Cymorth Hwb Cwsmeriaid
Dyddiad cau: 06/08/2025 | Cyflog: Gradd 3 £28,932 - £30,955 | Lleoliad: Parc Cathays, Caerdydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Hwb Cwsmeriaid / Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol
Cyflog cychwynnol: £28,932 yn codi i £30,955 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos dechrau 18/08/2025
Rhif swydd: 201772
Y rôl
Fel aelod allweddol o dîm Canolfan Gyswllt Cyfoeth Naturiol Cymru, byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rheng flaen o ansawdd uchel ar draws sianeli lluosog, gan gynnwys ffôn, e-bost a chyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn rheoli ystod eang o ymholiadau a thasgau trafodion, gan sicrhau bod pob cwsmer yn cael profiad cadarnhaol a phroffesiynol.
Byddwch yn rhan o hwb cwsmeriaid deinamig a chydweithredol, gan gyfrannu at sut rydym yn gwella ac yn llunio ein gwasanaethau’n barhaus. Boed yn prosesu cofrestriadau, ymateb i ymholiadau neu gefnogi timau mewnol, bydd eich gwaith yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth di-dor a dibynadwy i bobl Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Helen Florek-Oughton ar Helen.Florek-Oughton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw prif gorff amgylchedd Cymru ac mae’n gyfrifol am ddiogelu, cynnal a gwella’r amgylchedd naturiol, gan gefnogi defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae’r rôl hon wedi’i lleoli o fewn ein Hwb Cwsmeriaid, rhan o’r Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol. Mae’r gyfarwyddiaeth wrth wraidd ymgysylltiad allanol CNC – gan feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd, cryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid, a chyflawni ein strategaeth sefydliadol.
Mae’r Hwb Cwsmeriaid yn darparu ystod o wasanaethau rheng flaen hanfodol. Rydym yn ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, adroddiadau am ddigwyddiadau, trwyddedu data, cwynion, a cheisiadau rhyddid gwybodaeth.Ein ffocws yw darparu gwasanaethau hygyrch, ymatebol a chyson ar draws pob sianel gyfathrebu.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Ymateb i bob math o ymholiadau cwsmeriaid sy’n dod i’r sefydliad, yn unol â safonau gwasanaeth cwsmeriaid y cytunwyd arnynt, a defnyddio systemau priodol i reoli ymholiadau i safon ragorol.
- Cyflawni amrywiaeth o weithgarwch trafodion cwsmeriaid – er enghraifft, prosesu ceisiadau mynediad, trwyddedau ac ati – gan sicrhau bod data’n cael ei gasglu a’i brosesu gan systemau perthnasol.
- Bod yn esiampl o ofal cwsmeriaid ardderchog ar draws ein holl weithgareddau, gan sicrhau bod safonau uchaf o ran gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu mabwysiadu a’u cynnal ar draws yr holl weithgareddau.
- Cynorthwyo’r tîm i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn i’n holl gwsmeriaid, trwy gyfrannu at ddatblygu systemau a phrosesau newydd, gan annog diwylliant o welliant parhaus.
- Gweithio’n hyblyg fel rhan o’r Tîm Rheoli Cwsmeriaid ac ymdrechu i ddatblygu’r rôl, gan helpu ein sefydliad i ddod yn ddarparwr blaenllaw gwasanaeth cwsmeriaid o fewn y sector cyhoeddus
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Sgiliau gofal cwsmer ardderchog ynghyd â’r cymhelliant i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n holl gwsmeriaid.
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog sy’n eich galluogi i gyfathrebu’n effeithiol a phroffesiynol gyda’n holl gwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Gwybodaeth am yr egwyddorion wrth drin data personol a pholisi diogelwch wrth drin gwybodaeth ariannol.
- Profiad o weithio o fewn tîm rheoli cwsmeriaid aml-sianel gyda dealltwriaeth o amrywiol gymwysiadau Microsoft, gan gynnwys system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.