Ein proses ymgeisio

Gwneud cais
Bydd angen i chi chwilio a gwneud cais ar-lein am ein swyddi gwag.
Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi:
- roi eich manylion cyswllt a gwybodaeth bersonol arall.
- nodi lefel eich Cymraeg.
- defnyddio enghreifftiau STAR i ddangos sut rydych chi’n bodloni pob gofyniad yn yr adran ‘Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau’ yn yr hysbyseb swydd.
Bydd opsiwn hefyd i chi uwchlwytho eich CV.
Llunio’r rhestr fer
Ar ôl y dyddiad cau, bydd y rheolwr recriwtio ac aelodau’r panel recriwtio yn adolygu’r holl geisiadau.
Rydym yn gwarantu cyfweliad i bob person anabl y mae eu cais yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Os ydych chi’n cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad.
Byddwch hefyd yn cael gwybod os ydych yn aflwyddiannus yn ystod y cam o lunio’r rhestr fer.
Cyfweld
Mae pob hysbyseb swydd yn cynnwys dyddiad arfaethedig neu bendant ar gyfer cyfweliadau
Bydd hefyd yn nodi a fydd y cyfweliad ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Rydym yn defnyddio Microsoft Teams ar gyfer ein cyfweliadau ar-lein.
Bydd ein cyfweliadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn un o’n swyddfeydd.
Gallwch ofyn am gynnal y cyfweliad yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Bydd angen i chi ddweud wrthym cyn y cyfweliad os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch, fel:
- meddalwedd cyfrifiadurol penodol
- os oes arnoch angen unrhyw e-byst a dogfennau mewn fformat hygyrch
- cymorth arbenigol, er enghraifft dehonglydd iaith arwyddion
Bydd tri o bobl ar y panel cyfweld.
Dylech ddefnyddio’r dull STAR i'ch helpu i strwythuro'ch atebion yn ystod y cyfweliad.
Cynnig y rôl
Ar ôl i’r holl gyfweliadau gael eu cynnal, bydd y rheolwr recriwtio yn cysylltu â’r ymgeisydd llwyddiannus i gynnig y rôl iddynt.
Bydd y rheolwr recriwtio hefyd yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr aflwyddiannus.
Mae ein proses sgrinio ar gyfer staff newydd yn cynnwys cael geirdaon a gwirio eich hawl i weithio.