CNC a Coed Cadw yn parhau â’u gwaith i warchod dolydd yr iseldir

Mae gwaith i adfer dolydd blodau gwyllt gwerthfawr yng Nghaeau Pen y Coed, ger Llangollen, wedi'i gwblhau'n ddiweddar.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ariannu gwaith rheoli prysgwydd ar y safle, sy’n eiddo i Coed Cadw. Y nod yw helpu i adfer a diogelu glaswelltir niwtral sy’n gyfoethog ei rywogaethau. Mae hwn yn gynefin prin sy’n dirywio ac nid yw ond yn bodoli mewn ychydig o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae gwaith rheoli prysgwydd blynyddol yng Nghaeau Pen y Coed yn golygu torri a thynnu prysgwydd sy'n ymledu i alluogi'r glaswelltir i ailsefydlu. Mae hwn yn ddull cadwraeth safonol a ddefnyddir i warchod dolydd ar dir isel, sy'n cynnal amrywiaeth eang o rywogaethau blodeuol sy'n hanfodol i fioamrywiaeth.
Digwyddodd y gwaith rhwng mis Ionawr a Chwefror a bydd yn parhau dros y pum mlynedd nesaf, yn amodol ar gyllid. Mae'r cynlluniau'n cynnwys ehangu'r ardal waith, torri rhagor o brysgwydd, a chynnal yr ardaloedd sydd eisoes wedi'u hadfer.
Ers yr Ail Ryfel Byd, mae 97% o ddolydd blodau gwyllt yn y DU wedi cael eu colli oherwydd newid mewn defnydd tir a dwysáu amaethyddol. Gyda chyn lleied o enghreifftiau o’r cynefin prin hwn ar ôl, mae ymdrechion i adfer a chynnal safleoedd fel Caeau Pen y Coed yn hollbwysig.
Dywedodd Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd Sir Ddinbych yn CNC:
“Mae dolydd yr iseldir yn un o’r cynefinoedd sydd dan y bygythiad mwyaf yn y DU, ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu a’u hadfer.
“Mae rheoli prysgwydd yng Nghaeau Pen y Coed yn gam allweddol i ddod â’r safle pwysig hwn yn ôl i gyflwr da, gan helpu amrywiaeth o rywogaethau blodeuol i ffynnu. Gan weithio gyda Coed Cadw, rydym wedi ymrwymo i barhau â’r ymdrech hon ac ehangu’r gwaith adfer dros y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Rebecca Good, Rheolwr Safle (Gogledd Ddwyrain a Chanolbarth Cymru) gyda Coed Cadw:
"Mae Coed Cadw yn rheoli amrywiaeth o gynefinoedd pwysig ar draws ei ystâd. Mae'r glaswelltir ym Mhen y Coed bellach yn gweld cynnydd mewn llawer o rywogaethau fel blodau menyn, meillion coch a llygad llo-mawr. Gobeithio y byddwn yn parhau i weld y rhywogaethau glaswelltir hyn yn lledu ar draws y safle."