Abertawe yn dathlu bod yn arloeswr toeau gwyrdd Cymru ar Ddiwrnod Toeau Gwyrdd y Byd

Ddiwrnod Toeau Gwyrdd y Byd mewn Abertawe

Wrth i ni edrych ymlaen at Ddiwrnod Toeau Gwyrdd y Byd (dydd Gwener 6 Mehefin), mae Abertawe'n dathlu esiampl y ddinas wrth greu toeau gwyrdd ac ymdrechion i drawsnewid y ddinas yn lle oerach, glanach a gwyrddach i fyw a gweithio ynddo.

Heddiw (dydd Mercher, 4 Mehefin), cynhaliodd aelodau Green Roof Organisation (GRO) sy'n gyfrifol am yrru'r mudiad toeau gwyrdd yn y ddinas - Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Urban Foundry a Chyngor Abertawe - ddigwyddiad ar do gwyrdd mwyaf Cymru ym Mharc Amy Dillwyn, Arena Abertawe.

Mae gan Abertawe dros 10 to gwyrdd yng nghanol y ddinas yn unig - gyda llawer mwy ar draws y sir. Cawsant oll eu dathlu gyda balchder yn y digwyddiad arbennig a drefnwyd i ddangos pwysigrwydd toeau gwyrdd.

Mae toeau gwyrdd yn helpu trwy amsugno dŵr storm i leihau llifogydd, cadw adeiladau'n effeithlon o ran ynni, glanhau'r awyr, a chreu cartrefi hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt trefol. Maen nhw hyd yn oed yn ymestyn oes y to hyd at dair gwaith.

Mae CNC yn cefnogi'r fenter fel rhan o'i ymrwymiad i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Dywedodd Fran Rolfe, Arbenigwr Seilwaith Gwyrdd, CNC:

“Nid rhyw chwiw dros dro yw toeau gwyrdd; maen nhw’n rhan o'r dyfodol. Mae Abertawe’n falch o fod ar flaen y gad yng Nghymru a dangos sut y gall dinasoedd ffynnu gyda natur. Mae toeau gwyrdd yn ffordd syml ond pwerus o ddod â natur yn ôl i strwythurau cyffredin ardaloedd trefol, gan greu mannau iachach i bobl a natur ffynnu gyda'i gilydd."

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:

"Mae Abertawe'n dod yn ddinas fwy gwyrdd, gyda chymorth gwaith y cyngor yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur - ac roeddem yn falch o gefnogi’r digwyddiad ddydd Mercher." Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth helpu ein hamgylchedd lleol."

Pwysleisiodd Urban Foundry, y sefydliad adfywio trefol sy'n rhan o'r prosiect, bwysigrwydd ymgorffori seilwaith gwyrdd yn nyfodol y ddinas hefyd.

Dywedodd Dr Ben Reynolds, o Urban Foundry:

"Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe a Cyfoeth Naturiol Cymru i dyfu economi werdd Abertawe. Ers 2021, mae bron i 100 o bobl leol wedi hyfforddi mewn gosod toeau gwyrdd gyda ni – gan ennill y sgiliau a'r cymwysterau i adeiladu a chynnal seilwaith gwyrdd ledled y ddinas. Mae buddsoddi mewn hyfforddiant lleol yn golygu bod y gwaith yn aros yn y gymuned ac yn cael effaith hirdymor."

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu i yrru ymdrechion seilwaith gwyrdd ledled Cymru drwy gefnogi prosiectau arloesol sy'n gwneud mannau trefol yn fwy cyfeillgar i fyd natur ac yn fwy gwydn yn erbyn newid hinsawdd.

Mae'r gwaith hwn yn Abertawe yn cysylltu â rhaglenni seilwaith gwyrdd ehangach sy'n digwydd ledled y wlad, gan gynnwys y Fforwm Seilwaith Gwyrdd ac atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n cael eu hadeiladu yng nghanol Caerdydd trwy’r Rhwydwaith Ecolegol Cydnerth Trefol. Nod yr ymdrechion hyn yw gwneud mannau trefol yn fwy cyfeillgar i natur ac yn fwy gwydn yn erbyn newid hinsawdd.

Wrth i ddinasoedd ledled y byd baratoi ar gyfer Diwrnod Toeau Gwyrdd y Byd ddydd Gwener, mae Abertawe'n gwahodd pawb i ymuno â'r mudiad. Rhannwch eich lluniau a'ch straeon o doeau gwyrdd gan ddefnyddio #DTGB a #GwyrddioAbertawe, tagiwch ein partneriaid, a helpwch i ledaenu'r gair.

Ewch i https://greenthecity.co.uk/diwrnodtoeaugwyrddybyd/ i archwilio mentrau toeau gwyrdd ledled y byd a chofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau toeau gwyrdd a chyfarfodydd cymunedol yn Abertawe.