Prosiect afon Wysg yn taflu goleuni ar yr heriau a wynebir gan eogiaid

Gleisiaid eogiaid

Mae canlyniadau prosiect sy’n olrhain eogiaid ifanc (gleisiaid) yn Afon Wysg wedi datgelu rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu’r rhywogaeth wrth iddynt ymdrechu i fudo i lawr yr afon.

‘Gleisiad’ yw’r enw a roddir ar y cyfnod ym mywyd eog ifanc pan fydd yn mudo i’r môr yn y gwanwyn. 

Mae eogiaid yr Iwerydd yn treulio’u hieuenctid mewn afonydd cyn mudo i’r môr i dyfu ac aeddfedu, ac yna dychwelyd i’w hafon wreiddiol i silio. Mae mynediad rhydd a dirwystr rhwng yr afon a’r môr yn hanfodol i sicrhau bod yr eogiaid yn cwblhau eu cylchred oes. 

Sefydlwyd prosiect telemetreg gleisiaid Afon Wysg Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2021 gyda’r nod o olrhain taith y pysgod trwy’r dalgylch yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn o’u bywydau.

Bob blwyddyn mae’r prosiect yn gosod tagiau â throsglwyddyddion acwstig bach arnynt ar hyd at 100 o leisiaid yn nalgylch uchaf Afon Wysg. Mae tua 55 o ddyfeisiau gwrando acwstig statig hefyd wedi’u gosod ar hyd yr afon. Yn benodol, i fyny ac i lawr yr afon o rwystrau posibl. Gwnaed hyn er mwyn cofnodi’r pysgod y gosodwyd tagiau arnynt sy’n mynd heibio, ac olrhain eu symudiadau.

Mae’r wybodaeth a gesglir gan y dyfeisiau gwrando yn cynnig cipolwg i symudiadau’r gleisiaid. Mae’r dyfeisiau hefyd yn darparu data ynghylch cyfraddau goroesi ac ymddygiad mudo, gan helpu i lywio gwaith rheoli a chadwraeth yr eogiaid yn y dyfodol.  

Mae’r canlyniadau wedi dangos, wrth i’r gleisiaid fudo i’r môr yn ystod y gwanwyn, y gallant gael anawsterau wrth oresgyn coredau a rhwystrau eraill o waith dyn yn yr afon, yn enwedig o dan amodau llif isel. 

Mae’r prosiect wedi casglu data mewn tarddellau gwlyb a sych, ac wedi dangos y gall pysgod y gosodwyd tagiau arnynt brofi oedi sylweddol o ganlyniad i rai adeileddau. Mae’r sefyllfa hon yn cael ei gwaethygu ymhellach gan lifau isel yn ystod blynyddoedd sych. 

Mae lefelau afonydd yn cael effaith enfawr ar gyflymder pasio heibio a chyfradd goroesi’r pysgod. Mae data olrhain wedi dangos mai dim ond 24% o’r gleisiaid y gosodwyd tagiau arnynt sy’n cyrraedd y môr yn llwyddiannus mewn blwyddyn sych, gan godi i 67% mewn blwyddyn wlyb. 

Dangosodd y canlyniadau hefyd nid yn unig bod nifer y pysgod sy’n cyrraedd y môr yn is mewn blwyddyn sych, ond eu bod yn cymryd mwy o amser i adael yr afon – pum wythnos yn hwy mewn rhai achosion. Roedd rhai pysgod yn treulio dros fis yn sownd uwchben Cored Aberhonddu.

Dywedodd Oliver Brown, sef y Swyddog Dyframaethu sy’n arwain y prosiect ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r prosiect wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n rhoi syniad da i ni o’r hyn sy’n digwydd i’r pysgod hyn ar adeg hollbwysig yn eu cylchred oes.” 

“O’r data olrhain, sy’n darparu data i ni ynghylch cyfraddau pasio heibio, goroesi a chyflymder y pysgod, gallwn weld bod y golled uchaf fesul cilometr yn ystod cyfnod mudo’r pysgod tua’r môr yn digwydd yn y rhan o’r dŵr sydd wedi cronni uwchben Cored Aberhonddu.”

Mae’r gwaith yn darparu tystiolaeth sy’n cefnogi’r gwelliannau sy’n cael eu gwneud eleni ar afon Wysg fel rhan o brosiect Pedair Afon LIFE.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn gosod llwybr newydd i leisiaid ar y gored. Bydd y llwybr (neu sianel) yn helpu’r gleisiaid sy’n mudo i lawr yr afon.

Ychwanegodd Oliver: “Gyda chyfarpar a meddalwedd arbenigol, gallwn olrhain y pysgod yn fanwl iawn nawr i blotio symudiadau pysgod unigol ar wyneb y gored. Mae hyn yn caniatáu inni weld sut maen nhw’n mynd dros y gored ar ei ffurf bresennol, a sut y byddan nhw’n defnyddio’r ysgol newydd i leisiaid pan gaiff ei gosod, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio fel y disgwylir.”

Dywedodd Susie Kinghan, Rheolwr Pedair Afon LIFE: “Mae’r ymchwil olrhain gleisiaid wedi bod yn bwysig dros ben i ni fel prosiect. Bydd y gwaith llwybr bysgod rydym yn ei wneud ar y gored yn helpu eogiaid, a rhywogaethau eraill, i symud yn rhydd i lawr yr afon, gan helpu i gynyddu eu niferoedd, sydd ar hyn o bryd yn beryglus o isel, er mwyn sicrhau gwydnwch hirdymor y rhywogaeth hon yn Afon Wysg.”

Yn 2023, cafodd eogiaid yr Iwerydd eu hailddosbarthu gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) o’r categori ‘dan ddim bygythiad’ i’r categori ‘dan fygythiad’ ym Mhrydain Fawr, o ganlyniad i ostyngiad o 30% i 50% ym mhoblogaethau Prydain ers 2006, gyda gostyngiad rhagamcanol o 50% i 80% rhwng 2010 a 2025.

Mae Afon Wysg yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) sy’n golygu ei bod o

bwys rhyngwladol am ei bywyd gwyllt a’i phlanhigion, fel eogiaid yr Iwerydd, llysywod pendoll, gwangod, pennau lletwad, dyfrgwn ac egyllt y dŵr.

Ariennir prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

Mae prosiect telemetreg gleisiaid afon Wysg yn rhan o gynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod môr CNC, sy’n anelu at ddeall y llu o ffactorau sy’n cyfrannu at y dirywiad yn y pysgodfeydd hyn a mynd i’r afael â hwy. Gwyliwch fideo yn 2022 am y gwaith yma