Uwch-gynghorydd Caffael
Dyddiad cau: 18/06/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Caffael / Cyfathrebu, Cwsmeriaid, a Masnachol
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 201747, 203950, 203951, 201749
Y rôl
Fel Uwch-gynghorydd Caffael yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), byddwch yn rhan o dîm dynamig sydd wrth wraidd cyflawni gwerth cyhoeddus cynaliadwy. Mae ein gwaith mor amrywiol â’r amgylchedd naturiol yr ydym yn ei warchod – gan gefnogi ystod eang o feysydd busnes gan gynnwys peirianneg sifil, gweithrediadau coedwigaeth, rheoli tir, TGCh, y fflyd, cyfleusterau a mwy.
Yn unol â chategorïau caffael strategol, byddwch yn darparu cefnogaeth arbenigol i reolwyr contractau ar draws y sefydliad. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil iawn i weithio ar draws prosiectau cymhleth ac ystyrlon sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni amcanion corfforaethol, strategaeth fasnachol, a chynlluniau gwasanaeth CNC. O roi’r arferion caffael gorau ar waith i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth a pholisi, bydd eich rôl yn helpu i sicrhau gwerth am arian a sicrhau deilliannau gwell i adnoddau naturiol Cymru.
Byddwch yn gweithio ar draws nifer o gategorïau caffael allweddol megis gwasanaethau corfforaethol a phobl, gweithrediadau coedwigaeth, data digidol a thechnoleg, labordai, gwasanaethau amgylcheddol a morol, ymgynghoriaeth, a gwasanaethau natur a’r hinsawdd. Gwneir defnydd o’ch arbenigedd i gefnogi mesurau cyflawni ychwanegol sydd â blaenoriaeth uchel yn ôl yr angen – gan chwarae rhan annatod yn ymateb CNC i’r argyfwng hinsawdd a natur.
Rydym yn chwilio am weithwyr caffael proffesiynol profiadol a chymwys, gyda dealltwriaeth gref o fframweithiau caffael y sector cyhoeddus. Yn ddelfrydol, byddwch yn aelod llawn o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS), neu’n meddu ar radd berthnasol ym meysydd rheoli busnes, y gadwyn gyflenwi, neu weinyddiaeth. Os nad ydych chi eisoes wedi cymhwyso i Lefel 6 CIPS, bydd disgwyl i chi weithio tuag at gyflawni hyn.
Mae hyn yn fwy na rôl gaffael yn unig – mae’n gyfle i helpu i lunio Cymru fwy gwyrdd a chynaliadwy.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Karl Pugh ar karl.pugh@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Yn CNC, mae caffael yn ymwneud â mwy na phrynu yn unig – mae’n ymwneud â chyflawni deilliannau ystyrlon er lles amgylchedd, economi, a phobl Cymru. Mae ein cenhadaeth gaffael yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth, cynaliadwyedd, a gwerth i’r cyhoedd.
Rydym ni yma i wneud y canlynol:
- Darparu arweinyddiaeth glir a chyfeiriad strategol
Mae ein gwaith yn cefnogi gweledigaeth, gwerthoedd, ac amcanion llesiant corfforaethol CNC. Rydym yn cydweithio ar draws y sefydliad i sicrhau bod penderfyniadau o ran caffael yn cyd-fynd yn llawn â’n nodau hirdymor a’n blaenoriaethau cenedlaethol. - Defnyddio ein pŵerau caffael yn ddoeth ac yn gyfrifol
Ein nod yw darparu’r gwerth mwyaf am arian, gan ddefnyddio ein dylanwad i sicrhau nwyddau, gwasanaethau, a gwaith o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion CNC ac anghenion ein rhanddeiliaid. - Hyrwyddo dulliau caffael cynaliadwy, modern, ac arloesol
Rydym yn chwilio’n weithredol am dechnolegau newydd, ffyrdd mwy craff o weithio, a datrysiadau sy’n amgylcheddol gyfrifol. Nid yw cynaliadwyedd yn ychwanegyn – mae wedi’i ymgorffori ym mhopeth a wnawn. - Darparu gwasanaeth proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
Rydym yn darparu dulliau caffael sy’n addas i’r diben, yn cydymffurfio’n llawn, ac yn seiliedig ar arferion gorau. Mae tegwch, tryloywder, ac atebolrwydd yn tanategu pob proses yr ydym yn ei rheoli.
Yn ei hanfod, ein cenhadaeth yw bod yn alluogwr dibynadwy o amcanion llesiant CNC – gan hybu cynnydd trwy gydweithio, mewnwelediadau, ac arweinyddiaeth fasnachol arbenigol.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynorthwyo yn y gwaith o gyflenwi gwasanaeth caffael integredig a phroffesiynol i gefnogi’r gwaith o reoli categorïau (ac amcanion corfforaethol CNC), gan roi cyngor i gleientiaid ar broblemau caffael strategol a chyfrannu at ddatblygu strategaeth gaffael CNC
- Bod yn atebol o dan y cynllun ‘Rhoi ein Harian,’ gan sicrhau deilliannau cadarn sy’n cydymffurfio ac sy’n rhoi gwerth am arian
- Dadansoddi amrediad o wybodaeth gymhleth i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella costau o fewn y categori cynlluniau gwario a chyflenwi, i gynnwys adolygiad o drefniadau contractiol
- Cyflawni deilliannau a gwelliannau caffael (o ran costau, effeithlonrwydd, gwerth neu ansawdd) yn unol â thargedau y cytunwyd arnynt a dangosyddion perfformiad allweddol
- Meithrin a chynnal cydberthnasau dylanwadol a chydweithredol â chwsmeriaid mewnol er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd, risgiau ac arferion gorau sy’n berthnasol i gaffael, gan ddylanwadu ar waith ein cwsmeriaid mewnol o ran darparu canlyniadau cadarnhaol
- Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol er mwyn rheoli risg fasnachol a chynaliadwyedd, i wella ffyrdd o weithio a llywio effeithlonrwydd, fel y dangosir gan yr arbedion a’r gwerth cyffredinol
- Rhoi arweinyddiaeth a chefnogaeth ar gaffael mewn meysydd gweithgaredd penodedig, gan weithio gydag amrywiaeth o bobl ar draws y sefydliad
- Sefydlu a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru, cyrff a noddir, asiantaethau, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (aelodaeth lawn, neu’n gweithio tuag at hynny)
- Profiad sylweddol fel ymarferydd caffael, o ran cymhwyso gwybodaeth a gofynion penodol y swydd
- Profiad helaeth o ddylanwadu ar benderfyniadau caffael ar lefel prosiect
- Profiad o ymgymryd ag ymarferion caffael a’u harwain, gan ddangos llwyddiant o ran eu cyflenwi
- Profiad o ymgymryd â thrafodaethau lefel uchel a chymhleth gyda phartneriaid cyflenwi
- Profiad trosglwyddadwy o ddefnyddio prosesau caffael i gyflawni amcanion busnes
- Dealltwriaeth o gysyniadau, arferion, dulliau llywodraethu a thechnegau caffael, gan gynnal y ddealltwriaeth hon drwy amrediad o ddiddordebau a rhyngweithio â grwpiau cymheiriaid.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.