Mapiau ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn ffordd o gydweithio â phrosesau naturiol drwy ddefnyddio dulliau ymyrryd naturiol i helpu i leihau’r perygl o lifogydd.

Datblygwyd mapiau i helpu i ganfod meysydd posibl lle gellir cydweithio â phrosesau naturiol i leihau’r perygl o lifogydd afonol fel rhan o’r prosiect ymchwil Gweithio gyda Phrosesau Naturiol – y sylfaen tystiolaeth’. Darparwyd y prosiect ar y cyd hwn dan y rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol – Ymchwil a Datblygiad a reolwyd gan yr Environment Agency.

Sut i gael mynediad i’r mapiau

Cynhyrchwyd yr haenau mapio drwy ddefnyddio data mynediad agored. Gellir eu lawrlwytho o’r porth-daear ar gyfer Cymru a gellir eu gweld drwy ddefnyddio’r gwefap ar-lein.

Mae’r mapiau yn nodi meysydd posibl ar gyfer y camau canlynol:

  • ailgysylltu gorlifdir
  • nodweddion gwanhau dŵr ffo a rhwystro gylïau
  • coed yn gorchuddio coed y gorlifdir, coed ar lannau afonydd a choetir dalgylch ehangach

Cyfyngir ar botensial rhai ymyriadau gan nodweddion fel dyfnder y pridd a’r math o bridd, coetir presennol a chan seilwaith adeiledig megis ardaloedd trefol, ffyrdd a rheilffyrdd. Rhoddir set ddata cyfyngiadau mynediad agored i ddangos ym mhle y cyfyngir ar y potensial.

Mae rhagor o wybodaeth am y mapiau ar gael yn y canllaw technegol sy’n dod gyda’r mapiau.

Sut i ddefnyddio’r wybodaeth

Argymhellir defnyddio’r mapiau ochr yn ochr â’r Cyfeiriadur Tystiolaeth Gweithio â Phrosesau Naturiol i helpu defnyddwyr i feddwl am y mathau o fesurau y gellid eu defnyddio ac ym mhle fyddent fwyaf effeithiol o fewn dalgylch. 

Nid yw’r mapiau yn cwmpasu’r holl fesurau ar gyfer gweithio â phrosesau naturiol ac efallai y bydd defnyddwyr yn dymuno cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth berthnasol wrth nodi meysydd lle ceir cyfleoedd.

Ceir canllaw ysgrifenedig ochr yn ochr â’r Cyfeiriadur Tystiolaeth a’r mapiau, sy’n egluro sut i’w defnyddio i ddatblygu achos busnes ar gyfer gweithredu dulliau lle defnyddir prosesau naturiol i leihau perygl llifogydd.

Diweddarwyd ddiwethaf