Uwch-swyddog Trwyddedau Gosodiadau a’r Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Trwyddedau Gosodiadau a’r Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 202849
Y rôl
Byddwch yn aelod uwch o Dîm Trwyddedau Gosodiadau a’r Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol, gan ddefnyddio eich sgiliau gwyddonol a thechnegol i asesu ceisiadau cymhleth am drwyddedau amgylcheddol a chyflawni dyletswyddau CNC i wneud penderfyniadau cadarn i roi, gwrthod neu amrywio trwyddedau amgylcheddol, yn unol ag amser a’r gyllideb.
Byddwch yn defnyddio prosesau trwyddedu amgylcheddol, canllawiau technegol gwyddonol, a’ch dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol ehangach, ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol mawr; gan gynnwys purfeydd, llosgi gwastraff, trin a thirlenwi, papur a mwydion, bwyd a diod, prosesu metelau, ffermio dwys, hylosgi, cemegau, a gweithgareddau sy’n defnyddio sylweddau ymbelydrol.
Mae’r rôl yn rhan o dîm sy’n cydweithio’n agos. Byddwch yn meithrin cysylltiadau cryf ac yn gyfrifol am fentora a hyfforddi cyfoedion, gan rannu gwybodaeth, profiad ac arfer gorau, er mwyn hwyluso gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg a chynhyrchu trwyddedau gorfodadwy cadarn; gan amddiffyn iechyd pobl a’r amgylchedd, ac annog arfer gorau wrth weithredu cyfleusterau rheoleiddiedig.
Byddwch yn defnyddio eich arbenigedd ar draws sawl sector diwydiannol o brofiad rheoleiddio neu weithredol, ac yn ymateb i ymholiadau trwyddedu gan gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan weithio gydag aelodau’r tîm a’r gymuned rheoleiddio diwydiant ehangach i ddatrys materion cymhleth sy’n codi yn eich maes arbenigol.
Yn ogystal â’r cyfrifoldebau trwyddedu craidd, byddwch yn cyfrannu at gynllunio gwaith, rheoli risg ac adnoddau, yn ysgogi gwelliannau i brosesau, ac yn cymryd rhan mewn grwpiau clwstwr diwydiannol i gyflawni canlyniadau ac ymgorffori’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy o fewn fframweithiau rheoleiddio cyfredol.
Mae’r rôl yn addas ar gyfer gweithio hybrid, gan fod y tîm yn gyfrifol am asesu ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol gan ddiwydiannau mawr ledled Cymru. Fel gyda llawer o rolau, mae cyfarfodydd tîm wyneb yn wyneb a hyfforddiant a chymorth cyffredinol wrth y ddesg yn fuddiol iawn, felly bydd gofyn i chi ymweld â swyddfa Caerdydd yn rheolaidd i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau a chyflawni tasgau penodol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Holly Noble at Holly.Noble@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae Tîm Trwyddedau Gosodiadau a’r Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol yn rhan o Wasanaeth Trwyddedu CNC, sy’n rhan o’r Adran Rheoleiddio a Thrwyddedu ehangach.
Prif rôl Gwasanaeth Trwyddedu CNC yw diogelu’r amgylchedd a chymunedau drwy asesu a phenderfynu ar geisiadau am drwyddedau amgylcheddol. Trwyddedu yw sylfaen rheoleiddio amgylcheddol ac mae’n hanfodol i economi, pobl a bywyd gwyllt Cymru. Newid hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol, ac mae datblygiadau technoleg newydd a phrosiectau datgarboneiddio o fewn diwydiant yn dod yn realiti mewn ymateb i hyn.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain ar y gwaith o benderfynu ar drwyddedau cymhleth o dan ddeddfwriaeth trwyddedu gosodiadau, trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle maent ar gael, a chyflwyno, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amserlenni.
- Arwain ar y gwaith o ddylanwadu ar y fframweithiau mentora a hyfforddi a’u gweithredu, er mwyn cynorthwyo datblygiad technegol swyddogion trwyddedu eraill yn y Tîm Trwyddedu Gosodiadau ac ar draws y gwasanaeth trwyddedu, lle y bo’n berthnasol, gan sicrhau cysondeb o ran y dull.
- Profiad helaeth o wneud penderfyniadau trwyddedu gan ddefnyddio amrywiaeth o ganllawiau technegol, meddalwedd dechnegol a rhaglenni modelu, yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan y cynllun gosodiadau.
- Arwain ar y gwaith o gynorthwyo timau gweithredol drwy ddarparu arbenigedd yn y trafodaethau cyn cyflwyno cais a’r gwaith ar ôl trwyddedu ar gyfer mathau amrywiol o geisiadau o fewn sectorau amrywiol y drefn gosodiadau.
- Adnabod a gweithredu ar gyfleoedd i wneud newidiadau o ran prosesau a gweithdrefnau.
- Darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol drwy gydlynu newid sy’n arwain at wella profiad rhanddeiliaid mewnol ac allanol o’r Gwasanaeth Trwyddedu.
- Cydlynu ac arwain y gwaith o baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau trwyddedu yn ymwneud â’ch maes gwaith neilltuedig.
- Cynrychioli’r Gwasanaeth Trwyddedu mewn grwpiau technegol mewnol perthnasol ac mewn digwyddiadau rhanddeiliaid allanol perthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol perthnasol.
- Dealltwriaeth fanwl o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae’n ymwneud â’r broses trwyddedu gosodiadau.
- Profiad helaeth o asesu ceisiadau trwyddedu gosodiadau cymhleth neu brofiad gwaith ymarferol arwyddocaol mewn diwydiant prosesu rheoleiddiol.
- Sgiliau hyfforddi a mentora amlwg.
- Ymagwedd sy’n canolbwyntio’n gryf ar y cwsmer o ran cyflawni.
- Hanes blaenorol o gyflenwi’r datrysiadau gorau posibl trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg.
- Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.