Penderfyniadau rheoleiddio: beth ydyn nhw a phryd maen nhw'n berthnasol

Fel rheoleiddiwr mae gennym ddyletswydd i gymhwyso'r gyfraith. Yn gyffredinol mae gennym ddisgresiwn ynghylch pryd a sut yr ydym yn arfer ein pwerau gorfodi, fel y nodir yn gyffredinol yn ein polisi gorfodi a sancsiynau.

Fodd bynnag, mae busnesau’n aml yn troi atom am fwy o “sicrwydd rheoliadol”, gan geisio lleihau’r risg o gamau gorfodi. O dan y Cod Rheoleiddwyr ac yn unol â’n Hegwyddorion Rheoleiddio, y mae’n rhaid inni roi sylw iddynt, disgwylir i ni roi eglurder i’r rhai yr ydym yn eu rheoleiddio. Mewn ymateb, gallwn ddefnyddio “penderfyniadau rheoleiddio”. Maent yn nodi amgylchiadau pan na fyddwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi, yn amodol ar fodloni amodau penodol. Nid ydynt (ac ni allant) ddatgymhwyso'r gyfraith.

Mewn egwyddor, gall penderfyniadau rheoleiddiol fod yn gymwys i bron unrhyw ddeddfwriaeth yr ydym yn ei rheoleiddio. Mae penderfyniad rheoleiddiol yn ddatganiad cyhoeddus sy’n gymwys yn genedlaethol, sy’n nodi na fyddwn, fel arfer, ar yr amod bod cyfyngiadau ac amodau penodol yn cael eu bodloni, yn cymryd camau gorfodi os cyflawnir gweithgaredd penodedig heb gydymffurfio â gofyniad rheoliadol penodol.

Ni ddylai gweithgaredd a weithredir o dan benderfyniad rheoleiddiol achosi llygredd i'r amgylchedd, niwed i iechyd pobl na pherygl llifogydd, ac mae gweithgaredd o’r fath yn fwy tebygol o fod yn dderbyniol pan fo’n debygol o fod yn fuddiol i’r amgylchedd.

Mae penderfyniadau rheoleiddio yn destun adolygiad â therfyn amser a gellir eu tynnu’n ôl neu eu diwygio ar unrhyw adeg a gallant fod yn briodol lle:

  1. nid oes modd osgoi'r tebygolrwydd o ddiffyg cydymffurfio (er enghraifft, achosion o glefydau, methiannau cyflenwad, streiciau, ac ati) a byddant yn darparu mwy o reolaeth dros y risgiau amgylcheddol;
  2. pan fo’n ymddangos bod cymhwyso gofynion rheoleiddiol yn anghymesur â risgiau a chymhlethdod y gweithgaredd. Yn achos penderfyniadau rheoleiddiol, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu diwygiadau rheoleiddiol i Lywodraeth Cymru (fel esemptiadau newydd rhag trwyddedu amgylcheddol).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf