Rydym wedi ymroi i gyflawni ein gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae pob hysbyseb swydd yn nodi’r lefel o sgiliau Cymraeg y mae ei hangen ar gyfer y rôl.

Byddwn yn gofyn i chi nodi lefel eich Cymraeg llafar ac ysgrifenedig pan fyddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni.

Gallwch ganfod lefel eich Cymraeg isod.

Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg (A0)

Dealltwriaeth

Nid wyf yn gallu deall Cymraeg.

Siarad

Nid wyf yn gallu siarad Cymraeg.

Darllen

Nid wyf yn gallu darllen Cymraeg, ond gallaf adnabod geiriau/arwyddion cyfarwydd ynghyd â lluniau.

Ysgrifennu

Nid wyf yn gallu ysgrifennu yn Gymraeg.

Lefel mynediad (A1)

Dealltwriaeth

Rwy’n gallu deall cyfarchion syml bob dydd.

Rwy’n gallu deall testun byr, lle mae pobl wedi darparu gwybodaeth bersonol sylfaenol amdanaf fi neu eraill, er enghraifft ar ffurflenni.

Rwy’n gallu deall ymadroddion syml.

Siarad

Rwy’n gallu defnyddio cyfarchion bob dydd cyfarwydd ag ymadroddion sylfaenol iawn.

Rwy’n gallu cyflwyno fy hun i eraill, gofyn ac ateb cwestiynau am fanylion personol, er enghraifft lle mae person yn byw a gweithio, beth maen nhw’n hoffi gwneud a phwy maen nhw’n adnabod, amseroedd a rhifau.

Rwy’n gallu cyfathrebu mewn ffordd syml os yw’r person yn siarad yn araf ac yn glir.

Darllen

Nid wyf yn gallu darllen Cymraeg, ond gallaf ddeall testunau byr a syml iawn, enwau cyfarwydd, geiriau ac ymadroddion sylfaenol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu cyfleu neges ysgrifenedig syml neu wneud cais syml, er enghraifft drwy e-bost.

Lefel sylfaen (A2)

Dealltwriaeth

Rwy’n gallu deall pan fydd pobl yn siarad yn araf, brawddegau am sefyllfaoedd cyfarwydd bob dydd, er enghraifft gwybodaeth bersonol a gwybodaeth deuluol sylfaenol, trafod materion syml sy’n gysylltiedig ȃ gwaith, gan gynnwys beth mae person wedi’i wneud neu beth fyddent yn wneud.

Rwy’n gallu deall negeseuon ysgrifenedig am faterion bob dydd a llythyrau neu e-byst syml.

Siarad

Rwy’n gallu cynnal sgwrs syml am bynciau cyfarwydd bod dydd, disgrifio agweddau amdan fy ngorffennol a materion am fy anghenion uniongyrchol.

Darllen

Gallaf ddarllen a deall testunau byr, syml ar faterion cyfarwydd.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu negeseuon byr am bynciau cyfarwydd bob dydd gyda chydweithwyr, er enghraifft trosglwyddo neges.

Lefel canolradd (B1)

Dealltwriaeth

Rwy’n gallu deall y prif bwyntiau pan fydd person yn trafod materion ar bynciau bob dydd sy’n ymwneud tu mewn neu du allan y gweithle, neu pan fydd materion gwaith yn cael eu trafod, er enghraifft mewn sgwrs, neu mewn cyfarfod grŵp bach.

Rwy’n gallu deall erthyglau neu negeseuon e-bost uniongyrchol sy’n ymdrin â phynciau neu bynciau sy’n ymwneud â gwaith dyddiol.

Siarad

Rwy’n gallu cynnal sgwrs estynedig gyda siaradwr Cymraeg ar bwnc cyfarwydd sy’n ymwneud gyda diddordebau, teithio, neu bynciau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith.

Rwy’n gallu disgrifio profiadau a digwyddiadau, gobeithion ac uchelgeisiau, rhoi eglurhad byr a rhesymau am fy marn a’n cynlluniau.

Darllen

Rwy’n gallu darllen a deall erthyglau neu negeseuon e-bost uniongyrchol yn ymdrin â phynciau neu yn ymwneud gyda gwaith dyddiol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu llythyr neu e-bost ar bynciau cyfarwydd, er enghraifft gofyn am bethau, rhoi gwybodaeth, gwahodd person neu drefnu digwyddiad.

Lefel ganolradd uwch (B2)

Dealltwriaeth

Rwy’n gallu deall mwyafrif o drafodaethau gan gynnwys rhai trafodaethau technegol, er enghraifft trafodaethau sy’n digwydd mewn cyfarfodydd.

Siarad

Rwy’n gallu cyfathrebu a mynegi barn ar faterion cyfarwydd sy’n gysylltiedig â gwaith, er enghraifft mewn cyfarfodydd.

Rwy’n gallu disgrifio materion yn ymwneud gyda gwaith yn glir ac ymhelaethu gydag esiampla.

Darllen

Rwy’n gallu darllen a deall y mwyafrif o wybodaeth gan gynnwys rhai agweddau technegol yn ymwneud â gwaith.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu darnau byr ar ystod eang o bynciau yn ymwneud gyda fy ngwaith a meysydd o ddiddordeb gyda chymorth gwiriwr sillafu, geiriadur neu gymorth technegol.

Rwy’n gallu cymryd nodiadau neu ysgrifennu adroddiadau, gan gynnwys fy marn ar fanteision ac anfanteision opsiynau.

Lefel hyfedredd (C1)

Dealltwriaeth

Rwy’n gallu dilyn rhan fwyaf o sgyrsiau neu drafodaethau, hyd yn oed ar bynciau anghyfarwydd, oni bai bod person yn siarad gydag acen gref ac anghyfarwydd, er enghraifft mewn cynhadledd neu wrth siarad ar bwnc ar dechnegol neu arbenigol iawn.

Siarad

Rwy’n gallu siarad yn hyderus â siaradwyr rhugl am bynciau cyfarwydd sy’n ymwneud gyda bywyd bob dydd a materion gwaith.

Rwy’n gallu mynegi fy marn, cymryd rhan mewn trafodaethau, siarad yn health ar bynciau cyffredinol.

Darllen

Rwy’n gallu deall y mwyafrif o ohebiaeth, erthyglau papurau newydd ac adroddiadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda chymorth geiriadur, ac i sganio testun hir i ddod o hyd i fanylion.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu erthyglau byr, llythyron busnes ac adroddiadau ar ystod o bynciau cyffredinol, neu yn ymwneud â gwaith, ac ymateb yn gywir i’r mwyafrif o ohebiaeth gan gysylltiadau mewnol neu allanol gyda chymorth golygyddol.

Lefel hyfedredd uwch (C2)

Dealltwriaeth

Rwy’n gallu deall bron popeth a ddywedwyd neu a glywyd.

Rwy’n gallu crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, ail-greu dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad rhesymegol.

Siarad

Rwy’n gallu siarad yn health ar faterion cymhleth, cyflwyno dadleuon, ac arwain trafodaethau (er enghraifft rhoi cyflwyniadau neu gyfweliadau i’r wasg yn Gymraeg).

Rwy’n gallu mynegi fy hun yn rhugl a manwl, addasu fy arddull iaith yn ôl y gynulleidfa, er enghraifft  mewn cyd-destun ffurfiol neu anffurfiol (megis cynnal trafodaethau, defnyddio termau technegol).

Darllen

Rwy’n gallu crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ysgrifenedig, ail-greu dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad rhesymegol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu llythyron ac e-byst ffurfiol yn Gymraeg gyda chymorth golygu, ac ysgrifennu adroddiadau yn Gymraeg.

Rwy’n gallu cymryd nodiadau cywir mewn cyfarfodydd a seminarau.

Ein rhaglen hyfforddiant Cymraeg

Rydym yn cydnabod y Gymraeg fel sgìl werthfawr.

Gall ein rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg eich cefnogi i ddysgu’r iaith neu wella eich Cymraeg.

Diweddarwyd ddiwethaf