Gwahodd y cyhoedd helpu i lunio dyfodol Coedwig Gwydir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd pobl i rannu eu barn ar sut mae'n bwriadu rheoli Coedwig Gwydir dros y degawd nesaf.

Mae CNC – sy'n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ledled Cymru – wedi datblygu cynllun rheoli 10 mlynedd drafft ar gyfer ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Gwydir.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar adfer coetir hynafol, plannu mwy o goed llydanddail brodorol, gwella bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd, cynyddu gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd, gwella ansawdd dŵr, a chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer hamdden a lles.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Gwydir yn cwmpasu tua 3380 hectar, gan ymestyn o Ddolgarrog yn y Gogledd i Ddyffryn Lledr yn ne'r ardal.

Gall pobl ddarllen y cynnig llawn a chyflwyno eu hadborth drwy blatfform ymgynghori ar-lein CNC, gan helpu i lunio fersiwn derfynol y cynllun.

I gefnogi'r ymgynghoriad, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal dau sesiwn galw heibio cyhoeddus lle gall ymwelwyr ddysgu mwy, gofyn cwestiynau, a siarad yn uniongyrchol â swyddogion CNC:

  • Dydd Mawrth 16 Medi, 2–7pm – Swyddfa CNC, Gwydir Uchaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0PN
  • Dydd Iau 18 Medi, 2–7pm – Neuadd Goffa Betws y Coed, Pentre Felin, Betws y Coed, LL24 0BB

Dywedodd Mike Indeka, Uwch Swyddog Cynllunio Adnoddau Coedwig ar gyfer CNC:

“Mae Coedwig Gwydir yn lle arbennig, yn gyfoethog o ran hanes a harddwch naturiol. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn amddiffyn ac yn gwella ei gymeriad unigryw wrth ei wneud yn fwy gwydn yn erbyn newid hinsawdd ac yn fwy hygyrch i bobl a bywyd gwyllt. Rydym am glywed gan bawb y mae’r goedwig yn bwysig iddynt – bydd eich barn yn helpu i lunio ei dyfodol.”

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 1 Medi tan 3 Hydref 2025.