Arwydd o obaith i un o siarcod Cymru sydd mewn perygl difrifol

Mae’n bosibl bod amcangyfrifon blaenorol am ddirywiad y maelgi, sydd mewn perygl difrifol yng Nghymru, wedi’u goramcangyfrif.
Dyma gasgliad astudiaeth a gynhaliwyd o dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain, a nododd sut mae newidiadau i arferion pysgota wedi lleihau’r siawns y bydd pysgotwyr yn dod ar draws rhywogaethau brodorol.
Wedi’i gyhoeddi heddiw (9 Mehefin 2025) yn y cylchgrawn People & Nature, mae papur gan yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau pysgota Cymru yn datgelu sut mae cyfres o newidiadau yn y sector pysgota yng Nghymru – megis llai o bysgota a llai o orgyffwrdd rhwng gweithgareddau pysgota a chynefinoedd y maelgi – wedi arwain at ostyngiad yn y tebygolrwydd y bydd pysgotwyr yn dod ar draws y creadur hwn sydd o dan fygythiad.
Daw’r canfyddiad hwn wrth i’r tîm gadarnhau sut y gallai technegau newydd eu helpu i lunio darlun mwy cywir.
Gallai monitro’r DNA a gaiff ei adael gan y maelgi yn ei amgylchedd chwyldroi eu gallu i ddeall sut mae’r pysgodyn hwn, sydd mewn perygl difrifol, yn ffynnu, trwy leihau eu dibyniaeth ar gyfarfyddiadau damweiniol.
Gan ddefnyddio arbenigedd pysgotwyr sydd wedi bod yn gweithio ar hyd a lled yr arfordir ers dros hanner canrif, ceisiodd awduron y papur archwilio amcangyfrifon blaenorol o boblogaethau’r maelgi.
Mae astudiaethau blaenorol yn awgrymu bod niferoedd y maelgi wedi gostwng 70% ers 1970 – fodd bynnag, mae’r heriau o ran monitro’r rywogaeth brin hon, sydd yn anodd ei gweld, yn golygu bod llawer o’n dealltwriaeth wyddonol gyfredol yn dod o adroddiadau pysgota am rai sy’n cael eu dal yn ddamweiniol.
Gyda’r astudiaeth yn canfod bod y tebygolrwydd y bydd pysgotwyr yn dod ar draws maelgi wedi lleihau oherwydd newidiadau i arferion pysgota ers y 1960au, gallai’r amcangyfrifon hyn fod yn adlewyrchiad o’r heriau sy’n gysylltiedig â monitro’r maelgi yn nyfroedd Cymru, y credir eu bod yn un o gadarnleoedd olaf y rhywogaeth dan fygythiad hon yng ngogledd-ddwyrain yr Iwerydd.
Dywedodd Francesca Mason, prif awdur ac ymchwilydd Cymdeithas Sŵolegol Llundain yn Labordy Ysglyfaethwyr Cefnforoedd y Sefydliad Sŵoleg:
“Mae’r canfyddiad hwn yn cynnig gobaith i’r rhywogaeth frodorol hon sydd mewn perygl difrifol. Mae’r maelgi ar fin diflannu yn fyd-eang oherwydd y difrod sydd wedi’i wneud i’w gynefin tanddwr – ac er bod ei wasgariad yn eang yn y dyfroedd o amgylch Ynysoedd Prydain ar un adeg, mae’r siarc hudolus ond swil hwn bellach yn olygfa brin.”
Mae maelgwn yn siarcod gwastad brith, lliw caramel a all dyfu hyd at 2.4m o hyd, a dyma’r unig rywogaeth o faelgi a geir yn nyfroedd yr Iwerydd yng ngogledd-orllewin Ewrop. Fel arfer, fe’u gwelir naill ai’n nofio’n araf ar hyd gwely’r môr neu wedi’u claddu o dan yr wyneb tywodlyd yn aros am bysgod llai i nofio heibio iddynt er mwyn iddynt eu dal.
Gweithiodd y tîm o Gymdeithas Sŵolegol Llundain a Cyfoeth Naturiol Cymru gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru a Genweirwyr Môr Angling Cymru i gyfweld 27 o bysgotwyr am eu canfyddiadau o’r ffactorau ecolegol, deddfwriaethol a chymdeithasol-economaidd a ddylanwadodd ar ymdrechion pysgota cychod yn nyfroedd Cymru rhwng 1968 a 2019.
Er bod llond llaw o’r 45 o ffactorau a nodwyd gan y tîm yn debygol o gynyddu’r siawns o weld maelgwn, mae’r rhan fwyaf o’r ffactorau – megis newidiadau yn y rhywogaethau targed yn newid ym mhle yr oedd y pysgotwyr yn pysgota, rheoliadau pysgota masnachol newydd, a chynnydd yn y defnydd o offer penodol i rywogaethau – yn golygu ei bod bellach yn llai tebygol y bydd pysgotwyr yn dod ar draws maelgwn, sy’n golygu eu bod yn cael eu gweld yn llai aml.
Esboniodd Francesca:
“Mae nodi sut mae newidiadau i arferion pysgota dros y 51 mlynedd diwethaf wedi effeithio ar ein gallu i’w monitro yn dangos y gallai mwy o faelgwn fod yn nofio oddi ar arfordir Cymru nag a feddyliom yn flaenorol – ond ei bod yn anoddach i ni eu gweld. Er ei fod yn arwydd da bod llai o faelgwn yn cael eu dal yn ddamweiniol, mae hefyd yn golygu bod angen bellach inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o’u monitro er mwyn creu darlun mwy cywir o’u sefyllfa.
"Mae’r gwaith hefyd yn tynnu sylw at y rheswm pam bod cadwraeth yn gweithio orau pan fyddwn yn dod â phobl ynghyd ac yn cyfuno gwybodaeth y rhai sy’n byw ochr yn ochr â’r creaduriaid hyn ag ymchwil a gwyddoniaeth arloesol.”
Mae’r maelgi yn cael ei ganfod fel arfer mewn cynefinoedd tywodlyd ar y glannau ac mae’n agored i niwed gan weithgareddau dynol anghynaliadwy.
Mae wedi’i restru fel creadur sydd mewn perygl difrifol ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ers 2006, a hwn yw’r pumed siarc mwyaf arwahanol yn esblygiadol ac mewn perygl yn fyd-eang, gan gynrychioli cangen unigryw ar wahân o bren y bywyd sydd mewn perygl mawr o ddiflannu am byth.
O dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Prosiect Maelgi: Cymru yn arwain gwaith gyda physgotwyr a chymunedau Cymru i ddiogelu’r rhywogaeth, fel rhan o waith ehangach Prosiect SIARC (Siarcod yn Ysbrydoli Gweithredu ac Ymchwil gyda Chymunedau), sy’n cydweithio â physgotwyr i ddeall siarcod a morgathod yng Nghymru yn well, wrth ysbrydoli a grymuso grwpiau ysgol i ddysgu am yr amgylchedd morol sydd ar eu stepen drws a’i amddiffyn.
Dywedodd Charlie Bartlett, pysgotwr siarter o Wynedd a chyd-awdur yr astudiaeth:
“Rydw i wedi treulio dros 50 mlynedd yn gweithio ar hyd arfordir Cymru, a thros y blynyddoedd rydw i wedi dod i adnabod y dyfroedd hyn tu chwith allan. Gyda’i esgyll mawr, gwastad, mae’r maelgi yn wahanol i unrhyw siarc arall rydyn ni’n ei weld yma – a thros y blynyddoedd rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ddod ar draws y rhywogaeth nifer o weithiau.
“Ers i mi ddechrau gweithio ar y cychod, rydw i wedi bod â diddordeb mewn deall mwy am fywyd morol yr ardal – ac mae bod yn rhan o Brosiect Maelgi: Cymru wedi bod o fudd er mwyn deall mwy am y rhywogaeth unigryw hon o siarcod yn yr ardal.
"Mae wedi bod yn wych gallu rhannu profiadau personol, lluniau a gwybodaeth llyfr log sydd wedi helpu i ddod i ddeall y maelgi yn well dros y blynyddoedd. Mae’r wybodaeth hon nid yn unig yn bwysig i’r rhywogaeth ei hun ond mae hefyd yn ysbrydoli’r genedlaethau nesaf i ddysgu mwy am y dreftadaeth bysgota yng Nghymru a’r amgylchedd morol lleol.”
Oherwydd eu bod yn anodd eu gweld a bod gwelededd yn nyfroedd Ynysoedd Prydain, sydd yn aml yn arw, yn isel, mae’r rhan fwyaf o ddata poblogaeth ar gyfer y rhywogaeth hon wedi dod o ganfyddiadau ar hap.
Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar o dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain yn cynnig ffordd newydd o fonitro’r rhywogaeth, drwy chwilio, nid am y siarcod eu hunain, ond am eu deunydd genetig yn y dŵr, a elwir yn DNA amgylcheddol (eDNA).
Gall eDNA gronni yn amgylchoedd y siarc pan fydd yn colli celloedd o groen marw neu’n colli gwaed o glwyf, gan ganiatáu i wyddonwyr nodi eu presenoldeb heb ddibynnu ar ganfyddiadau ar hap.
Esboniodd Jake Davies, Arbenigwr Technegol ar gyfer Prosiect SIARC yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain a Cyfoeth Naturiol Cymru a fu’n gweithio ar y ddwy astudiaeth:
“Gyda’u cuddliw rhagorol, un o’r heriau anoddaf sy’n ein hwynebu wrth astudio maelgwn yw dod o hyd iddyn nhw. Mae eDNA yn caniatáu inni astudio rhywogaethau heb i ni orfod eu gweld. Drwy astudio eDNA ym Mae Ceredigion a Bae Caerfyrddin, rydym wedi cadarnhau presenoldeb amrywiaeth o siarcod a morgathod brodorol – gan gynnwys y maelgi – yn y dyfroedd mwy garw hyn lle nad yw dulliau monitro eraill mor effeithiol.
"Efallai fod pysgotwyr heddiw yn llai tebygol o ddod ar draws y maelgi nag yr oeddent 50 mlynedd yn ôl, ond trwy gyfuno’r dechneg hon â gwybodaeth leol, gallwn barhau i greu darlun cryfach o’u statws a’u dosbarthiad ar hyd arfordir Cymru.”
Roedd y gwaith hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth On the Edge, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, a ddosbarthwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae Cymdeithas Sŵolegol Llundain yn credu y gellir adfer natur, a bod cadwraeth fwyaf effeithiol pan gaiff ei hysgogi gan wyddoniaeth. Rydym yn galw ar wyddoniaeth i arwain pob penderfyniad byd-eang ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth ac i adeiladu dyfodol iachach ar gyfer bywyd gwyllt, pobl a’r blaned.
Llun: hawlfraint Jake Davies – JDScuba