Gweithredwr gwastraff anghyfreithlon wedi'i ddedfrydu a'i orchymyn i ad-dalu £322,500

Pentwr o wastraff ar y safle yng Nghaerffili

Mae dyn a oedd yn rhedeg gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon mewn tri safle ar wahân ledled Cymru wedi cael ei ddedfrydu a'i orchymyn i ad-dalu £322,500 o dan y Ddeddf Enillion Troseddu.

Stephen John Williams, 69 oed o Don-du, Pen-y-bont ar Ogwr, oedd unig berchennog dau gwmni gwaredu gwastraff, Wenvoe Environmental Limited a Servmax Ltd.

Rhwng Hydref 2018 a Hydref 2019, trefnodd Mr Williams i waredu 2,600 tunnell o wastraff tecstilau halogedig yn anghyfreithlon mewn safleoedd yng Nghaerffili, y Bont-faen a Dolgellau.

Yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Hydref 2025, dedfrydwyd Mr Williams i 21 mis o garchar wedi'i ohirio am 2 flynedd yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Rhaid iddo hefyd gwblhau pum diwrnod o weithgaredd adsefydlu.

Roedd y cyhuddiadau yn erbyn Mr Williams a'i gwmnïau'n cynnwys gweithredu safleoedd gwastraff heb drwyddedau amgylcheddol, cymysgu a storio gwastraff halogedig, a methu â chymryd camau priodol fel brocer gwastraff i atal gwarediadau anghyfreithlon gan eraill.

Yn Fferm Pen Yr Heol Las yng Nghaerffili, darganfu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru 1,843 tunnell o wastraff tecstilau wedi'i fyrnu wedi'i halogi â sbwriel cyffredinol.

Roedd Mr Williams wedi honni ei fod ar gyfer ceffylau, ond ystyriwyd ei fod yn anaddas ac yn peri risg tân sylweddol. Er iddo gael rhybudd cyfreithiol i gael gwared ar y gwastraff, methodd Mr Williams â chydymffurfio.

Yn y Bont-faen, daethpwyd o hyd i 260 tunnell o wastraff tebyg mewn uned ar Ystâd Ddiwydiannol Crossways. Cyflwynodd CNC hysbysiad cyfreithiol i Mr Williams i symud y gwastraff i gyfleuster gwastraff awdurdodedig, ond methodd â chydymffurfio. Bu rhaid i’r tirfeddianwyr, nad oeddent yn rhan o'r gweithrediad, dalu £48,790 i glirio'r gwastraff.

Yn Hengwrt yn Nolgellau, daeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru o hyd i 527 tunnell o wastraff gan gynnwys dillad, carpedi, ewyn a matresi. Unwaith eto, methodd Williams â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol i glirio'r safle.

Dywedodd Su Fernandez, Uwch Swyddog Gorfodi ar gyfer CNC:

“Rhaid i fusnesau sy’n symud, storio neu frocera gwastraff wneud hynny’n gyfrifol ac o fewn y gyfraith. Pan fydd unigolion yn dewis anwybyddu'r rheolau hyn, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.

“Yn yr achos hwn, anwybyddodd Stephen Williams gyfraith amgylcheddol yn barhaus. Roedd y gwastraff yn peri risg tân sylweddol ac yn y diwedd bu rhaid i’r tirfeddianwyr dalu costau glanhau sylweddol. Er iddo gael hysbysiadau cyfreithiol, methodd Mr Williams â chymryd camau gweithredu.

“Rydym yn croesawu canlyniad yr achos hwn ac yn gobeithio ei fod yn anfon neges glir na fydd CNC yn goddef gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon. Byddwn yn mynd ar drywydd troseddwyr drwy’r llysoedd lle bo angen ac yn defnyddio pwerau o dan y Ddeddf Enillion Troseddu i adennill yr elw a wneir o droseddau amgylcheddol.”

O dan y Ddeddf Enillion Troseddu, penderfynodd y llys fod Mr Williams wedi gwneud elw o £470,189.41 o'i droseddau amgylcheddol yn seiliedig ar incwm o waredu gwastraff yn anghyfreithlon ar draws tri safle, costau treth tirlenwi y gwnaeth eu hosgoi, a llog a oedd wedi cronni ers 2019.

Nododd y llys asedau oedd ar gael i Mr Williams, yn bennaf ecwiti mewn eiddo, a oedd werth £322,500 a gorchmynnwyd iddo ad-dalu'r swm hwnnw o fewn tri mis. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at ddedfryd o garchar o dair blynedd a chwe mis, na ellir ei gohirio.

Cadarnhaodd y llys hefyd y bydd y balans sy'n weddill yn parhau i fod yn orfodadwy a gall erlynwyr wneud cais i adennill rhagor o arian os bydd Mr Williams yn caffael asedau newydd yn y dyfodol. Gellir adennill y ffigur budd troseddol llawn o hyd nes ei fod wedi'i dalu'n llawn neu hyd at ei farwolaeth.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, cysylltwch â chanolfan gyfathrebu digwyddiadau 24/7 CNC drwy'r ffurflen rhoi gwybod ar-lein, neu ffoniwch 0300 065 3000.