Arweinydd Tîm, Rhaglen Gweithredu Mawndir Genedlaethol

Dyddiad cau: 26 Mai | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rhaglen Gweithredu Mawndir Genedlaethol / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amswer, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 

Rhif swydd: 203785

Y rôl

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol i arwain tîm pwrpasol i adfer a rheoli mawndiroedd, fel rhan o Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) Cymru. 

Fel Arweinydd y Tîm, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o gyflawni prosiectau adfer mawndiroedd, gan weithio gyda'r tîm NPAP ehangach, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac ystod eang o randdeiliaid allanol. 

Byddwch yn arwain eich tîm drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ariannu, gan gynnwys Cytundebau Rheoli Tir, Caffael a Grantiau, i adfer a rheoli ardaloedd mawndir yn effeithiol ledled Cymru.

Byddwch yn sicrhau bod amcanion a thargedau'r prosiect yn cael eu cyflawni, ac yn adrodd ar gynnydd yn unol â cherrig milltir y cytunwyd arnynt.  Byddwch yn sicrhau llywodraethu da, gan gynnwys glynu’n gaeth at arferion caffael, gweithrediadol, ac iechyd a diogelwch CNC yn ogystal â chadw at holl ofynion rhaglen NPAP.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i chwarae rhan flaenllaw yng nghadwraeth a rheolaeth ecosystemau mawndir hanfodol yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio cyfeiriad ymdrechion adfer mawndiroedd yn y dyfodol, gan gyfrannu'n sylweddol at gynaliadwyedd y cynefinoedd pwysig hyn.


Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mannon Lewis Mannon.Lewis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Mae’n bosibl y bydd angen gwiriadau fetio gan ddibynnu ar y rôl. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 6 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain y tîm yn effeithiol a rheoli’r staff a’r adnoddau cyllideb i sicrhau bod amcanion a thargedau’r prosiect yn cael eu bodloni. 
  • Bod yn rheolwr llinell ar gyfer hyd at 10 aelod o staff a fydd yn cyflawni gwaith adfer mawndiroedd.
  • Gweithio ar y cyd â thimau eraill NPAP a thimau CNC i gyflawni gweithredu cydlynol a strategol ar fawndiroedd yng Nghymru.
  • Cydweithio gyda thimau eraill o fewn CNC.
  • Ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid perthnasol.
  • Mewn cydweithrediad â thîm rheoli NPAP, datblygu, cynnal a chyflwyno cynllun gweithredu manwl (gan ymgorffori blaenoriaethau’r Datganiad Ardal sydd ar waith). 
  • Monitro cynnydd yn erbyn y cynllun a chynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau y caiff y prosiect ei gyflawni’n llawn o fewn yr amserlen.
  • Darparu eiriolaeth gref ac effeithiol ar gyfer adfer mawndiroedd a’i fanteision cymdeithasol o fewn ardal y prosiect. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r canlynol: systemau rheoleiddio a thrwyddedu deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE, yr hyn sy’n sbarduno polisi ac arferion sy’n ymwneud â bioamrywiaeth, a rheoli prosiectau paratoi tir ar raddfa fawr.
  2. Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig, gradd neu brofiad cyfatebol.
  3. Profiad o reoli llinell.
  4. Profiad o reoli prosiectau, gan gynnwys rheoli cyllidebau, rhaglennu gwaith a chyflawni prosiectau paratoi tir.  
  5. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o dechnegau adfer mawndiroedd ac o’u rhoi ar waith mewn cyd-destunau penodol.
  6. Profiad a gwybodaeth am yr amrywiaeth o gynefinoedd mawndir yng Nghymru ac achosion a symptomau dirywiad ecosystemau.
  7. Profiad clir o weithio mewn partneriaeth a gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr.
  8. Gwybodaeth am gomisiynu a rheoli prosiectau paratoi tir, gan gynnwys cynhyrchu manylebau technegol, rheoli contractwyr a defnyddio rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladau (CDM).
  9. Dealltwriaeth o ffermio da byw yng Nghymru a chymunedau ffermio. 
  10. Sgiliau da o weithio mewn tîm a chyfathrebu. 
  11. Y gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol clir a chryno. 
  12. Gallu gyrru car yn gyfreithiol yn y DU. 
  13. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn ôl y galw.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf