Ceidwaid Ifanc yn Dysgu Sgiliau Traddodiadol i Helpu Natur i Ffynnu yng Nghoed Nercwys

Treuliodd grŵp o Geidwaid Ifanc o Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ddiwrnod o’u gwyliau haf yn rhoi help llaw yng Nghoed Nercwys, gan helpu i dorri a chribinio’r ddôl flodau gwyllt gan ddefnyddio technegau pladuro traddodiadol.
Mae Coed Nerwcys, ardal goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a reolir mewn partneriaeth â'r tîm Tirwedd Genedlaethol, wedi cael gofal mawr ers nifer o flynyddoedd oherwydd ei flodau gwyllt. Mae'r canlyniadau wedi bod yn rhyfeddol, gyda chynnydd cyson yn lliwiau ac amrywiaeth y planhigion – golygfa werth chweil i ymwelwyr, ceidwaid a pheillwyr fel ei gilydd.
Mae dolydd fel hyn yn elwa o gael eu torri ar ddiwedd yr haf, gan ganiatáu lle i hadau newydd dyfu ac annog ystod ehangach o fywyd planhigion. Phil Lewis o Smithy Farm a oedd yn arwain ar y diwrnod a bu wrthi’n dysgu'r Ceidwaid Ifanc sut i fesur a hogi eu pladuron yn ddiogel, a sut i'w defnyddio'n effeithiol. Esboniodd hefyd pam y mae pladuro yn aml yn cael ei ffafrio dros beiriannau – mae'n dawelach, nid yw’n defnyddio tanwydd ffosil, ac mae’n rhoi cyfle i fywyd gwyllt ddianc.
Meddai Imogen Hammond, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:
“Mae ein Ceidwaid Ifanc bob amser yn awyddus i roi cynnig arni, i rai dyma eu trydedd flwyddyn yn pladuro yn Nercwys. Mae pladuro’n sgil sy’n ein cysylltu ni â’r tir a’i rhythmau ac yn gyfle rhagorol i bobl ifanc roi cynnig ar rywbeth gwahanol wrth fynd ati i helpu natur.”
Meddai Glenn Williams, Uwch Swyddog Rheoli Tir CNC:
“Mae’r math hwn o brofiad ymarferol yn amhrisiadwy. Mae'n ardderchog gweld pobl ifanc yn dysgu sgiliau traddodiadol ac yn deall sut y gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fioamrywiaeth. Mae Coed Nercwys yn lle arbennig, ac mae diwrnodau fel hyn yn helpu i sicrhau ei fod yn aros felly.”
Mae rhaglen y Ceidwaid Ifanc yn parhau i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â natur, dysgu sgiliau newydd, a chyfrannu at ofalu am eu tirweddau lleol.