Swyddog Hydrometreg a Thelemetreg

Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Hydrometreg a Thelemetreg, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 202923

Y rôl

Sicrhau rheolaeth, darpariaeth a datblygiad effeithiol o wasanaethau data hydrometrig CNC sy'n hanfodol i CNC a phartneriaid allanol er mwyn caniatáu i benderfyniadau priodol gael eu gwneud mewn modd cost-effeithiol ac amserol. Sicrhau darpariaeth o ran dadansoddi, dilysu a deillio data hydrometrig yn unol â safonau ac amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer CNC a phartneriaid allanol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC sydd agosaf at eich cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan fyddwch yn cael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Alison Hanson ar Alison.Hanson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithio gyda thimau Hydrometreg a Thelemetreg gweithredol a chleientiaid lleol i bennu blaenoriaethau priodol o fewn cynlluniau gwaith lleol, i gefnogi cyflawni Cynlluniau Cyflawni'r Gyfarwyddiaeth ac i sicrhau bod amcanion strategol yn cael eu cyflawni.
  • Sicrhau bod data hydrometrig yn cael ei ddilysu, ei ddadansoddi , ei ddeillio a’i ddehongli drwy lynu wrth safonau cenedlaethol a rhyngwladol ac arfer gorau yn unol â safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
  • Cyfrannu at ddatblygiadau cenedlaethol mewn technegau rheoli a dilysu data.
  • Cynnal, rheoli ac optimeiddio gweithrediad systemau data hydrometrig i gasglu, archifo a darparu data amserol i staff CNC, partneriaid allanol a systemau busnes.
  • Sefydlu a chynnal amrywiaeth eang o gysylltiadau mewnol ac allanol er budd Cyfoeth Naturiol Cymru.  Darparu data a gwybodaeth gywir ac amserol sy'n mynd i'r afael ag anghenion cwsmeriaid mewnol ac allanol, gan geisio gwella ansawdd a safonau gwasanaeth yn barhaus o safbwynt y cwsmer. 
  • Cyfrannu at ddatblygu cyngor a chanllawiau ar gyfer monitro hydrometrig yng Nghymru, wrth ddatblygu safonau ar gyfer dilysu data a phrosesu paramedrau hydrometrig a pholisïau sy'n ymwneud â llywodraethu data hydrometrig.
  • Cymryd rhan mewn neu arwain prosiectau ar gyfer hydrometreg neu systemau neu asedau cysylltiedig.
  • Mentora, addysgu neu hyfforddi eraill yn ôl yr angen ar waith cysylltiedig i helpu i ehangu gallu technegol, dealltwriaeth a throsglwyddo gwybodaeth.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd berthnasol neu brofiad cyfatebol.
  2. Dealltwriaeth a gwybodaeth ddangosadwy o hydrometreg, hydroleg, neu reoli risg llifogydd.
  3. Gwybodaeth sylfaenol am y safonau Prydeinig, Ewropeaidd a Rhyngwladol sy'n ymwneud â Hydrometreg a'i mecanweithiau, gan alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu data hydrometreg priodol.
  4. Sgiliau TGCh rhagorol a defnydd blaenorol o gyfres feddalwedd WISKI.
  5. Sgiliau a phrofiad o reoli a thrin data.
  6. Gallu gweithio'n annibynnol gyda safonau llywodraethu uchel gan ddangos menter bersonol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf