Rheolwr Materion Allanol
Dyddiad cau: 18/06/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyfathrebu a Materion Allanol / Cyfathrebu, Cwsmeriaid, a Masnachol
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203955
Y rôl
Datblygu, arwain, a rheoli’r ymgysylltiad strategol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y llywodraeth, diwydiant, a phartneriaid cymunedol. Byddwch yn rheoli tîm arbenigol a fydd yn llunio ac yn dylanwadu ar drafodaethau polisi, yn cynghori ar gydberthynasau allanol, gan weithio’n arbennig o agos gyda’r Prif Weithredwr a’r Tîm Gweithredol. Gan weithio’n agos gyda thimau mewnol, bydd y tîm yn darparu cyngor arbenigol ar faterion allanol, gan sicrhau ymagwedd gyson ac effeithiol at eiriolaeth, ymgysylltu â pholisi, a rheoli enw da.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Matthew Jones ar matthew.jones01@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Gan weithio’n agos gyda thimau mewnol, bydd y tîm yn darparu cyngor arbenigol ar faterion allanol, gan sicrhau ymagwedd gyson ac effeithiol at eiriolaeth, ymgysylltu â pholisi, a rheoli enw da.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rheoli ac arwain tîm, gan sicrhau bod cynlluniau gwaith yn cael eu cyflawni, a bod yn hollol atebol am ddatblygiad, perfformiad, a llesiant staff, yn ogystal â sicrhau cydymffurfedd â holl bolisïau a gweithdrefnau CNC.
- Arwain ar ddatblygu a goruchwylio’r gwaith o gyflawni Cynllun Materion Allanol CNC, gan sicrhau ymgysylltiad effeithiol â’r llywodraeth, diwydiant, a rhanddeiliaid allweddol i ddylanwadu ar bolisi a gwneud penderfyniadau yn unol â’n blaenoriaethau strategol.
- Gweithio gyda’r tîm a’r Swyddog Materion Cyhoeddus i feithrin cydberthnasau a rheoli cyswllt rheolaidd â rhanddeiliaid allweddol, gwleidyddion, a chynghorwyr gwleidyddol i’w cadw’n wybodus am bryderon gwaith a pholisi CNC, a sicrhau bod camau dilynol yn cael eu gweithredu.
- Rheoli’r gwaith o baratoi ar gyfer cyfarfodydd rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau bod staff bwrdd, tîm gweithredol, a thîm arwain CNC yn cael eu briffio’n dda ar ddiddordeb tebygol a gallant ymateb i bryderon a chwestiynau yn unol â hynny.
- Drwy ymgysylltu, cyfathrebu, dylanwadu a negodi effeithiol, a gweithio gyda phenaethiaid Lle a Gwasanaeth, datblygu a chynnal cydberthynasau gwaith da â chleientiaid mewnol a rhanddeiliaid allanol gan gynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus a sectorau diwydiannol a masnachol amrywiol
- Gweithredu er budd pennaf CNC, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wneir a’r cymorth a roddir yn gywir, a bod yr holl risgiau’n cael eu rheoli mewn modd rhagweithiol
Datblygu a goruchwylio’r ddolen adborth ar gyfer rhannu gwybodaeth i mewn i’r busnes ac ohono a sicrhau ein bod yn ymateb yn briodol - Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda phrofiad o ddarparu cyngor i uwch-reolwyr.
- Profiad helaeth o reoli ystod amrywiol o randdeiliaid.
- Sgiliau magu cydberthynasau rhagorol a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau mewnol ac allanol yn gyflym er mwyn helpu i gyflawni amcanion a datblygu eiriolaeth.
- Pragmatig a blaengar gyda’r gallu i benderfynu pryd i uwchgyfeirio materion at yr uwch-reolwyr.
- Dealltwriaeth ragorol o’r dirwedd wleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru.
- Y gallu i weithredu gyda hyder a hygrededd ar lefelau uchaf sefydliad.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol a phrofiad o weithredu mewn amgylcheddau sy’n sensitif yn wleidyddol.
- Profiad o reoli timau, gan gynnwys pob agwedd ar reoli llinell.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.