Uwch Swyddog Amgylcheddol
Dyddiad cau: 22/06/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Llandrindod Wells
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Amgylcheddol De Powys / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 30/06/2025
Rhif swydd: 200590
Y rôl
Fel Uwch Swyddog Amgylcheddol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn Nhîm Amgylchedd De Powys – gan gwmpasu lleoliadau eiconig fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Afonydd gwarchodedig Gwy ac Wysg. Mae hon yn swydd ymarferol, ar lefel uwch, sy'n cyfuno gwaith technegol arbenigol â meddwl strategol ac arweinyddiaeth.
Byddwch yn canolbwyntio ar rai o'r heriau amgylcheddol mwyaf cymhleth ac uchel eu proffil yn y rhanbarth, yn enwedig o ran ansawdd dŵr, adnoddau dŵr ac effeithiau amaethyddol. Bydd eich gwaith yn cynnwys ymchwilio i ddigwyddiadau amgylcheddol a'u datrys, sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau, a chymryd camau gorfodi lle bo angen.
Y tu hwnt i waith achos, byddwch yn gweithredu fel mentor technegol i'r tîm, gan helpu i feithrin gallu a hyder mewn eraill. Byddwch yn gweithio'n agos gydag Arweinydd y Tîm i lunio a chyflawni rhaglenni cydymffurfio lleol, cyfrannu at waith partneriaeth, a chynrychioli CNC mewn trafodaethau gyda rhanddeiliaid allanol.
Mae hon yn rôl i rywun sy'n ffynnu ar amrywiaeth, sy'n hyderus wrth wneud penderfyniadau wedi'u hategu gan dystiolaeth, ac sy'n angerddol am gyflawni gwelliannau amgylcheddol yn y byd go iawn. Os ydych chi'n awyddus i gamu ymlaen a gwneud gwahaniaeth lle mae'n wirioneddol bwysig – dyma'ch cyfle.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jenny Phillips Jenny.phillips@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams. Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar yr wythnos sy'n dechrau 30/06/2025.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynrychioli CNC mewn trafodaethau gyda sefydliadau partner.
- Gweithredu fel mentor a chynghorydd technegol i aelodau'r tîm.
- Cynorthwyo'r Arweinydd Tîm yn agos i gynllunio a chyflawni rhaglen gydymffurfio a gorfodi.
- Byddwch yn cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Lle nodir diffyg cydymffurfio, pennu a gweithredu'r ymyrraeth fwyaf priodol.
- Sicrhau datblygiad technegol aelodau'r tîm.
- Chwarae rôl lefel uwch wrth gefnogi Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau gwydn a chymwys ar ran CNC sy'n dilyn proses CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau (dymunol).
- Dealltwriaeth gyffredinol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gydag arbenigedd penodol mewn maes penodol o gylch gwaith y Tîm Amgylchedd.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad o brosesau rheoleiddio a gorfodi.
- Meddu ar drwydded lawn gyfredol sy’n ddilys i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.