Croeso
Mae Coed Pen Arthur yn gorwedd ar ymyl orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r coetir hwn yn cynnwys cymysgedd deniadol o goed conwydd a choed llydanddail brodorol.
Gallwch ddilyn ffyrdd y goedwig i fyny'r allt i fwynhau golygfeydd o Ddyffryn Tywi ar un ochr a'r Mynydd Du ar yr ochr arall.
Gallwch hefyd ymuno â llwybr hir Ffordd y Bannau sydd gerllaw.
Llwybr cerdded
Nid oes arwyddion yn dangos y ffordd ar y daith gerdded hon.
Gweler y panel gwybodaeth yn y maes parcio ar gyfer y llwybr a awgrymir.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr Llecyn Gwylio Banc Carreg-foel-gam
- Gradd: Anodd
- Pellter: 4½ miles/7.3 kilometres (yno ac yn ôl)
- Amser: 3 awr
- Gwybodaeth am y llwybr: Nid oes arwyddion yn dangos y ffordd ar y daith gerdded hon. Gweler y panel gwybodaeth yn y maes parcio ar gyfer y llwybr a awgrymir. Mae’r daith i fyny’r rhiw bob cam at y llecyn gwylio ac felly mae angen lefel trwydd uchel. Mae’r cylch bychan ar y brig yn gallu bod yn wlyb ac felly argymhellwn esgidiau cerdded ar gyfer y daith hon. Dychwelwch i'r maes parcio gan ddilyn yr un ffordd yn ôl i lawr.
Golygfeydd gwych ar ddiwrnod clir o’r Mynydd Du a Dyryn Tywi yw’ch gwobr am ddringo’n hir i ben Banc Carreg-foel-gam (350m/1150 troedfedd uwchben lefel y môr).
Mae'r llecyn gwylio ar lwybr byr drwy rostir ar ddiwedd y ffordd drwy’r goedwig.

Ffordd y Bannau
Llwybr pellter hir 99 milltir (159 cilomedr) drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Ffordd y Bannau.
Gallwch ddilyn llwybr cyhoeddus o olygfan Banc carreg-foel-gam yng Nghoed Pen Arthur i ymuno â'r rhan o Ffordd y Bannau sy’n mynd i gopa'r Garn Goch.
Am lwybr cylchol, gallwch ddychwelyd ar ffordd fach i'r dwyrain o bentref Bethlehem.
Sylwer nad oes arwyddion yn dangos y ffordd ar y daith gerdded hon, ac nad ydych ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru wedi i chi adael y goedwig.
Darganfyddwch mwy am Ffordd y Bannau ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Coed Pen Arthur yn gorwedd ar ymyl orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ymweld yn ddiogel
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Trefnu digwyddiad ar ein tir
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Sut i gyrraedd yma
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Coed Pen Arthur 8 milltir i'r de-orllewin o Lanymddyfri.
Ewch ar hyd yr A4089 o Lanymddyfri i Langadog.
Ewch ar hyd yr A4069 o Langadog tuag at Frynaman.
Ar ôl 2½ milltir mae'r fynedfa i Goed Pen Arthur ar y dde.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 721 250 (Explorer Map OL 12).
Y cod post yw SA19 9PR. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Cludiant cyhoeddus
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Llangadog.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Parcio
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.