CNC yn mynd i'r afael â bygythiad llygredd cudd o gamgysylltiadau pibellau domestig yng Nghaerdydd

Dŵr llwyd sy'n llifo trwy siambr arolygu rhwydwaith dŵr wyneb

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cymryd camau i fynd i'r afael â ffynhonnell lai adnabyddus o lygredd dŵr - offer cartref sydd wedi'u cam-gysylltu.

Ar ôl sawl adroddiad o lygredd a oedd yn effeithio ar afon Taf ger Heol Mynachdy yng Nghaerdydd ac afon Elai ger Llanfihangel-ar-Elái, datgelodd ymchwiliad CNC fwy na 30 achos o bibellau dŵr gwastraff wedi'u cysylltu'n anghywir.

Roedd y rhain yn cynnwys peiriannau golchi, toiledau, sinciau, ac estyniadau cartrefi wedi'u cysylltu'n anghywir â'r rhwydwaith dŵr wyneb yn hytrach na'r system garthffosiaeth, a hyn yn caniatáu i ddŵr gwastraff heb ei drin lifo'n uniongyrchol i afonydd, gan achosi llygredd a niweidio ecosystemau.

Llwyddodd swyddogion CNC i olrhain ffynonellau'r llygredd drwy wirio gollyngfeydd dŵr wyneb cyfagos sy'n gollwng i'r afonydd. Cyn gynted ag y gwelsant ddŵr llygredig llwyd o amgylch y gollyngfeydd, roeddent yn gwybod bod y llygredd yn debygol o fod wedi cael ei achosi gan ddŵr gwastraff.

Mae CNC yn gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru i roi gwybod i berchnogion eiddo a sicrhau bod mesurau cywirol yn cael eu cymryd. Mae llythyrau'n cael eu hanfon i gartrefi i ddatrys y problemau hyn yn brydlon.

Meddai Alex Grainger, Swyddog Amgylchedd CNC:

“Mae camgysylltiadau yn ffynhonnell gudd ond sylweddol o lygredd a gall gwallau plymwaith mewn cartrefi gael effaith sylweddol ar ein hafonydd.
“Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o’r mater hwn a helpu i ddatrys y problemau hyn er mwyn amddiffyn ansawdd y dŵr yn ein hafonydd a’n bywyd gwyllt.
“Rydym yn annog pobl i gael golwg ar eu plymwaith, ac i gysylltu â Dŵr Cymru am gyngor neu os ydynt yn pryderu am gamgysylltiad yn eu hardal.”

Er mwyn cael canllawiau neu i ddarganfod sut i roi gwybod am amheuon o gamgysylltiadau, ewch i wefan Dŵr Cymru.

Dylid rhoi gwybod am ddigwyddiadau llygredd ar-lein neu drwy ffonio llinell ddigwyddiadau 24/7 CNC ar 0300 065 3000.