Defnydd offer deallusrwydd artiffisial yn briodol wrth ymgeisio am rolau yn CNC
Mae offer deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio’n fwyfwy, ac rydym yn deall y gallai rhai ymgeiswyr ddewis eu defnyddio wrth baratoi ceisiadau am swyddi. Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn cefnogi datblygu sgiliau digidol, gan gynnwys defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod eich cais yn adlewyrchu eich profiadau, eich mewnwelediadau a’ch llais chi eich hun.
Gall deallusrwydd artiffisial fod yn ddefnyddiol, ond y ceisiadau cryfaf yw’r rhai sy’n onest, yn bersonol ac yn ddilys. Rydyn ni am ddod i adnabod y chi go iawn. Yn aml, mae’n amlwg pan nad yw rhannau neu’r cyfan o gais yn ddilys, ac mae hyn yn dod yn fwy amlwg fyth yn ystod cyfweliadau. Gall or-ddibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial leihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Datblygwyd y canllaw hwn mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Niwroamrywiaeth a’r Grŵp Defnyddwyr â Gynorthwyir.
Pam mae dilysrwydd yn bwysig
Dylai eich cais a’ch cyfweliad roi darlun cywir a dilys inni o’ch sgiliau a’ch profiadau. Mae’n hanfodol nad ydych chi’n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ystod unrhyw asesiadau byw ar unrhyw gam o’r broses ddethol. Mae hyn yn sicrhau proses ddethol deg i bob ymgeisydd lle rydym yn asesu pawb yn seiliedig ar deilyngdod.
Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano mewn ceisiadau
Dylai eich cais gynrychioli eich sgiliau a’ch profiadau personol yn gywir ac yn ddilys. Mae ceisiadau da yn ein helpu ni i ddeall y canlynol:
- sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn cyd-fynd â’r rôl neu’r cynllun rydych chi’n gwneud cais amdano
- beth sy’n eich cymell chi i wneud eich gwaith gorau
- beth rydych chi wedi’i gyflawni a sut wnaethoch chi hynny
Y ddwy brif ran o’r broses yw’r cais ysgrifenedig a’r cyfweliad. Ym mhob cam mae yna wahanol bethau y gallai ddeallusrwydd artiffisial eich helpu gyda nhw.
Nod defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eich cais am swydd yw eich helpu i ddangos i ni pwy ydych chi a beth rydych chi’n gwneud yn dda. Nid yw’n ymwneud â chreu persona nad yw’n perthyn i chi.
Defnydd derbyniol o ddeallusrwydd artiffisial mewn ceisiadau
Gallwch ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial i gefnogi eich paratoadau mewn ffyrdd sy’n eich helpu chi i fynegi eich syniadau eich hun yn fwy clir:
- Trefnu eich meddyliau gan ddefnyddio fframweithiau fel STAR (sefyllfa, tasg, gweithredu, canlyniad)
- Cynnal gwaith ymchwil i Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall ein gwaith a’n diwylliant yn well
- Archwilio tueddiadau diwydiant neu broffesiynol i helpu i roi cyd-destun i’ch profiad
- Gwirio sillafu a gramadeg, wrth adolygu awgrymiadau’n feirniadol
Defnydd annerbyniol o deallusrwydd artiffisial yn eich cais
Mae cyfyngiadau ar sut y dylid defnyddio deallusrwydd artiffisial. Nid yw’r arferion canlynol yn dderbyniol:
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial i “swnio’n berffaith” yn lle mynegi eich llais dilys
- Creu neu orliwio sgiliau, cyflawniadau neu brofiadau
- Mewnbynnu data sensitif neu bersonol i offer deallusrwydd artiffisial
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn lle myfyrio ar eich profiad eich hun a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl
Dylai eich cais fod yn adlewyrchiad gwir o bwy ydych chi. Rydyn ni eisiau darllen am eich profiadau, eich sgiliau a’ch gwybodaeth, yn eich geiriau eich hun.
Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ystod y cam cyfweld
Eich profiadau unigryw, eich persbectif a’ch personoliaeth yw’r hyn sy’n gwneud i chi sefyll allan. Yn ystod cyfweliadau, rydym am glywed yn uniongyrchol gennych chi. Ni ddylai deallusrwydd artiffisial ddisodli eich meddwl, eich gwaith paratoi na’ch creadigrwydd eich hun.
Defnydd o ddeallusrwydd artiffisial sy’n dderbyniol wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gall deallusrwydd artiffisial eich helpu i baratoi ac ymarfer ymlaen llaw. Rhai enghreifftiau o ddefnydd effeithiol:
- gallech ofyn i ddeallusrwydd artiffisial ddarllen y disgrifiad o’r swydd a chreu cwestiynau cyfweliad ffug i’ch helpu chi i baratoi ymatebion enghreifftiol yn seiliedig ar eich profiadau a’ch sgiliau
- gofyn i ddeallusrwydd artiffisial gynhyrchu sampl o gwestiynau ymddygiad fel y gallwch ymarfer sut rydych chi’n cyflwyno’ch ymatebion
- cymharu eich ymatebion i gwestiynau enghreifftiol â’r dulliau a argymhellir, a’u personoli nhw
- gofyn am awgrymiadau ar iaith y corff ac arddulliau cyfathrebu ar gyfer cyfweliadau, ac ymarfer y rhain mewn sesiynau ffug
- ymgymryd ag ymchwil bellach i Cyfoeth Naturiol Cymru
- dod o hyd i wybodaeth am dueddiadau mewn diwydiant neu broffesiwn y gallwch ei chysylltu â phrofiadau personol
Mae’n bwysig deall, er y gall deallusrwydd artiffisial eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad, na ddylid defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu ymatebion yn ystod cyfweliad.
Defnydd annerbyniol o ddeallusrwydd artiffisial mewn cyfweliadau
Nid yw’r defnyddiau canlynol yn briodol a gallant effeithio ar eich cais:
- gorliwio eich sgiliau a’ch profiadau neu ddweud celwyddau amdanynt
- creu atebion i gwestiynau a ofynnir i chi yn ystod cyfweliad byw neu wedi’i recordio ymlaen llaw
- creu atebion ar gyfer cwestiynau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd
- darparu teclyn deallusrwydd artiffisial gyda gwybodaeth sensitif am eich sefydliad fel ffigurau neu fanylion personol