Cynghorydd Arbenigol - Dulliau Newydd ac Arloesol ar gyfer Monitro Daearol
Dyddiad cau: 10 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Monitro Strategaeth a Chynllunio / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31/07/2027
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 28 Awst 2025 - 4 Medi 2025
Rhif swydd: 203997
Y rôl
Ydych chi'n frwdfrydig am fonitro amgylcheddol arloesol? Bydd y rôl gyffrous hon yn sbarduno’r broses o fabwysiadu dulliau arloesol ym maes monitro daearol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys arsylwi'r ddaear, gwydnwch ecosystemau, bioacwsteg, Deallusrwydd Artiffisial, ac asesu effeithiolrwydd rheoli. Byddwch yn cydweithio'n agos â'n Cynghorydd Arbenigol Arweiniol a thimau maes ar lawr gwlad i lywio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data i amddiffyn tirweddau naturiol Cymru. Bydd eich gwaith yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni argymhellion Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru a helpu Cymru i gyrraedd targedau uchelgeisiol y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Ymunwch â ni a byddwch ar flaen y gad o ran gwyddoniaeth cadwraeth arloesol!
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sue Byrne
sue.byrne@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae'r swydd yn rhan o dîm cenedlaethol sy'n ymdrin â monitro daearol, dŵr croyw a morol. Rydym yn datblygu cynlluniau a strategaethau ar gyfer gwaith monitro CNC er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud defnydd effeithiol o'n hadnoddau monitro i ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Darparu cyngor technegol arbenigol i lywio’r gwaith o bennu cyfeiriad strategol CNC ar gyfer gwaith monitro daearol CNC, gan sicrhau ei fod yn addas i gefnogi ein canlyniadau corfforaethol a bodloni rhwymedigaethau statudol.
- Arwain a rheoli datblygiad rhaglenni monitro daearol sy'n gysylltiedig ag arloesedd CNC gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, a chan ystyried cyfyngiadau ar adnoddau dynol ac ariannol.
- Rhyngweithio a dylanwadu ar amrywiaeth o swyddogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner sy'n gweithio ar brosiectau monitro strategol a gweithredol ar lefel Cymru a'r DU.
- Cymryd rhan arweiniol wrth ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o hybu gwell perfformiad ac effeithlonrwydd yng ngwasanaeth monitro CNC.
- Byddwch yn arwain y newid o'r cysyniad i fabwysiadu gweithdrefnau, dulliau a chynhyrchion arloesol newydd.
- Cymryd rhan mewn grwpiau sefydledig i sicrhau bod gwaith monitro’n cael ei lywodraethu’n effeithiol o fewn CNC, a chadeirio’r grwpiau fel bo’r angen.
- Mentora cydweithwyr llai profiadol yn eich tîm.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Bydd gennych wybodaeth a phrofiad arbenigol mewn monitro daearol neu faes arloesi neu ddatblygu sy'n berthnasol i fonitro daearol, er enghraifft arsylwi'r ddaear, gwydnwch ecosystemau, bioacwsteg, deallusrwydd artiffisial, gwerthuso effeithiolrwydd rheoli.
- Bydd gennych brofiad blaenorol o arwain a rheoli prosiectau.
- Byddwch yn gyfathrebwr hyderus gyda’r gallu i gyflwyno agweddau technegol a strategol gwaith monitro i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol mewn ffordd gryno ac effeithiol.
- Bydd gennych brofiad blaenorol o ddatblygu strategaethau ac arweiniad gweithredol.
- Byddwch yn gallu adeiladu perthnasoedd effeithiol, a phrofiad o weithio gydag adrannau’r llywodraeth, y trydydd sector a rheoleiddwyr.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.