Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwella mudo pysgod ar Afon Terrig

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau gwaith i helpu pysgod i fudo’n rhwyddach ar hyd Afon Terrig yn Sir y Fflint drwy leihau effaith strwythur o waith dyn ar yr afon.
Ar 17 Medi, trefnodd ac ariannodd staff pysgodfeydd CNC brosiect i greu dau bwll i lawr yr afon o’r strwythur gan ddefnyddio clogfeini mawr. Mae’r mesur syml ond effeithiol hwn yn codi lefelau’r dŵr islaw’r rhwystr, gan leihau’r uchder y mae’n rhaid i’r pysgod ei neidio er mwyn mynd drosto.
Nod yr addasiad hwn yw galluogi rhywogaethau o bysgod sy’n mudo, fel eogiaid a brithyllod, i gyrraedd eu mannau silio i fyny’r afon yn haws ac yn fwy llwyddiannus. Drwy ailgysylltu’r afon yn y modd hwn, mae’r prosiect yn cefnogi cylch bywyd naturiol y rhywogaethau hyn ac yn cyfrannu at iechyd cyffredinol ecosystem yr afon.
Mae’r gwaith yn rhan o ymdrechion parhaus i wella cysylltedd afonydd ar hyd a lled Cymru. Gall rhwystrau i fudiad pysgod effeithio’n sylweddol ar eu poblogaethau, gan gyfyngu ar eu gallu i atgenhedlu a ffynnu. Mae tynnu neu liniaru’r rhwystrau hyn yn gam allweddol yn y gwaith o adfer afonydd iach a gwydn.
Bydd swyddogion CNC yn dal ati i fonitro’r safle dros amser i asesu manteision y gwaith a sicrhau bod pysgod yn gallu gwneud y gorau o’r amodau gwell pan fyddant yn mudo.
Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC:
“Bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rywogaethau o bysgod yn Afon Terrig. Drwy greu’r pyllau hyn, rydym wedi lleihau’r her y mae’r strwythur yn ei achosi ac wedi rhoi gwell cyfle i bysgod gyrraedd eu mannau silio y tymor hwn. Mae’n gam bach ond pwysig yn y gwaith o gefnogi bioamrywiaeth ac iechyd hirdymor ein hafonydd.”