Cynllun llifogydd personol

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i greu cynllun llifogydd personol gydag aelodau eich cartref.

Wrth ysgrifennu cynllun llifogydd dylech ystyried:

  • pwy all osod eich gatiau llifogydd a chynhyrchion llifogydd eraill a pha mor hir y bydd yn ei gymryd
  • pwy all baratoi eich eiddo os disgwylir llifogydd pan fyddwch chi yn y gwaith
  • beth fydd ei angen arnoch os oes llifogydd ar y ffordd ac na allwch adael eich cartref am beth amser
  • sut i gysylltu â ffrindiau a theulu os nad yw'r rhwydweithiau ffôn yn gweithio
  • gwneud nodyn o pryd mae angen trin eich pympiau neu gynhyrchion llifogydd parhaol eraill 

Ysgrifennwch eich cynllun llifogydd

 
Neu defnyddiwch y rhestr wirio hon i ysgrifennu eich cynllun eich hun:

Gofalwch eich bod yn gwybod â phwy y dylid cysylltu a sut:

  • cytunwch ar ble y byddwch yn mynd a sut i gysylltu â’ch gilydd
  • gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol a yw anifeiliaid anwes yn cael eu caniatáu mewn canolfannau argyfwng
  • gofalwch fod gennych restr o’ch holl gysylltiadau pwysig wrth law

Cadwch eitemau personol, fel albymau lluniau a chofroddion ydych yn eu trysori mewn lle diogel:

  • peidiwch â disgwyl nes bydd llifogydd i’w symud oherwydd gallai hynny fod yn rhy hwyr ac yn beryglus

Meddyliwch beth fyddai angen i chi symud i ddiogelwch yn ystod llifogydd:

  • eich anifeiliaid anwes
  • ceir
  • dodrefn
  • offer trydanol

Meddyliwch i bwy y gallech chi ofyn am gymorth, neu a allech chi gynnig cymorth i gyfeillion, i aelodau o’ch teulu neu i gymdogion bregus.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf