Genweirwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am eogiaid cefngrwm y Môr Tawel

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn apelio at enweirwyr a rhwydwyr i barhau i fod yn wyliadwrus ac adrodd am bresenoldeb unrhyw eogiaid cefngrwm y Môr Tawel a geir yn systemau afonydd Cymru eto eleni.
Er bod achosion o’r eog cefngrwm anfrodorol a geir yn nyfroedd Cymru a’r cyffiniau yn brin (dim ond un eog cefngrwm sydd wedi’i nodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, a ddaliwyd yn y trap pysgod yng Nghaer yn 2019 fel rhan o raglen asesu eogiaid Cyfoeth Naturiol Cymru), adroddwyd am niferoedd cynyddol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Dywedodd David Mee, Cynghorydd Pysgodfeydd Arbenigol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’n eithaf anarferol dod o hyd i eogiaid cefngrwm yn ein dyfroedd. Fodd bynnag, mae cynnydd sydyn mewn stociau eogiaid cefngrwm yng ngogledd Norwy yn 2019, 2021 a 2023 a chynnydd mewn adrodd am y rhywogaeth estron hon mewn rhannau eraill o afonydd y DU, yn enwedig yn yr Alban, yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn destun pryder arbennig.
“Pe bai nifer fawr o eogiaid cefngrwm i’w cael yn afonydd Cymru, gallai gael effaith negyddol ar rai o’n rhywogaethau brodorol fel eogiaid Iwerydd a brithyllod y môr, yn ogystal â rhywogaethau pysgod a geir yn ein haberoedd a’n moroedd arfordirol, a’u hecosystemau cysylltiedig.”
Nid yw effaith bosibl eogiaid cefngrwm yn glir ar hyn o bryd; fodd bynnag, gall y pysgod hyn gyflwyno parasitiaid a chlefydau nad ydynt yn bresennol mewn pysgod salmonid brodorol.
Ychwanegodd David:
“Dim ond gwybodaeth gyfyngedig sydd gennym am y bygythiad a achosir gan eogiaid cefngrwm; fodd bynnag, rydym yn gwybod bod amodau hinsoddol ac amgylcheddol yng Nghymru yn ddelfrydol ar gyfer sefydlu poblogaethau eogiaid cefngrwm yn ein systemau afonydd.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau rheoli pysgodfeydd ledled y DU ac yn rhannu gwybodaeth a chyngor i sicrhau y gellir monitro a rheoli unrhyw ymddangosiad o eogiaid cefngrwm yng Nghymru yn briodol.
“Mae data ar weld y pysgod yn hanfodol i bennu unrhyw effaith bosibl ar yr amgylchedd a rhywogaethau lleol, felly byddwn yn annog rhwydwyr a genweirwyr i gysylltu â ni os ydyn nhw’n gweld unrhyw eogiaid anfrodorol yn y dyfroedd, gyda dyddiad, lleoliad ac, os yn bosibl, lun, a fyddai’n ein helpu ni i’w hadnabod a llunio darlun o ble gallen nhw fod.”
Gofynnir i enweirwyr a rhwydwyr sy’n dal eogiaid cefngrwm beidio â’u dychwelyd i’r dŵr ond, yn lle hynny, i’w difa heb greulondeb, cofnodi dyddiad dal y pysgodyn, ei hyd a’i bwysau, a sicrhau bod y pysgodyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ei ddadansoddi ymhellach.
Rhowch wybod am y pysgodyn a ddaliwyd ar linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC, sef 03000 65 3000, neu ar-lein yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Cyngor i enweirwyr a rhwydwyr yng Nghymru
- Os ydych yn gwbl hyderus eich bod wedi dal eog cefngrwm y Môr Tawel, dylid difa’r pysgodyn heb greulondeb.
- Os nad ydych yn gwbl hyderus eich bod wedi dal eog cefngrwm, dylid rhyddhau’r pysgodyn yn ôl i’r afon yn fyw lle y cafodd ei ddal. Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw eog Iwerydd yn cael ei gadw mewn camgymeriad.
- Cofiwch – mae’n drosedd cymryd eog Iwerydd yn unrhyw un o ddyfroedd Cymru, a byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw un sydd ag un yn ei feddiant.
- Yna, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn trefnu casglu’r pysgodyn i’w archwilio ymhellach. Bydd hyn yn helpu i sefydlu toreithrwydd a graddfa dosbarthiad y rhywogaeth.
- Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen eogiaid cefngrwm y Môr Tawel Cyfoeth Naturiol Cymru / Nodi ac adrodd am eogiaid cefngrwm y Môr Tawel
Sut i adnabod eog cefngrwm:
- Smotiau hirgrwn mawr du ar y gynffon
- Cefn braidd yn las, ystlysau arian a bola gwyn
- Cennau llawer llai nag eog yr Iwerydd o’r un maint
- Ceg a thafod go dywyll
- 40-60 centimetr o hyd
- Bydd gwrywod sy’n bridio’n datblygu crib nodweddiadol
I’r gwrthwyneb, dyma nodweddion arferol eog yr Iwerydd brodorol:
- Dim smotiau ar y gynffon
- Fel arfer yn fwy (hyd at 100cm o hyd)
- Ceg a thafod gwelw
- Cennau mwy
- Un neu ddau smotyn du ar groen y dagell
- Smotiau ar y cefn uwchlaw’r llinell ystlysol
- Cynffon dewach na chynffon eog cefngrwm
Llun gan: R.Miller; The Deveron, Bogie and Isla Rivers Charitable Trust