Uwch Arbenigwr Tir a Natur
Dyddiad cau: 10 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Grŵp Tir a Natur / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos yn dechrau 18 Awst 2025
Rhif swydd: 203818
Y rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau meddwl strategol cryf i chwarae rhan allweddol yn ein Grŵp Tir a Natur newydd. Byddwch yn adrodd i’r Rheolwr Tir a Natur ac yn gyrru’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r Rhaglen Tir a Natur, yn cefnogi mentrau trawsgrŵp, ac yn rheoli cofrestr risgiau’r grŵp busnes.
Fel yr arweinydd technegol yn eich maes arbenigedd, byddwch yn darparu cyngor arbenigol i Lywodraethau Cymru a’r DU, yn arwain grwpiau llywodraethu technegol Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth amgylcheddol. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth arbenigol am Dir a Natur, gyda ffocws ar un neu fwy o’r meysydd pwnc canlynol: coedwigaeth, amaethyddiaeth a gweithgareddau rheoli tir, rhywogaethau’r tir ac ecoleg y tir. Bydd eich arbenigedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiadau deddfwriaethol, yn llywio polisi’r llywodraeth, ac yn helpu i siapio agendâu rhanddeiliaid allanol. Yn hollbwysig, byddwch hefyd yn helpu i droi deddfwriaeth, polisi a strategaeth gymhleth yn ddatrysiadau ymarferol ar lawr gwlad sy’n cefnogi gwaith rheoli tir a natur yn gynaliadwy a chyfrifol ar hyd a lled Cymru.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth parhaol i bolisïau amgylcheddol Cymru a’r gwaith o reoli ein hadnoddau naturiol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Michelle Griffiths michelle.griffiths@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r Grŵp Tir a Natur yn rhan o’r Adran Bolisi Rheoli Adnoddau Naturiol o fewn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Mae’r adran hon yn gyfrifol am ddiffinio a pherchnogi’r canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol ar draws ecosystemau — gan gynnwys y tir, dŵr, y môr, ac ardaloedd trawsffiniol — i helpu i wireddu gweledigaeth Cynllun Corfforaethol CNC o fyd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.
Mae ein tîm yn gyrru’r weledigaeth hon drwy arwain ar waith cynllunio amgylcheddol integredig, gan flaenoriaethu adnoddau ble gallant gael yr effaith fwyaf. Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau cyflawni, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau partner i ddarparu cyngor arbenigol a chefnogi canlyniadau amgylcheddol effeithiol ledled Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a rheoli’r adolygiad o ddata a gwybodaeth gymhleth i nodi bylchau a rhwystrau i gyflawni canlyniadau amgylcheddol.
- Datblygu polisïau, Strategaethau, Cynlluniau a Rhaglenni ar gyfer portffolio eang o ddisgyblaethau sy’n ymwneud â Rheoli Tir a Natur, gan gynnwys gofynion deddfwriaeth Gymreig, ac ysgogi cydweithio ac integreiddio â meysydd perthnasol eraill o ran polisi, strategaeth, cynlluniau, rhaglenni, mecanweithiau cyllido a chynllunio datblygiadau.
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a’r DU fel sy’n briodol, ac yn ei dro adolygu a chynghori ar y polisi, y cynlluniau, y strategaethau a’r mecanweithiau ariannu a gynhyrchir, gan gynnwys buddsoddiad gwledig drwy amaethyddiaeth a choedwigaeth a mentrau buddsoddi gwyrdd.
- Cadw perchnogaeth a throsolwg dros faes polisi Defnydd Tir a Rheoli Natur (a) i sicrhau bod dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyson â Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog a (b) drwy ddull yn CNC sy’n seiliedig ar raglenni a gwasanaethau ac sy’n cefnogi cyflawniad gweithredol polisïau a rhaglenni.
- Adolygu a throsolwg strategol dros anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth cymhleth yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Arwain a chyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Llywio trosolwg a pherchnogaeth dros y gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig â Rheoli Tir a Natur yn Gynaliadwy.
- Cydweithio â’r Arweinydd Tîm/Rheolwr i ddatblygu a chyflwyno cynllun Sgwrs y cytunir arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â Defnydd Tir Cynaliadwy a Rheoli Natur; yr hyn sy’n sbarduno polisi Llywodraeth Cymru, y DU a’r UE yn ymwneud â Rheoli Tir yn Gynaliadwy, a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Dealltwriaeth fanwl o ddisgyblaeth/pwnc Rheoli Tir a Natur a’r amrywiaeth gymhleth o ysgogwyr a rhwystrau i gyflawni, gan gynnwys arbenigedd yn un o’r meysydd canlynol – Coedwigaeth, Amaethyddiaeth a Rheoli Tir, Rhywogaethau ac Ecoleg y Tir.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i ymdrin â’r blaenoriaethau, y sbardunau a’r rhwystrau cymhleth a wynebir gan CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflawni canlyniadau Defnydd Tir Cynaliadwy a Rheoli Natur yng Nghymru.
- Profiad o’r canlynol: gweithio ar lefel genedlaethol, y DU a rhyngwladol yn rheoli portffolio o raglenni gwaith sy’n gysylltiedig â Rheoli Tir a Natur.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu’n gweithio tuag at ddod yn aelod.
- Cynrychioli’r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn yr arena gyhoeddus.
- Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.