Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol

Dyddiad cau: 18/06/2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyfathrebu a Materion Allanol / Cyfathrebu, Cwsmeriaid, a Masnachol

Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 201781

Y rôl

Bydd y rôl hon yn arwain a rheoli tîm cyfathrebu arbenigol sy’n darparu gwasanaeth cyfathrebu o’r dechrau i’r diwedd sy’n hollol integredig ar draws CNC i gyd, yn canolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth sy’n gwella’n barhaus fel rhan o gyfres ehangach o wasanaethau galluogi. Gan weithio mewn partneriaeth ag uwch-arweinwyr ar draws y busnes, byddwch yn datblygu a llywio’r gwaith o gyflenwi ein strategaeth gyfathrebu, gan gynnwys datblygu ein dulliau strategol ar gyfer: cysylltiadau â’r cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgyrchoedd, cysylltiadau cyhoeddus, a chyfathrebu mewnol. Byddwch yn uwch-arbenigwr cyfathrebu yn y busnes, yn cynghori ar y canlynol: cyfathrebu mewn argyfwng, cyfathrebu yn ystod digwyddiadau, rheoli enw da, a newid ymddygiad; yn ogystal â’r disgyblaethau uchod.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lynette Bowley ar lynette.bowley@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Byddwch yn rhan o’r tîm cyfathrebu corfforaethol, ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr sy’n gweithio ar draws ystod o ddisgyblaethau cyfathrebu a materion allanol. Byddwch yn arwain tîm o tua saith o unigolion a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Llywio’r gwaith o gyflenwi strategaeth gyfathrebu sefydliadol drwy gyfathrebu mewnol ac allanol rhagweithiol ac ymatebol effeithiol, er mwyn meithrin ac amddiffyn ein henw da a’n brand
  • Rheoli gwasanaeth cyfathrebu effeithiol yn ystod digwyddiadau, gan sicrhau bod y sefydliad yn barod ac wedi’i hyfforddi’n ddigonol ar gyfer cyfathrebu yn ystod digwyddiad amgylcheddol ar raddfa fawr
  • Rheoli cyllideb gyfathrebu’r sefydliad a chontractau allanol sy’n ymwneud â gwaith cyfathrebu
  • Rheoli cynigion am adnoddau ychwanegol pan fo’r cyfleoedd yn codi
  • Cynghori’r uwch-reolwyr ar broblemau, argyfyngau a rheoli risg, yn arbennig risg i enw da a gwaith ar draws y busnes i drawsnewid y ffordd y mae’r sefydliad yn cyfathrebu â’i gynulleidfaoedd niferus
  • Datblygu blaenoriaethau cyfathrebu blynyddol mewn cydweithrediad â’r Pennaeth Cyfathrebu a phenaethiaid busnes/gwasanaeth, gan sicrhau adnoddau ychwanegol yn ôl y gofyn
  • Rheoli blaenoriaethu a chynllunio gwaith yn ystod y flwyddyn ar gyfer y tîm, gan ddyrannu adnoddau yn unol â hynny ac adrodd ynghylch cynnydd yn rheolaidd i’r tîm gweithredol a’r bwrdd
  • Meithrin rhwydweithiau allanol cadarn gyda sefydliadau partner er mwyn cynyddu’r cydweithio o amgylch amcanion a rennir
  • Rheoli llefarwyr cyfryngol CNC, gan sicrhau bod pawb y mae’n ofynnol iddynt gynrychioli CNC mewn cyfweliadau a ddarlledir wedi cael eu hyfforddi, eu briffio’n dda a’u paratoi
  • Datblygu ymgyrch gyfathrebu a chynlluniau gwaith blynyddol i gyflenwi’r ymgyrchoedd a gweithgareddau cyfathrebu allanol mwyaf rhagweithiol ac effeithiol posibl, er mwyn meithrin brand ac enw da a sicrhau bod ein hymgyrchoedd yn gwneud cyfraniad sylweddol i gyflawni ein hamcanion corfforaethol
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

Byddwch yn meddu ar y canlynol:

  1. Profiad o arwain/rheoli dull cyfathrebu integredig, gan gynnwys cynllunio a blaenoriaethu gwaith ac ymgyrchoedd.
  2. Profiad sylweddol ar draws meysydd cysylltiadau cyhoeddus (cyfryngau, rhanddeiliaid, materion cyhoeddus, argyfyngau, rheoli enw da, digwyddiadau); marchnata (ymgyrchoedd, hysbysebu, ymchwil, naratif strategol, dylunio ac argraffu, digwyddiadau); ac ymgysylltu â staff, gydag arbenigedd penodol mewn o leiaf ddau o’r tri maes.
  3. Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol ac ymrwymiad gweladwy i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hunan
  4. Dealltwriaeth a gwybodaeth fanwl ynghylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC er mwyn gallu llywio ymgyrchoedd cyfathrebu effeithiol i gefnogi’r rhain
  5. Y gallu i wneud penderfyniadau craff, yn arbennig o ran amddiffyn enw da ac yn ystod digwyddiadau
  6. Profiad o fod yn llefarydd cyhoeddus a/neu i’r cyfryngau, â’r gallu i gynrychioli’r sefydliad yn hyderus, yn aml mewn amgylchiadau anodd

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol   Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf