Cynghorydd Arbenigol Prosiectau a Chyflawni Rhaglenni

Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6, £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad:  Crosshands neu Caerdydd

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Arweinydd Tîm, Prosiectau a Chyflawni Rhaglenni

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 19 Mai 2025

Rhif swydd: 200822

Y rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i reolwr prosiect profiadol ymuno â'n tîm Darparu Prosiectau a Rhaglenni o fewn yr adran Prosiectau Strategol.

Byddwch yn goruchwylio ystod eang o brosiectau dylunio ac adeiladu ar draws ein portffolios cyfalaf amrywiol, sy'n cynnwys peirianneg; seilwaith; prosiectau amgylcheddol ac ecolegol, er enghraifft cynlluniau rheoli perygl llifogydd, gwelliannau i gronfeydd dŵr, uwchraddio hydrometreg, gwelliannau i ymfudiad pysgod, cynlluniau adfer afonydd, adfer mwyngloddiau metel a seilwaith ystadau coedwigaeth. 

Eich blaenoriaeth, o'r dechrau i'r diwedd, yw sicrhau bod eich prosiectau'n cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. 

Drwy reoli timau amlddisgyblaethol i ddatblygu atebion arloesol o’r gwerth gorau, byddwch yn cyflawni nodau strategol CNC fel y’u nodir yn ein Cynllun Corfforaethol ac yn cyfrannu at ganlyniadau i bobl a natur Cymru.

Bydd y rôl hon yn cynnwys rheoli ein prosiectau proffil uwch mwy cymhleth (ariannol, cyfreithiol, gweithredol a rhai sy’n ymwneud ag enw da), gan roi sylw dyledus i risgiau a rhwymedigaethau CN.

Byddwch yn deall ac yn cymhwyso egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu hystyried wrth wneud pob penderfyniad.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o’r lleoliadau CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Merrissa Fallas,  merrissa.fallas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Ymgymryd â chyfrifoldebau rheolwr prosiect ar gyfer prosiectau a neilltuwyd o fewn ein methodoleg PRINCE2.
  • Dangos egwyddorion rheoli prosiect enghreifftiol, gan gynnwys rheoli arian, rhaglenni, cwmpas, risg a chontractau ar gyfer prosiectau cymhlethdod a risg uwch.
  • Rheoli'r gwaith o gaffael yr holl gyflenwyr ar eich prosiectau. Cyflawni eich dyletswyddau yn unol â'r awdurdod dirprwyedig a pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Paratoi rhaglen MS Project ar gyfer prosiectau a darparu rhagolwg cywir o gerrig milltir prosiectau. Deall a rheoli risgiau sydd ynghlwm wrth gyflenwi'r rhaglen.
  • Nodi'r holl gydsyniadau a chaniatadau sy'n ofynnol a gwneud cais / cyfarwyddo'r cyflenwyr i sicrhau'r rhain mewn modd amserol.
  • Ysgrifennu a chynnal cofrestr risg ar gyfer prosiectau a gweithredu i reoli risgiau ariannol, masnachol, cyfreithiol a gweithredol a’r risg i enw da.
  • Bod yn hyrwyddwr arferion diogelwch ac amgylcheddol a hybu'r rhain i'ch timau prosiect.
  • Rheoli'r broses o gyfathrebu ynglŷn â’r prosiect er mwyn cynnwys rhanddeiliaid a dylanwadu arnynt mewn modd effeithiol i hwyluso'r gwaith o ddarparu’r prosiect a sicrhau canlyniadau.
  • Meithrin perthnasau cryf â phartneriaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni datrysiadau integredig sy'n cyflawni ar lefel leol a chenedlaethol.
  • Nodi a rhannu'r gwersi a ddysgwyd ac arfer gorau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd o leiaf mewn pwnc peirianneg, gwyddoniaeth, yr amgylchedd, deuaryddiaeth neu bwnc technegol perthnasol.
  2. Dylai deiliaid y swydd feddu ar brofiad sylweddol neu'n gweithio tuag at Statws Proffesiynol Siartredig yn eu maes (Sefydliad y Peirianwyr Sifil – ICE, Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd – CIWEM, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig – RICS).
  3. Mae Statws Ymarferydd PRINCE2 yn ddymunol, neu ymrwymiad i'w gyflawni o fewn chwe mis o fod yn y swydd.
  4. Trwydded yrru lawn yn y DU.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf