318 57.5%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 903 39.4%
Menyw hoyw/lesbiad 14 0.61%
Dyn hoyw 16 0.7%
Deurywiol 24 1%
Arall 16 0.7%
Cyfanswm 2,291 100%
% y gweithlu sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+ 70 3.1%

 

Statws priodasol

Ionawr 2023

Priod neu bartneriaeth sifil Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Priod 1,111 46.9%
Sengl 942 39.8%
Cyd-fyw 171 7.2%
Wedi ysgaru 90 3.8%
Wedi gwahanu 11 0.5%
Partneriaeth sifil 9 0.4%
Gweddw 8 0.3%
Anhysbys 27 1.1%
Cyfanswm 2,369 100%
% y gweithlu sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil 1,120 47.3%

 

Ionawr 2024

Priod neu bartneriaeth sifil Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Priod 1,166 46.8%
Sengl 988 39.6%
Cyd-fyw 188 7.5%
Wedi ysgaru 90 3.6%
Wedi gwahanu 12 0.5%
Partneriaeth sifil 13 0.5%
Gweddw 10 0.4%
Anhysbys 25 1.0%
Cyfanswm 2,492 100%
% y gweithlu sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil 1,179 47.3%

 

Rhagfyr 2024

Priod neu bartneriaeth sifil Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Priod 1,109 48.4%
Sengl 880 38.4%
Cyd-fyw 170 7.4%
Wedi ysgaru 74 3.2%
Wedi gwahanu 12 0.5%
Partneriaeth sifil 12 0.5%
Gweddw 9 0.4%
Anhysbys 25 1.1%
Cyfanswm 2,291 100%
% y gweithlu sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil 1,121 48.9%

 

Dadansoddiad ethnigrwydd

Ionawr 2023

Ethnigrwydd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Gwyn 1480 62.5%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 850 35.9%
Grwpiau ethnig lluosog cymysg 20 0.8%
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig 13 0.5%
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig # #
Grwpiau ethnig eraill # #
Cyfanswm 2369 100%
% y cydweithwyr sy'n nodi eu bod yn Ddu, neu o leiafrif ethnig 39 1.65%

 

Ionawr 2024

Ethnigrwydd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Gwyn 1547 62.1%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 905 36.3%
Grwpiau ethnig lluosog cymysg 22 0.9%
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig 12 0.5%
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig # #
Grwpiau ethnig eraill # #
Cyfanswm 2492 100%
% y cydweithwyr sy'n nodi eu bod yn Ddu, neu o leiafrif ethnig 40 1.6%

 

Rhagfyr 2024

Ethnigrwydd Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Gwyn 1,490 65%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 764 33.3%
Grwpiau ethnig lluosog cymysg 21 0.9%
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig 10 0.4%
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig # #
Grwpiau ethnig eraill # #
Cyfanswm 2,291 100%
% y cydweithwyr sy'n nodi eu bod yn Ddu, neu o leiafrif ethnig 37 1.48%

 

Dadansoddiad crefydd, cred, neu ddiffyg cred

Ionawr 2023

Crefydd, cred neu ddi-gred Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Heb ffydd na chred 675 28.5%
Bod â ffydd neu gred 507 21.4%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 1187 50.1%
Cyfanswm 2369 100%
% y cydweithwyr sy'n nodi eu crefydd, cred, neu ddim cred 507 21.4%

 

Ionawr 2024

Crefydd, cred neu ddi-gred Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Heb ffydd na chred 633 25.4%
Bod â ffydd neu gred 512 20.5%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 1249 50.1%
Cyfanswm 2492 100%
% y cydweithwyr sy'n nodi eu crefydd, cred, neu ddim cred 512 20.5%

 

Rhagfyr 2024

Crefydd, cred neu ddi-gred Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Heb ffydd na chred 707 30.9%
Bod â ffydd neu gred 489 19.6%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 1,095 43.9%
Cyfanswm 2,291 100%
% y cydweithwyr sy'n nodi eu crefydd, cred, neu ddim cred 1,196 50.5%

 

Cyfrifoldebau gofalu

Ionawr 2023

Cyfrifoldebau gofalu Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Bod â chyfrifoldeb gofalu 588 24.8%
Dim cyfrifoldeb gofal 806 34.0%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 975 41.2%
Cyfanswm 2369 100%

 

Ionawr 2024

Cyfrifoldebau gofalu Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Bod â chyfrifoldeb gofalu 612 24.6%
Dim cyfrifoldeb gofal 850 34.1%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 1030 41.3%
Cyfanswm 2492 100%

 

Rhagfyr 2024

Cyfrifoldebau gofalu Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Bod â chyfrifoldeb gofalu 602 26.3%
Dim cyfrifoldeb gofal 805 35.1%
Gwell gennyf beidio â dweud / heb ei gwblhau 884 38.6%
Cyfanswm 2,291 100%

 

Math o gyfrifoldeb gofalu

Ionawr 2023

Cyfrifoldeb gofalu Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Prif ofalwr am blentyn/plant (dan 18) 401 68.2%
Gofalwr eilaidd 89 15.1%
Cyfrifoldebau gofalu lluosog 43 7.3%
Prif ofalwr am oedolyn dros 65 oed 31 5.3%
Prif ofalwr am blentyn/plant anabl 11 1.9%
Prif ofalwr am oedolyn anabl (dros 18 oed) 13 2.2%
Cyfanswm 588 24.8%

 

Ionawr 2024

Cyfrifoldeb gofalu Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Prif ofalwr am blentyn/plant (dan 18) 426 69.6%
Gofalwr eilaidd 91 14.9%
Cyfrifoldebau gofalu lluosog 44 7.2%
Prif ofalwr am oedolyn dros 65 oed 28 4.6%
Prif ofalwr am blentyn/plant anabl 10 1.63%
Prif ofalwr am oedolyn anabl (dros 18 oed) 13 2.1%
Cyfanswm 612 24.6%

 

Rhagfyr 2024

Cyfrifoldeb gofalu Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Prif ofalwr am blentyn/plant (dan 18) 413 68.6%
Gofalwr eilaidd 93 15.4%
Cyfrifoldebau gofalu lluosog 42 7%
Prif ofalwr am oedolyn dros 65 oed 29 4.8%
Prif ofalwr am blentyn/plant anabl # #
Prif ofalwr am oedolyn anabl (dros 18 oed) 16 2.7%
Cyfanswm 602 26.3%

 

Dadansoddiad hunaniaeth genedlaethol

Ionawr 2023

Hunaniaeth Genedlaethol Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb 784 33.1%
Cymreig 776 32.8%
Prydeinig 642 27.1%
Seisnig 97 4.1%
Arall 51 2.2%
Albanaidd 15 0.6%
Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon # #
Cyfanswm 2369 100%

Noder: Dangosir data o dan 10 fel # at ddibenion diogelu data

 

Ionawr 2024

Hunaniaeth genedlaethol Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb 835 33.5%
Cymreig 812 32.6%
Prydeinig 659 26.4%
Seisnig 118 4.7%
Arall 50 2.0%
Albanaidd 15 0.6%
Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon # #
Cyfanswm 2492 100%

Noder: Dangosir data o dan 10 fel # at ddibenion diogelu data

 

Rhagfyr 2024

Hunaniaeth genedlaethol Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb 689 30.1%
Cymreig 792 34.6%
Prydeinig 629 27.5%
Seisnig 116 5.1%
Arall 48 2.1%
Albanaidd 14 0.6%
Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon # #
Cyfanswm 2,291 100%

Nodyn: Dangosir data o dan 10 fel # at ddibenion diogelu data

 

Gallu Cymraeg cydweithwyr

Ionawr 2023

Gallu iaith Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Cydweithwyr sydd wedi hunanasesu eu sgiliau yn MyNRW 2326 98.1%
Cydweithwyr sydd wedi datgan eu bod yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahanol lefelau 2228 95.8%
Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol 991 41.8%
Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol 477 20.1%
Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig 347 14.7%
Rhugl ar lafar yn y Gymraeg 227 9.6%
Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus 186 7.9%
Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg 98 4.1%
Dim datganiad wedi'i gwblhau 43 1.8%
Cyfanswm 2369 100%

 

Ionawr 2024

Gallu iaith Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Cydweithwyr sydd wedi hunanasesu eu sgiliau yn MyNRW 2450 98.3%
Cydweithwyr sydd wedi datgan eu bod yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahanol lefelau 2355 96.1%
Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol 1058 42.5%
Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol 498 20%
Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig 360 14.4%
Rhugl ar lafar yn y Gymraeg 228 9.1%
Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus 211 8.5%
Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg 95 3.8%
Dim datganiad wedi'i gwblhau 42 1.7%
Cyfanswm 2492 100%

 

Rhagfyr 2024

Gallu iaith Nifer y cydweithwyr Canran y cydweithwyr
Cydweithwyr sydd wedi hunanasesu eu sgiliau yn MyNRW 2,258 98.3%
Cydweithwyr sydd wedi datgan eu bod yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahanol lefelau 2,165 94.5%
Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol 964 42.1%
Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol 471 20.6%
Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig 333 14.5%
Rhugl ar lafar yn y Gymraeg 208 9.1%
Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus 189 8.2%
Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg 87 3.8%
Dim datganiad wedi'i gwblhau 39 1.7%
Cyfanswm 2,291 100%

 

Gallu yn y Gymraeg fesul cyfarwyddiaeth (Rhagfyr 2024)

Lefel ieithyddol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Gweithrediadau Cyfanswm
0 – Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg 6 1 20 17 43 87
1 – Yn gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol 56 16 285 82 525 964
2 – Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol 36 22 150 35 228 471
3 – Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus 16 4 57 15 97 189
4 – Rhuglder mewn Cymraeg llafar 17 8 45 15 123 208
5 – Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig 53 14 66 21 179 333
Dim datganiad 5 2 3 3 26 39
Cyfanswm 87 189 626 188 1,221 2,291
Diweddarwyd ddiwethaf