Ardaloedd Draenio Mewnol - archwiliad

Rhoddir hysbysiad drwy hyn yn dilyn Adrannau 29 a 30 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Afon Conwy; Afon Ganol; Cors Ardudwy; Cors Borth; Dysynni; Harlech & Maentwrog; Llanfrothen; Cors Malltreath; Pensyflog Glaslyn; Mawddach & Wnion; Tywyn; Powysland; Ardaloedd Draenio Mewnol Gwent

Rhwng 10 Gorffennaf 2023 a 4 Awst 2023 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn gynhwysol rhwng 10.00 am a 4.00 pm gall unrhyw un sydd â diddordeb, drwy wneud cais i catherine,allan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Cyfoeth Naturiol Cymru, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP, archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a holl ddogfennau penodedig yr Ardal a enwyd uchod ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

Ar neu ar ôl 9 Awst 2023 bydd yr Archwilydd Penodedig, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ, ar gais unrhyw Etholwr Llywodraeth Leol ar gyfer yr ardal y mae’r cyfrifon yn gysylltiedig â hi, yn rhoi cyfle i’r Etholwr neu ei gynrychiolydd ei holi ynglŷn â’r cyfrifon, a gallai’r cyfryw Etholwr neu ei gynrychiolydd ymddangos gerbron yr Ymchwilydd a gwrthwynebu unrhyw un o’r Cyfrifon.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd neu Julie Rees ar 02920 320500.

Rhaid datgan unrhyw wrthwynebiad yn ysgrifenedig ac anfon copïau o’r llythyr ymlaen i’r Archwilydd Penodedig a Chyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, CNC.

Dyddiad 27 Mehefin 2023   
Clare Pillman Prif Weithredwr, CNC

Diweddarwyd ddiwethaf