Cyfoeth Naturiol Cymru yn setlo trafodaethau gyda Chyllid a Thollau ei Fawrhydi
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dod i gytundeb â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) mewn perthynas â’r ymchwiliad i’r modd yr oedd CNC, yn hanesyddol, yn ymdrin â chontractwyr o ran treth – mater a adnabyddir yn fwy cyffredin fel rheolau IR35.
Mae CNC wedi cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau gyda CThEF ers i ddiwygiadau oddi ar y gyflogres IR35 gael eu cyflwyno yn y sector cyhoeddus yn 2017. Nid yw’r mathau hyn o drafodaethau yn unigryw i CNC, fel y gwelwyd ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat dros y blynyddoedd diwethaf.
Dros y cyfnod hwn, ceisiwyd eglurder ynghylch trefniadau gweithio oddi ar y gyflogres ar gyfer contractwyr a ddefnyddiwyd gan CNC am gyfnodau cyfyngedig dros nifer o flynyddoedd, pan nad oedd y sgiliau gofynnol ar gael yn y sefydliad.
Yn dilyn adolygiad o’r defnydd o gontractwyr gan y sefydliad, daeth yn amlwg bod rhai agweddau ar asesiadau CNC wedi’u camddehongli a bod gwallau yn y modd y categoreiddiwyd statws cyflogaeth rhai o’i gontractwyr.
Ym mis Chwefror eleni, ystyriodd bwrdd CNC adroddiad gan ei gynghorwyr, a derbyniodd ei argymhelliad ynghylch lefel yr atebolrwydd.
Dywedodd Syr David Henshaw, cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, fod y sefydliad yn cydnabod bod camgymeriadau wedi’u gwneud ond bod gwersi wedi’u dysgu.
Pwysleisiodd hefyd yr ymdrechion a wnaed i fynd i’r afael â phryderon CThEF, i leihau’r cosbau ariannol, a thrwy hynny wella gweithdrefnau monitro a gweithredu er mwyn rhoi sicrwydd mewn perthynas â’n dull o gydymffurfio â rheoliadau IR35 yn y dyfodol.
Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â CThEF, daethpwyd i ffigur setliad o £14,631,191.13 (gan gynnwys llog).
Yn ogystal â’r setliad, mae CThEF wedi ychwanegu dirwyon o £2.951m. Fodd bynnag, mae’r cosbau hyn wedi’u hatal, yn amodol ar CNC yn cydymffurfio ag amodau penodedig am gyfnod o 12 mis.
Dywedodd Syr David Henshaw:
“Fel y mae llawer o sefydliadau eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y Deyrnas Unedig eisoes wedi darganfod – ynghyd ag eraill sy’n wynebu problemau tebyg ar hyn o bryd - mae rheolau IR35 yn gymhleth. Ar adeg ein hasesiadau, roeddem yn credu ein bod wedi dilyn canllawiau a gweithdrefnau CThEF yn ddidwyll.
“Ond rydym yn derbyn na ddylai’r camgymeriadau a ddaeth i’r amlwg yn y pen draw fod wedi cael eu gwneud. Ein ffocws drwyddi draw fu datrys y mater gyda CThEF, gweithio ar y cyd â nhw a Llywodraeth Cymru, a chymryd cyngor yr arbenigwyr cyfreithiol a threthi sydd ar gael i lywio ein penderfyniadau.
“Mae prosesau wedi cael eu newid nawr. Nid ydym bellach yn defnyddio contractwyr oddi ar y gyflogres a’n safbwynt yw na ddylem eu defnyddio yn y dyfodol. Rydym wedi datblygu gweithdrefn newydd o’r enw ‘Ffyrdd o ddarparu adnoddau gyda phobl a sgiliau’ er mwyn cefnogi cydweithwyr wrth recriwtio adnoddau allanol ychwanegol. Mae hyn wedi bod yn destun adolygiad annibynnol, ac rydym hefyd wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod y gwiriadau a’r cymeradwyaethau cywir yn cael eu gwneud ar y lefel gywir, ac ar y cam cywir.
“Byddem yn hapus i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu gydag unrhyw gyrff cyhoeddus eraill sy’n mynd trwy broses debyg ar hyn o bryd.”
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gwnaed taliad ar gyfrif o £19 miliwn i CThEF ym mis Mawrth 2024, heb gyfaddefiad, a hynny er mwyn atal llog rhag cronni ymhellach ar unrhyw rwymedigaeth ariannol. Roedd y ffigur hwn yn seiliedig ar amcangyfrif rhagarweiniol, rhagofalus o gyfanswm y rhwymedigaeth.
Mae gwaith manwl wedi’i wneud ers hynny i sefydlu atebolrwydd manwl ym mhob achos unigol. Y cyfanswm a gadarnhawyd yw canlyniad y dadansoddiad hwn a chanlyniad cydweithio helaeth rhwng CNC, ei gynghorwyr, a CThEF.
Mae’r ffigur terfynol hefyd yn adlewyrchu’r rheol gwrthbwyso a gyflwynwyd yn 2024. Mae hyn yn caniatáu i drethi sydd eisoes wedi’u talu gan y contractwyr a chan eu cwmnïau gwasanaethau gyfrif tuag at wrthbwyso.
Bydd CNC yn trosglwyddo'r arian sydd i’w ddychwelyd gan CThEM i Lywodraeth Cymru ac mae wedi cytuno ar ostyngiad graddol yn y gyllideb i dalu'r balans sy'n weddill. Bydd y dull hwn yn cael ei ledaenu dros y blynyddoedd nesaf, gan ein galluogi i ad-dalu Llywodraeth Cymru yn llawn a diogelu’r gwaith o gyflawni’r amcanion yn ein Cynllun Corfforaethol.