Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Safleoedd Gwarchodedig Rhyngwladol
Dyddiad cau: 10 Awst 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Polisi a Strategaeth Bioamrywiaeth / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 2 Medi 2025 - 3 Medi 2025
Rhif swydd: 203999
Y rôl
Ydych chi’n barod i arwain y ffordd wrth ddiogelu rhai o lefydd naturiol mwyaf gwerthfawr Cymru?
Fel ein Prif Ymgynghorydd Arbenigol ar gyfer safleoedd gwarchodedig a gydnabyddir yn rhyngwladol, byddwch ar flaen y gad wrth gyflawni’r nod uchelgeisiol DU a byd-eang i warchod a rheoli 30% o’r tir, dŵr croyw a’r ardaloedd morol yn effeithiol erbyn 2030.
Yn y rôl ddylanwadol hon, byddwch yn trosi polisïau a deddfwriaeth gymhleth ryngwladol yn gamau ymarferol ac effeithiol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Bydd eich arbenigedd yn arwain y ffordd wrth reoli Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Safleoedd Ramsar, ac ymyriadau cadwraeth allweddol eraill—gan helpu i sicrhau bod natur yn ffynnu ledled Cymru.
Byddwch yn cydweithio â thîm brwd ac amrywiol o arbenigwyr ar draws amgylcheddau tir, dŵr croyw a morol, gan weithio ochr yn ochr â staff gweithredol, swyddogion y llywodraeth ac arweinwyr y sector. Bydd eich dealltwriaeth fanwl o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau, Confensiwn Bern, a Chonfensiwn Ramsar yn hanfodol wrth ichi ddatblygu cyngor clir ac effeithiol a hyrwyddo dulliau arloesol i ddiogelu ein treftadaeth naturiol.
Os ydych chi wedi eich cyffroi gan y cyfle i siapio dyfodol safleoedd gwarchodedig Cymru a chael effaith go iawn ar ran natur a chymunedau, dyma’r rôl i chi!
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Neil Parker
Neil.Parker@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Bydd deiliad y swydd yn ymuno â’r tîm Polisi a Strategaeth Bioamrywiaeth o fewn y Grŵp Dulliau Integredig ar gyfer Natur, Hinsawdd a Phobl sydd newydd ei ffurfio. Mae ein Grŵp yn ymroddedig i yrru ymlaen gweledigaeth Cynllun Corfforaethol CNC o natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd drwy ymgorffori cynllunio amgylcheddol sy’n integreiddio blaenoriaethau natur, hinsawdd a chymunedau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth sy'n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau, rhaglenni CNC mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig rhyngwladol daearol, dŵr croyw a morol gan gynnwys - ond heb fod yn gyfyngedig i: Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchod Arbennig a Safleoedd Ramsar
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a'r DU fel y bo'n briodol, ac adolygu dilynol a chynghori ynghylch y polisi, cynlluniau a strategaethau a gynhyrchwyd.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o'r maes polisi adnoddau dŵr er mwyn sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Ganolog a bwriad Polisi Byd-eang.
- Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Llywio'r oruchwyliaeth a’r berchnogaeth o waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy'n gysylltiedig â Bioamrywiaeth
- Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â safleoedd gwarchodedig. Gyrwyr polisi Llywodraethau Cymru, y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ym maes bioamrywiaeth; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o'r ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.
- Profiad o’r canlynol: Dealltwriaeth fanwl o fioamrywiaeth a'r ystod gymhleth o yrwyr a rhwystrau i gyflawni.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
- Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn yr arena gyhoeddus.
- Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.