Taflwch lein yr haf hwn a sicrhau iechyd a lles gwell

Mae'r haf wedi cyrraedd felly pa ffordd well o dreulio'r dyddiau hir o haf melyn tesog na phacio gwialen a lein bysgota ac anelu unwaith eto am eich hoff le i gael llonydd.

Mae Cymru yn ymfalchïo mewn ystod anhygoel o bysgota i bobl o bob oedran a gallu gyda miloedd o bysgotwyr eisoes yn profi'r llawenydd a'r cyffro a geir o dreulio amser yn pysgota.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog y rhai sydd am fwynhau’r wefr o ddal pysgodyn a manteision lles pysgota i wneud cais am drwydded gwialen bysgota ar-lein.

Mae pysgota'n dal i fod yn boblogaidd yng Nghymru, gyda miloedd o bobl o bob oedran a gallu yn meddu ar drwydded gwialen. 

Meddai Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr Cymru yn cynnig ystod ardderchog o weithgareddau hamdden i’r hen a’r ifanc i’w mwynhau ac mae'r amrywiaeth o bysgota sydd ar gael yng Nghymru yn ei wneud yn weithgaredd gwirioneddol gynhwysol.
"Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl ag sydd bosib brofi'r pleser pur ddaw wrth bysgota, felly drwy gydol yr haf byddwn yn annog pawb i ‘ddianc rhag y dwndwr' trwy naill ai ddychwelyd at bysgota neu roi cynnig arno am y tro cyntaf.
Mae llu o fanteision i fynd i bysgota a gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les meddyliol a chorfforol drwy gysylltu pobl â byd natur."

Os ydych chi'n 13 oed neu'n hŷn, bydd angen trwydded bysgota â gwialen arnoch chi i bysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid Conwy neu lysywod yng Nghymru neu Loegr. Mae consesiynau ar gael i bysgotwyr hŷn ac anabl, tra bod trwyddedau i bobl ifanc ar gyfer y rhai sy’n 13 i 16 oed am ddim, ond mae angen i bysgotwyr ifanc gofrestru.

Mae incwm a gynhyrchir gan drwyddedau gwialen yn helpu i ddiogelu a gwella pysgodfeydd a chyfleusterau i bysgotwyr. Mae pysgota heb drwydded gwialen ddilys yn anghyfreithlon a gallai arwain at euogfarn droseddol a dirwy.

Mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth â Pysgota yng Nghymru i hyrwyddo cyfleoedd pysgota cynhwysol ledled y wlad, gan gefnogi grwpiau fel Reel Minds CIC, prosiect cymunedol dielw sydd wedi cyflwyno mwy na 400 o bobl, llawer ohonynt yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, i bysgota dŵr croyw a môr. 

Mae gwirfoddolwyr Reel Minds yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar bysgota yn rhad ac am ddim o dan hyfforddiant arbenigol ledled De Cymru. Mae CNC wedi helpu'r grŵp drwy hepgor y ffi drwydded i'r rhai sy'n rhoi cynnig ar y gamp am y tro cyntaf.

Dysgwch fwy am y gwaith gwych mae Reel Minds yn ei wneud ar ei raglen Get Fishing yma https://youtu.be/W5HHLG0nDrs?si=liqmtVG4xxMPXiyW

Mae incwm a gynhyrchir gan y Drwydded Gwialen Bysgota hefyd yn caniatáu i glybiau pysgota ddatblygu eu cyfleusterau a darparu profiadau pysgota o'r radd flaenaf i bob rhan o Gymru.

Yn Nhorfaen, bu Crow Valley Anglers yn gweithio’n anhygoel o galed ar lyn cychod Cwmbrân i wella'r bysgodfa'n sylweddol. Mae'r clwb wedi cael cefnogaeth gan CNC a'i hyrwyddo gan Pysgota yng Nghymru, a rhanddeiliaid eraill, i greu lleoliad pysgota cynhwysol, lle gall pysgotwyr ac aelodau'r cyhoedd fwynhau'r awyr agored.

Er mwyn cael gwybod mwy am Crow Valley Anglers ewch i https://youtu.be/v5Nka3_v8xs

Mae trwyddedau ar gael am 12 mis, 8 Diwrnod ac 1 Diwrnod ac erbyn hyn gall siaradwyr Cymraeg a dysgwyr wneud cais am eu trwydded yn Gymraeg. Gellir eu prynu'n gyflym ac yn hawdd ar-lein yn "Cael Trwydded Bysgota â Gwialen" ar GOV.UK neu dros y ffôn drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0344 800 5386.

Ac mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion llawn am sut i brynu trwydded yn ogystal â rheolau ynglŷn â sut, pryd a ble y gallwch bysgota yng Nghymru, i'w gweld ar wefan CNC.

Ychwanegodd Ben:

"Os ydych chi'n newydd i bysgota neu os nad ydych chi wedi bod yn pysgota ers tro, mae digon o gefnogaeth ac arweiniad ar gael hefyd, popeth o ble i bysgota i ba offer sydd ei angen i chi ddechrau arni.
"Mae ymuno â chlwb pysgota yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd; gallwch chi rannu cwch am ddiwrnod ar gronfa ddŵr neu gofrestru ar gyfer un o'r cystadlaethau pysgota niferus sy'n cael eu cynnal ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.
"Neu os oes gennych ffrind neu berthynas a hoffai roi cynnig ar bysgota am y tro cyntaf, beth am fanteisio ar y fenter Take a Friend Fishing sy'n rhedeg o 26 Gorffennaf i 31 Awst, sydd â’r nod o roi cyfle i fwy o bobl roi cynnig ar bysgota drwy ganiatáu i bysgotwr trwyddedig gymryd pysgotwr sydd heb drwydded allan am y diwrnod.
"Er mwyn cael y cyngor gorau ar ble a sut i bysgota, ewch i wefan Pysgota yng Nghymru, fishingwales.net, lle gallwch chi ddod o hyd i bopeth fydd ei angen i chi fynd i bysgota p'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n bysgotwr profiadol. 
"Mae gwefan Pysgota yng Nghymru yn cael ei hariannu'n rhannol gan ddefnyddio incwm trwyddedau gwialen a dyma'r wefan i bysgotwyr lleol ac ymwelwyr sydd am gael gwybod am gyfleoedd pysgota yng Nghymru.
"Mae yna gyfoeth o gyfleoedd o ran pysgota yng Nghymru ac mae digon o ddewis gan gynnwys afonydd a chronfeydd bras a dyfroedd llonydd, felly nawr yw’r amser i fynd allan i bysgota."

Am fwy o wybodaeth am brynu trwydded pysgota â gwialen, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Chwilio / trwydded pysgota â gwialen

Am fwy o wybodaeth am bysgota yng Nghymru, ewch i Pysgota yng Nghymru | (fishingwales.net)

I roi gwybod am bysgota anghyfreithlon neu ddigwyddiad amgylcheddol neu lygredd, cysylltwch â'n canolfan gyfathrebu digwyddiadau 24/7 drwy ein ffurflen rhoi gwybod ar-lein. Gallwch hefyd gysylltu â ni 24/7 ar 0300 065 3000.