Arweinydd Tîm, Cymorth Data Mawndir

Dyddiad cau: 26 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rhaglen Gweithredu Mawndir Genedlaethol / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203809

Y rôl

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol hynod fedrus a phrofiadol i arwain tîm sy'n gyfrifol am ymgymryd â rhaglenni strategol a chymhleth o ddadansoddi data, dilysu data a synthesis tystiolaeth, gan ddefnyddio GIS a llwyfannau eraill, i lywio a gweithredu Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). 

Bydd y rôl hon yn ganolog wrth ddarparu allbynnau dadansoddol o ansawdd sicr i'w cynnwys mewn adroddiadau a dangosyddion cenedlaethol, gan sicrhau bod tystiolaeth gadarn yn cael ei chyflwyno i gefnogi gwaith rheoli ac adfer mawndiroedd ledled Cymru.

Fel Arweinydd y Tîm, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod cyfraniadau eich tîm yn cefnogi cyflawniad amcanion a thargedau'r rhaglen yn uniongyrchol. Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno allbynnau o ansawdd uchel yn amserol, gan sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau a'r terfynau amser sefydledig. Yn ogystal, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth gaeth at fframweithiau llywodraethu CNC, gan gynnwys prosesau caffael, arferion gweithredol, a safonau iechyd a diogelwch, ochr yn ochr â holl ofynion perthnasol y rhaglen NPAP.

Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfrannu at lwyddiant parhaus NPAP ac i chwarae rhan sylweddol wrth hyrwyddo rheolaeth mawndiroedd Cymru drwy wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mannon Lewis Mannon.Lewis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Mae’n bosibl y bydd angen gwiriadau fetio gan ddibynnu ar y rôl. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 6 wythnos i'r dyddiad cau. 

 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Byddwch yn gweithio gydag arbenigwyr technegol ar draws y sefydliad a chydag ystod o randdeiliaid a sefydliadau partner sy'n ymwneud â gwaith monitro a dadansoddi.  
  • Arwain tîm sy’n cynnal dadansoddiad data cymhleth, syntheseiddio tystiolaeth, a dehongli gan ddefnyddio GIS a llwyfannau eraill i lywio a dylanwadu ar gyfeiriad strategol ar gyfer monitro rhaglenni adfer mawndiroedd yng Nghymru, ac i ddarparu canlyniadau gyda sicrwydd ansawdd i’w cynnwys mewn adroddiadau a dangosyddion amgylcheddol cenedlaethol.
  • Arwain a datblygu staff i sicrhau bod y tîm yn cyfrannu at gyflawni Cynllun Gwasanaeth CNC a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP), yn ogystal â blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol ac adrannol ehangach. 
  • Arwain ar gomisiynu a rheoli prosiectau technegol cymhleth ar draws ystod eang o themâu amgylcheddol sy’n berthnasol i reoli mawndiroedd yn gynaliadwy, gan weithio gydag arbenigwyr a staff technegol o bob rhan o’r sefydliad, a chyda chontractwyr a phartneriaid allanol.
  • Rhyngweithio ag ystod o gyrff llywodraeth, asiantaethau a phartneriaid sy'n gweithio ar brosiectau dadansoddol sy'n ymwneud â chyflawni, monitro ac adrodd ar NPAP ar lefel Cymru a'r DU.
  • Bod yn atebol am lesiant, datblygiad a pherfformiad tîm mawr sy’n ddaearyddol wasgaredig a chadw at bolisïau a gweithdrefnau CNC. Yn cynnwys trosolwg o Iechyd a Diogelwch mewn amgylcheddau risg uchel.
  • Hysbysu datblygiad Cynllun Gwasanaeth CNC a NPAP mewn perthynas â rheoli data, dadansoddi a chyflawni gweithredol, yn ogystal â chynlluniau a strategaethau perthnasol eraill yn fewnol ac yn allanol.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol mewn rheoli data, GIS a thechnegau arsylwi’r ddaear ac adrodd mewn perthynas ag adfer mawndiroedd (gan gynnwys datblygiadau technolegol ym meysydd synhwyro o bell) er mwyn darparu trosolwg technegol o waith y tîm, a darparu cyngor technegol ( ysgrifenedig, llafar a chyflwyniadau) yn fewnol i gydweithwyr ac uwch reolwyr ar gylch gwaith y tîm.
  • Gweithio ar y cyd ar draws Gwasanaeth NPAP a chydag adrannau a chyfarwyddiaethau ehangach. 
  • Sicrhau bod holl aelodau’r tîm yn cynnal sgiliau ac arbenigeddau priodol.
  • Sicrhau bod o leiaf un aelod o'r tîm yn gallu siarad Cymraeg hyd at Lefel 4 neu uwch.
  • Gofalu bod y tîm yn cyfrannu at ddatblygu dulliau monitro a dadansoddi newydd ac arloesol i hybu effeithlonrwydd a gwelliannau i waith monitro ac adrodd amgylcheddol CNC.
  • Bod yn rheolwr llinell uniongyrchol 6 aelod o staff. Efallai y bydd rhywfaint o angen rheoli matrics o ran staff eraill mewn timau NPAP eraill sy'n gweithio gyda data.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Bydd gennych brofiad a gwybodaeth dda mewn un neu fwy o feysydd dadansoddi data, synthesis tystiolaeth, arsylwi’r ddaear a rheoli data, a dealltwriaeth gadarn o ddulliau ystadegol a’r defnydd o raglenni dadansoddi ystadegol a gofodol (gan gynnwys R ac ESRI).
  2. Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig, gradd neu brofiad cyfatebol.
  3. Bydd gennych brofiad blaenorol o arwain a rheoli prosiectau technegol.
  4. Profiad o reoli tîm mawr sy’n ddaearyddol wasgaredig.
  5. Sgiliau annog, mentora a datblygu staff.
  6. Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cryf.
  7. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, gan esbonio materion a chael cefnogaeth trwy ddylanwadu, yn enwedig gyda rhanddeiliaid allweddol, ac ar lefel uwch.
  8. Profiad o reoli cyllidebau.
  9. Sgiliau rheoli prosiectau.
  10. Bydd gennych sgiliau datrys problemau datblygedig, gyda'r gallu i dynnu gwybodaeth allweddol a'i chyflwyno mewn modd clir a chryno i ystod o gynulleidfaoedd yn ysgrifenedig ac ar lafar.

 

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf