Uwch Swyddog Amaeth
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg yng Nghanolbarth Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Adfer Afon Gwy / Gweithrediadau Canolbarth Cymru
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan until 31 Mawrth 2026
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203596
Y rôl
Crëwyd Tîm Adfer Dalgylch Gwy Uchaf i gyflawni gwelliannau sy’n mynd i’r afael ag ystod o ffactorau sy’n effeithio ar ACA Gwy Uchaf. Nod y prosiect yw dodi gytundeb gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i gwblhau gwaith a ariennir yn llawn ar eu tir er mwyn:
- adfer a gwella cynefinoedd yn yr afon, ar lannau’r afon ac yn y dalgylch ehangach
- lleihau faint o waddodion a llygryddion sy’n mynd i mewn i’r afonydd; a
- chynyddu gallu’r afon i wrthsefyll tywydd eithafol a thymheredd uwch o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd
Byddwch yn adrodd i Arweinydd Tîm Adfer Dalgylch Gwy Uchaf ac yn gweithio ochr yn ochr â dau uwch swyddog arall yn y tîm, gyda phob un ohonoch yn arwain are ich meysydd arbenigol eich hunain – ar gyfer y rôl hon, byddwch yn arwain ar Amaethyddiaeth.
Bydd eich rôl yn cynnwys gweithio o’r swyddfa ac ar y safle yng nghanolbarth Cymru. Byddwch yn cynllunio, cyflawni a goruchwylio ymweliadau cynghori ar ffermydd, gan geisio nodi meysydd lle byddai modd gwneud gwaith i wneud cynnydd gyda nodau’r prosiect. Mae sgiliau Cyfathrebu da yn hanfodol ar gyfer cydweithio gyda thirfeddianwyr a sefydliadau eraill i gwblhau gwaith are u tir. Byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad i aelodau’r tîm ar Bolisïau a Rheoliadau Amaethyddol Cymru, a Pholisïau a Rheoliadau Amgylcheddol mewn perthynas â’r cyngor a roddir i ffermwyr. Lle bo gwaith gwella’n briodol, byddwch yn gyfrifol am ymgeisio ar gyfer cydsyniadau amgylcheddol, gwneud trefniadau ffurfiol gyda thirfeddianwyr a chaffael a rheoli contractwyr fframwaith CNC i gyflawni’r gwaith a argymhellir.
Ynghyd ag aelodau eraill o’r tîm, byddwch yn cefnogi’r Arweinydd Tîm i sicrhau bod amcanion a thargedau’r prosiect yn cael eu cyflawni, ac adrodd ar gynnydd yn unol â cherrig milltir y cytunwyd arnynt. Byddwch yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei lywodraethu’n dda, gan gynnwys cydymffurfiaeth lem gydag arferion caffael, iechyd, diogelwch a lles CNC.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Susie Tudge at
susie.tudge@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae Tîm Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn rhan o’r adran Prosiectau Strategol o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Mae’r tîm yn gweithio ar draws dalgylch afon Gwy gan gwmpasu’r ddau dîm amgylcheddol, Gogledd a De Powys. Mae’r tîm yn cydweithio o fewn CNC yn ogystal â rhanddeiliaid allanol i gyflawni gwelliannau i adfer cyflwr ACA Gwy Uchaf. Mae’r tîm yn sicrhau ein bod yn deall yr heriau a’r pwysau o fewn yr ardal a allai effeithio ar yr amgylchedd a’n cymunedau. Mae’r gwaith yn cael ei ariannu drwy Gronfa Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, dan y Rhaglen Ansawdd Dŵr.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a chydlynu cyngor ac arweiniad technegol arbenigol o amrywiaeth o ffynonellau; sicrhau fod penderfyniadau’n seiliedig ar farn dechnegol gadarn, yn unol â deddfwriaeth gyfredol ac arfer gorau.
- Gweithio gydag aelodau tîm y prosiect, staff eraill CNC, ffermwyr, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid allanol eraill, i gynllunio, datblygu a chyflwyno rhaglen fanwl o welliannau i ffermydd, gwelliannau rheoli tir a phrosiectau adfer afonydd.
- Gweithio'n agos â ffermwyr, tirfeddianwyr eraill a phartneriaid y prosiect i gyflawni ystod eang o brosiectau i leihau mewnbynnau gwaddod a maetholion yn Afon Gwy.
- Cyflawni gwaith rheoli (megis contractau ffensio) ac adfer ar safleoedd i fodloni safonau rhagorol drwy gyfuniad o waith uniongyrchol ar y safleoedd a goruchwylio contractwyr arbenigol.
- Datblygu a rheoli contractau lluosog sy'n gorgyffwrdd er mwyn cwmpasu pob agwedd ar y prosiect.
- Cadw cofnodion manwl o gynnydd wrth weithredu'r prosiect i gefnogi adrodd ar gerrig milltir allweddol. Casglu a darparu data monitro’r prosiect i'r Uwch Swyddog Adfer Afonydd (Monitro) i fesur effeithiolrwydd camau gweithredu'r prosiect. Cyflwyno a rhannu canlyniadau a dysgu drwy adroddiadau ysgrifenedig a dulliau eraill.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd y Tîm Adfer a chyfrannu'n weithredol atynt a chefnogi'r Arweinydd Tîm yng nghyfarfodydd Bwrdd y Prosiect a'r Grŵp Llywio.
- Sefydlu a datblygu grwpiau clwstwr o ffermydd yn ardaloedd blaenoriaeth y prosiect, trefnu a mynychu digwyddiadau a rhoi sgyrsiau i’r grwpiau hyn i ddatblygu eu dealltwriaeth o’n prosiect a materion adfer afonydd ehangach.
- Rheoli'r gyllideb a ddyrennir i elfennau’r prosiect yr ydych yn gyfrifol amdanynt a chynnal cysylltiadau â chyflenwyr trydydd parti i fodloni gofynion gwerth am arian a phroffil gwariant.
- Gyda dau Uwch Swyddog arall yn y tîm, bod yn gyfrifol ar y cyd am oruchwylio, mentora a hyfforddi pedwar Swyddog Adfer Afonydd yn y swydd.
- Cydgysylltu â ffermwyr a thirfeddianwyr ac arwain ar gytuno ar Gytundebau Rheoli Tir gyda chymorth yr Arweinydd Tîm a Syrfëwr CNC yn ôl yr angen.
- Darparu cefnogaeth i’r holl staff maes yn ystod absenoldeb yr Arweinydd Tîm.
- Gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu i gynyddu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r gofynion ar gyfer, a manteision cymdeithasol sy'n deillio o adfer afonydd, LIFE a chyfres safleoedd Natura 2000.
- Adolygu tystiolaeth o dechnolegau amaethyddol ac amgylcheddol newydd a datblygol a'u cymhwysedd, gan ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a manteision i'w defnyddio gan y prosiect.
- Darparu datblygiad technegol parhaus i'r tîm, gan arwain a hyfforddi ar weithdrefnau a thechnegau newydd a rhai cyfredol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd mewn pwnc amaethyddol, biolegol, gwyddor amgylcheddol, neu ddaearyddol neu brofiad perthnasol mewn disgyblaeth.
- Profiad o weithio mewn amaethyddiaeth a gweithio gyda ffermwyr a gwybodaeth fanwl o arferion amaethyddol.
- Gwybodaeth fanwl am Bolisi a Rheoliadau Amaethyddol Cymru, a Pholisi a Rheoliadau Amgylcheddol mewn perthynas â ffermio.
- Profiad o reoli prosiectau.
- Profiad o reoli contractwyr
- Arbenigedd mewn cynllunio gwaith, cyllidebu a rheoli contractau.
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol, a gwybodaeth a phrofiad o roi deddfwriaeth berthnasol y DU ac Ewrop ar waith.
- Sgiliau ardderchog o ran gweithio mewn tîm a chyfathrebu, ynghyd â’r gallu i gynrychioli’r prosiect i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys rheolwyr tir.
- Y gallu i wneud gwaith maes corfforol mewn amrywiaeth o amodau tywydd a thiroedd. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar eich pen eich hun lle bo angen/lle bo’n briodol.
- Gallu gyrru car yn gyfreithiol yn y DU.
- Profiad o oruchwylio, hyfforddi a/neu fentora.
- Aelod o gorff proffesiynol (dymunol).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.