Cymorth Technegol Morol
Dyddiad cau: 11 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 4 £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Prosiectau/Gweithrediadau Morol
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026 gyda phosibilrwydd o estyniad
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203873
Y rôl
Darparu cymorth technegol i dîm prosiectau morol, gan gefnogi’r gwaith o adalw, fformatio a thrin data i'w ddefnyddio ar gyfer dadansoddiadau a gwerthusiad pellach. Bydd y rôl hefyd yn helpu gydag ymchwil ac ysgrifennu adroddiadau. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda thimau morol eraill (ee monitro morol, gwaith achos, tystiolaeth) yn ogystal â defnyddio gwahanol systemau (ee Marine Recorder) a meddalwedd i ddod o hyd i ddata perthnasol a'i wneud yn ddefnyddiadwy at ddibenion eraill, fel sy'n ofynnol gan swyddogion y prosiect.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Lily Pauls at lily.pauls@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi rhaglen gyffrous newydd o waith morol ar waith gyda chymorth Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cyflawni prosiectau sy'n adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar wella cyflwr safleoedd gwarchodedig. Bydd CNC yn cyflwyno cyfres o brosiectau sy’n canolbwyntio ar arfordiroedd a moroedd Cymru. Yn ogystal, byddwn yn gwneud gwaith dichonoldeb a thystiolaeth a fydd yn ein helpu i roi gwell rheolaeth ar waith ar gyfer ein harfordiroedd a’n moroedd yn y dyfodol.
Yn y rôl hon, byddwch yn rhan o’r Tîm Prosiectau Morol ac yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o arbenigwyr technegol yn CNC, a phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithio fel rhan o dîm prosiectau morol i helpu i gyflawni rhaglen Rhwydwaith Natur forol CNC, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio data morol i lywio asesiadau cyflwr nodweddion ardaloedd gwarchodedig ac ymchwiliadau i rywogaethau morol a dirywiad cynefinoedd.
- Gweithio gyda swyddogion prosiect morol i gefnogi eu gofynion ar gyfer adalw a thrin data, gan gynnwys gwaith sy'n ymwneud â GIS
- Gweithio ar draws timau i ddeall lle cedwir data a chofnodi a ffeilio data yn ôl yr angen ar gyfer anghenion y prosiectau.
- Ymgymryd â choladu, mewnbynnu, dadansoddi ac ysgrifennu data monitro.
- Cefnogi ymatebion i geisiadau data.
- Cynorthwyo gyda gwaith maes pan fo angen.
- Cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol o ran iechyd, diogelwch a lles
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad blaenorol o weithio gyda data amgylcheddol (morol yn ddelfrydol)
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm.
- Trwydded lawn gyfredol sy’n ddilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
- Cymwyseddau TG; Profiad o ddefnyddio MS Office a chronfeydd data
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.