Arweinydd y Tîm Gweithrediadau Coedwigoedd

Dyddiad cau: 06/08/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Bangor

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau coedwigoedd – De Gwynedd / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 15/08/2025

Rhif swydd: 200155

Y rôl

A ydych chi’n angerddol am goedwigaeth, arweinyddiaeth, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn nhirwedd Cymru? Dyma eich cyfle i arwain gweithrediadau hanfodol yn rhai o’r coetiroedd mwyaf prydferth ac ecolegol arwyddocaol yng Nghymru.

Fel Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwigaeth, byddwch yn gyfrifol am raglenni cynaeafu, paratoi tir ac ailblannu ar draws Coed y Brenin, Ffestiniog, a’r Bala - safleoedd coedwigaeth allweddol yng Ngwynedd a’r hyfryd Barc Eryri. Nid swydd wrth ddesg yn unig yw hon - mae’n rôl arweinyddiaeth ymarferol, effaith uchel â chyfrifoldeb gwirioneddol am iechyd a chynaliadwyedd ein hystâd goedwig genedlaethol yn y dyfodol.

Byddwch yn arwain tîm medrus ac ymroddedig o naw unigolyn, gan gydweithio i gyflawni gweithrediadau coedwigaeth diogel, effeithlon, sy’n gyfrifol am yr amgylchedd. O sicrhau arfer gorau wrth gynllunio safleoedd ac iechyd a diogelwch, i gydbwyso pwysau masnachol â blaenoriaethau ecolegol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli ac yn gwarchod y tir.

Dyma gyfle i roi eich gwybodaeth dechnegol, eich arbenigedd gweithredol, a’ch gallu arweinyddiaeth ar waith mewn rôl sy’n cyfuno gwaith maes ymarferol â goruchwyliaeth strategol. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Gogledd-orllewin Cymru, gan helpu i lywio ein hamcanion rheoli tir ehangach.

P’un a ydych chi eisoes yn gweithio mewn rôl debyg neu’n edrych i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa coedwigaeth, mae’r swydd hon yn cynnig y cyfle i wneud y canlynol:
•    Arwain ac ysbrydoli tîm sy’n cyflawni canlyniadau go iawn ar lawr gwlad
•    Cyfrannu’n uniongyrchol at dreftadaeth naturiol Cymru a’i gwytnwch o ran yr hinsawdd
•    Rheoli safleoedd allweddol sy’n gynhyrchiol yn fasnachol ac yn ecolegol gyfoethog
•    Mwynhau model gweithio hybrid gyda hyblygrwydd a chymorth ar gyfer eich datblygiad chi

Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm brwdfrydig a phrofiadol sy’n gweithio i sicrhau bod coedwigoedd Cymru yn ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Dylan Williams at Dylan.williams@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Amdanom ni

Yn eistedd o fewn Cynllun Lle, Tir ac Asedau y Gogledd-orllewin, rydym yn rhan o adran o chwe thîm. Mae’r ardal o fewn Parc Eryri.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a datblygu staff a chynllunio, monitro a rheoli adnoddau i gyflawni cynllun gwaith yn ôl y gyllideb a’r amserlen. 
  • Sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant aelodau’r tîm drwy weithredu a monitro arferion gweithio diogel ac asesiadau risg.
  • Bod yn gyfrifol am benderfyniadau rheoli tir a chyflawni gweithredol ar lefel y safle, gan sicrhau cydymffurfedd â safonau’r diwydiant er mwyn gweithredu’n unol â phob deddfwriaeth a chynllun ardystio perthnasol. 
  • Darparu cyngor ac arweiniad technegol i wella’r broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg. 
  • Rheoli gwariant y tîm o fewn y gyllideb.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1.    Aelodaeth broffesiynol (yn ofynnol, neu i’w chael o fewn amserlen resymol y cytunir arni).Yn nodweddiadol, MCIEEM, MICFor, neu MRICS. 
2.    Profiad o bwnc gwyddonol neu dechnegol sy’n ymwneud ag o leiaf un o’r rhaglenni a’r grŵp staff a reolir. 
3.    Sgiliau hyfforddi a mentora. 
4.    Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol. 
5.    Gwybodaeth a phrofiad helaeth o un o’r canlynol o leiaf; pynciau gwyddor cadwraeth, rheoli tir, ymarfer coedwigaeth a gweithrediadau coedwigaeth.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf